2 Replies to “Gwybodaeth rydd ac Amcan X”

  1. Ateb syml: “achos mae’n bosib”.

    Dyw’r ffaith fod blog yn ‘cysgu’ ddim yn lleihau eu pwysigrwydd nac yn annilysu eu cynnwys (ddim mwy na fod treigl amser yn annilysu hen rifynnau o Golwg).

    Hoffwn i allu darllen hen erthyglau cylchgronau Cymraeg e.e. colofnau Cris Dafis yn Golwg ond dyw e ddim yn bosib achos dyw’r cynnwys ddim ar lein.

    Mae blogiau ar y we yn dueddol o aros mewn sefyllfa ‘wedi ei cyhoeddi’ nes fod yr awdur yn ei dileu neu’r gwasanaeth blogio yn dod i ben. Does dim llawer o ymdrech felly i gofnodi rhestr. Efallai fod rhywun wedi blogio ambell waith yn 2005 pan oedd bron dim cynulleidfa – fydde hi’n ddiddorol i nhw gael darllenwyr newydd, i ysgogi nhw efallai i ail-ddechrau.

  2. Mae rhai o 2005 yn dal i dderbyn sylwadau, sydd tipyn bach yn rhyfedd i’r awdur yn 2011.

    Beth ydy’r ffordd gorau i ddangos yr alw am yr hen erthyglau sydd mewn archifau? Sgania a chopïa nes fod rhywun yn cwyno ac yn dechrau darparu’r stwff o’r ffynhonnell? Ac yn sylweddoli’r cyfleoedd gyda hysbysebion ar yr hen gynnwys, gwerthu argraffiadau papur o hen luniau ayyb?

    Sganiwch, rhannwch, arhoswch. Tynnwch os mae rhywun yn gofyn. Y ffordd ymlaen?
    https://morris.cymru/2010/08/yr-argyfwng-cynnwys-arlein-yn-gymraeg-hawlfraint-a-chaniatad/

    (Cyfreithiwr dw i ddim.)

Comments are closed.