Argyfwng cynnwys arlein yn Gymraeg? Hawlfraint a chaniatâd

Heno dw i’n meddwl am hawlfraint a’r iaith Gymraeg (eto).

Dw i’n meddwl am hen lyfrau a chynnwys arlein.

Stori gyntaf. Sgwennais i un o fy hoff gofnodion ym mis Mawrth 2010, Tafodieithoedd Melys (diolch blog Pethe am atgoffa fi, ti newydd wedi troi pingbacks ymlaen efallai).

Beth ddigwyddodd? Stori fer:

  • Gwelais i fap gwych o felysion yn y llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg (1989). Gwych!
  • Gwnes i ddangos y llyfr at un ffrind yn y llyfrgell. Mae hi’n hoffi awgrymiadau da.
  • Chwilio am gopi o’r llyfr arlein. Dim canlyniad. Hollol mas o brint. Grêt.
  • Rhaid i mi rannu’r map. Dylai’r byd weld y map yma.
  • Tuag wythnos hwyrach… Es i yn ôl i’r llyfrgell gyda gliniadur a sganiwr yn fy mhag.
  • Pum munud hwyrach… Mae gyda fi copi o’r tudalen a’r clawr, heb unrhyw drwydded swyddogol.

Ac wedyn gwnes i feddwl am y map eto. Dim ar gael. Ar goll – efallai am byth. Ond dw i’n gallu cadw’r map am blant, dysgwyr, academyddion, ieithyddion a chefnogwyr melysion ym mhob man! Mae’n rhy hawdd – trwy fy mlog.

Ond does dim caniatâd swyddogol gyda fi. Bydd yr awduron a phobol eraill yn anghytuno gyda fy nghofnod map? Ydy e’n fair dealing dan y gyfraith Cymru a Lloegr? Throw caution to the wind, meddyliais i.

Bydd fydd yn digwydd? Efallai llythyr cease and desist? Beth yw cease and desist yn Gymraeg beth bynnag? Yn fy marn i, efallai mae cease and desist yn golygu ein hiaith arlein hefyd. Dyma’r dewisiad tro ’ma. Dw i ddim yn poeni gormod am y perygl cyfreithiol achos dw i’n gallu tynnu unrhyw beth lawr yn syth yn y dyfodol.

Os wyt ti eisiau gwybod beth ddigwyddodd…

Digwyddodd dim byd heblaw sylw neis gan un o’r awduron gwreiddiol!

Rhyw fath o ganiatâd?

(Gyda llaw, dyw’r llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg ddim ar gael ar y wefan Casgliad y Werin – eto.)

Mae Lawrence Lessig wedi sgwennu llawer am hawlfraint yn yr oes arlein – yn y cyd-destun Saesneg yn enwedig. Ond mae’r sefyllfa Cymraeg yn eitha gwahanol. Dyn ni’n siarad am argyfwng yma. Ydw i’n rhy gynnar i ddefnyddio’r gair argyfwng? Nac ydw, mae’r iaith Gymraeg yn rhy wan arlein yn 2010.

Dyma un o’r heriau fawr i Gymraeg yn 2010.

Gyda llaw, i sôn am Lessig postiais i gofnod diwetha am Creative Commons. Ond dw i ddim wedi dod i siarad am Creative Commons tro ’ma.

Dyn ni angen rhyw fath o gyfraith arbennig am hawlfraint Cymraeg yn fy marn i.

Ond ddylen ni ddim yn aros. Fel un datrys i’r broblem cynnwys arlein (dim ond rhan o’r datrysiad), dyn ni’n gallu ail-cyhoeddi hen gynnwys.

Faint o lyfrau ydyn ni’n colli? Neu: faint o lyfrau ydyn ni’n gallu rhyddhau?

Cyfreithiwr dw i ddim.

Ond dw i’n gallu awgrymu ‘rheolau’ bosib am hen gynnwys a llyfrau. Beth wyt ti’n meddwl?

  1. Ydy e’n hen waith mas o hawlfraint, yn y parth cyhoeddus? Os ydy, ewch i bwynt 6 yn syth!
  2. Ydy’r awduron neu gwmni cyhoeddi dal yn marchnata’r gwaith? Ydy’r gwaith ar gael fel fersiwn digidol? Os ydy, stopiwch.
  3. Ydy e’n fas o brint (neu ddim ar gael) yn bendant? Os nac ydw, stopiwch.
  4. Gofynnwch am ganiatâd os mae’n bosib. Ymchwiliwch y credit os mae’n bosib.
  5. Pam dych chi eisiau ail-cyhoeddi e? Dych chi’n fasnachol o gwbl? Well i chi peidiwch. Mae’n gymhleth heb ganiatâd penodol.
  6. Ydy e’n bodoli arlein mewn ffurf dda yn barod? Os ydy, sgwennwch ddolenni iddo fe neu ail-cyhoeddwch / ail-gymysgwch. Os nac ydy…
  7. Rhannwch nawr! Byddwch yn moesgar – peidiwch anghofio’r credit. Mwynhewch!

Dw i’n gwybod am y gwaith Llyfrgell Genedlaethol a Chasgliad y Werin Cymru. Maen nhw wedi rhyddhau llawer o hen bethau yn Gymraeg. Dw i’n ddiolchgar ond dylem ni fynd ymhellach na hynny. Beth am gynnwys o’r ugeinfed ganrif? Beth yw dy hoff lyfrau mas o brint?

7 Ateb i “Argyfwng cynnwys arlein yn Gymraeg? Hawlfraint a chaniatâd”

  1. Difyr a phwysig iawn Carl..
    “Cyfraith arbennig am hawlfraint Cymraeg”
    Cyfraith neu asiantaeth sy’n casglu? Falle bod werth inni ystyried a manteisio ar y gwaith ymchwil sydd eisioes wedi ei gwblhau (ond heb ei gyhoeddi eto am wn i) i mewn i gasglu a rheoli hawlfreintiau cerddoriaeth Cymru. OS oes argymhelliad i ddatganoli hwnnw, onid yw’n werth inni ystyried yr un peth am hawlfreintiau eraill yn yr iaith Gymraeg?

  2. Byse modd cael Llyfrgell Genedlaethol Cymru i drefnu ryw gytundeb hawlfraint i gyhoeddwyr? Os am gael hawlfraint yn y DU i lyfr, mae dyletswydd cyfrithiol i’r cyhoeddwr yrru copi i Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un i Lyfrgell Genedlaethol yr Alban, 3 i Archifau Cenedlaethol yn Kew, ac un rywle arall dwi’n meddwl.

    Byse modd i Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhoi cynllun at ei gilydd ble mae atodiad i’r gyfraith hawlfraint, ble gall cyhoeddwr yn y Gymraeg gwirfoddoli ei waith i’r parth digidol cyhoeddus am ddim. Bydd yn siwr o gael ei digido be bynnag gan y llyfrgell fel rhan o’i gasgliad, ond ddim ar gael yn ddi-drafferth.

  3. @Nici Diolch ond ro’n i ddim yn sgwennu am amgen i PRS. Dyw e ddim yn mater o ddatganoli. Mae unrhyw un yn gallu casglu breindal am recordiau a pherfformiadau – mewn theori!

    @Huw
    Sylw perthnasol iawn, dw i’n sgwennu llythyr at Lyfrgell Genedlaethol ar hyn o bryd! Un o’r cofnodion nesaf…

Mae'r sylwadau wedi cau.