NaPTAN Cymraeg: rhestr o bwyntiau trafnidiaeth nawr yn Gymraeg

Nod prosiect Mapio Cymru yw i wella’r genhedlaeth nesaf o wasanaethau mapio Cymru, ac ar fy rhan i mae ymhlith y prosiectau gwaith gorau erioed am ddysgu pethau newydd – am ddata agored, systemau gwybodaeth daearyddol, a sgiliau datblygu.

Ar flog y prosiect ysgrifennais eitem am newidiadau i NaPTAN sy’n rhestr fawr o bwyntiau trafnidiaeth gan gynnwys safleoedd bws a gorsafoedd trên.

Hedyn, gwefan wici o adnoddau ar gyfer tyfu’r we agored Gymraeg

Gwefan wici o adnoddau ar gyfer tyfu’r we agored Gymraeg yw Hedyn.

hedyn.net yw’i gyfeiriad.

Dw i newydd ddiweddaru’r feddalwedd tu ôl iddi hi (Debian a MediaWiki). Gadewch wybod os ydych chi’n gweld unrhyw broblemau pls!

Mae modd i chi, unrhyw un, gael cyfrif a chyfrannu adnoddau at Hedyn. Roedd rhaid diffodd y ffurflen creu cyfrif yn anffodus, oherwydd sbam.

Rhestr ar Hedyn o wasanaethau API Cymraeg

Mae nifer o bethau wedi newid ers sefydlu’r wici yn 2009, e.e.

  • fe oedd twf mewn podlediadau (ydy hynny wedi arafu bellach?)
  • twf platfformau ‘meicroflogio’ neu beth bynnag rydych chi eisiau eu galw nhw (Twitter yn gyntaf, nawr mae llu ohonyn nhw)
  • twf mewn defnydd o WordPress gan gyrff ac eraill
  • lleihad blogio ‘traddodiadol’ Cymraeg
  • a thwf gerddi muriog (fel Instagram, TikTok ayyb)
  • cyflwyniad a thwf technolegau newydd
  • llawer mwy o bethau yng Nghymru ac o gwmpas y byd…

A dweud y gwir mae eisiau meddwl am ddefnydd Hedyn yn 2024 a thu hwnt. Pa rôl sydd i dechnolegau agored a meddalwedd rydd i ffyniant y Gymraeg? Beth sydd eisiau er mwyn cynnal sffêr gyhoeddus a democratiaeth iachus yng Nghymru a thu hwnt? Pa wersi ydyn ni’n gallu dysgu o hanes Twitter? Ydy’r delfryd o we agored Gymraeg yn freuddwyd gwrach? Beth am yr holl sgwrs am ymgacheiddio Tech Mawr? Mae digon yma i mi gnoi cil drosto.

Yn y cyfamser diolch i holl gyfranwyr Hedyn dros y blynyddoedd ac i Rhys Wynne yn benodol am ei holl help, cefnogaeth, a syniadau.

Darparu ActivityPub o flog unigolyn – beth ddysgais i

Dw i wedi ychwanegu ffrwd ActivityPub i fy mlog bellach, fel gwasanaeth arbrofol.

Dyma rai nodiadau am y profiad:

  • Mae bellach dau gyfrif ar y Ffedisawd i bobl ddilyn os dymunir, @carlmorris@toot.wales (cyfrif Tŵt Cymru gyda phostiadau â llaw) a @carl (ffrwd awtomatig o’r blog yma).
  • Mae hyn yn arbrofol. Ond pam arbrofi? Yn fy marn i byddai hi’n braf cael ffordd agored ac annibynol o rannu a sgwrsio ar y we. Hynny yw, does dim rhaid i bobl ildio rheolaeth dros y cyfryngau cymdeithasol yn llwyr i gorfforaethau fel Twitter a Meta. Mae rhai pobl a sefydliadau eisiau cael grym a hyblygrwydd o fod yn annibynol o’r corfforaethau hynny.
  • Mewn gwirionedd mae Meta wedi datgan bod nhw am gydweithio gyda ActivityPub ‘yn fuan’ ta waeth. Yn y dyfodol agos bydd y systemau yn cydweithio.

  • Roedd hi’n neis cael arbrofi ar y cyd gyda ffrindiau ar Mastodon wedyn. Mae ychydig o bobl wedi dechrau dilyn y blog (gweler uchod) ac wedi gweld yr eitem yn eu hapiau (diolch i Iestyn am y llun isod o’r ap Ivory). Mae ychydig o bobl wedi postio ymatebion i’r eitem prawf hefyd. Mae ymatebion yn cael eu cyhoeddi ar weinydd penodol yr ymatebwr ac hefyd fel sylwadau ar fy mlog (testun yn unig mae’n debyg – diolch Rhys).
  • Mae’r arbrawf yn arwain at gwestiynau fel… Ydy darparu dau gyfrif (neu fwy) ychydig yn ddryslyd i rai darllenwyr? Oes gwir angen cynnal dau? Sut mae gwahaniaethu? Ydy hyn yn fodel sydd angen ei ystyried gan eraill?
  • Dw i’n teimlo bod fy ngyfrif Tŵt Cymru yn iawn ar gyfer postio pethau cyflym ffwrdd-â-hi tra bod y blog yn canolbwyntio ar bethau ‘o bwys’. Ar hyn o bryd dw i wedi rhoi label ac afatar gwahanol ar y ‘ffrwd’ blog. Un her: dw i ddim yn gallu rheoli pa gyfeiriad mae pobl yn ei ddefnyddio pan yn @io. Efallai bydd rhai yn fy ngopïo mewn ar frys ac yna cyfeirio at y blog yn hytrach na’r cyfrif Tŵt Cymru. Gawn ni weld beth sy’n digwydd.
  • Mae ActivityPub yn ymdrech i gysylltu â phobl eto, darllenwyr, sylwebwyr, ac ati. Mewn theori mae ActivityPub yn fwy grymus na RSS. (Yn yr hen ddyddiau roedd ychydig o bobl yn dod i eitem blog trwy Google Reader a/neu Blogiadur. Yn anffodus mae’r ddau wedi gweld y machlud haul er bod modd i unrhyw un danysgrifio gyda darllenydd trwy RSS o hyd.)
Llun gan Iestyn
  • Er fy mod i’n cyhoeddi fersiwn Saesneg o rai o’r eitemau blog dim ond y cynnwys Cymraeg sydd ar gael trwy ActivityPub ar hyn o bryd i gadw pethau’n syml.
  • Mae ActivityPub o flog yn addawol iawn yn fy marn i. Ar ôl ychydig o waith mae’n gweithio – o ran y nod o roi eitem blog o flaen pobl – sydd yn galonogol. Mae statws beta i’r ategyn WordPress penodol dw i wedi gosod. Mae’r cyfan ‘mewn beta’ mewn gwirionedd.

Ymwadiad:

  • Pwy a ŵyr os fydd system fel hyn yn helpu datrys neu liniaru’r broblem benodol rydych chi’n gweld yn y disgwrs cyhoeddus ar-lein boed hynny’n twyll, sbam, ffugio, camarwain, sarhad, casineb, y diffyg democrataidd, hysbysebion amherthnasol, cael algorithm penodol o’ch dewis, dod o hyd i bethau Cymraeg ayyb. O’r hyn dw i’n deall mae’r Ffedisawd yn rhoi mwy o reolaeth a chyfrifoldeb mewn dwylo gweinyddwyr annibynol, sef y rhai sy’n cyfrifol am y cymuned/cymunedau. Ond does neb wir yn annibynol os ydyn ni am rwydweithio. Mae llawer o ystyriaethau pwysig yma… ar gyfer erthygl arall!

Rhai nodiadau am WordPress yn benodol:

  • I’r rhai sydd ar WordPress.org mae modd gosod yr ategyn beta ActivityPub. Roedd rhaid i mi ddiffodd ategyn Yoast SEO sydd yn awto-flaenyrru pobl o dudalen awdur. Dydy optimeiddio ar gyfer chwilio ddim yn hynod bwysig i’r wefan hon ta waeth. (DIWEDDARIAD 13/7/2023: mae modd rhedeg ategyn ActivityPub gyda Yoast SEO, mae angen troi archifau awduron ymlaen yn Yoast.)
  • Dw i wedi gwneud ychydig o waith cyfieithu ar yr ategyn ActivityPub ac mae croeso i bobl eraill gyfrannu mwy.
  • Mae rhai opsiynau yn yr ategyn ActivityPub dw i heb drio eto. Yn ogystal mae modd newid unrhyw WordPress i fod yn weinydd Ffedisawd go iawn sydd yn dilyn a dangos cyfrifon eraill (gyda’r ategyn Friends er enghraifft).

Prawf: eitem mewn ffrwd ActivityPub o fy mlog

Mae’r blog yma bellach yn darparu ffrwd ActivityPub o’i holl eitemau.

Os ydych chi ar Mastodon (neu systemau eraill megis Pleroma, Friendica, HubZilla, Pixelfed, SocialHome, a Misskey yn ôl y sôn) fe gewch chi ddilyn y ffrwd trwy’r cyfeiriad @carl

Yn bennaf dyma brawf i weld beth sy’n ymddangos. Gadewch wybod am eich profiad trwy bostio ymateb Mastodon (neu system arall). Mae sylwadau ‘traddodiadol’ ar agor islaw hefyd.

Bydd rhaid i mi flogio mwy o nodiadau am y profiad.

DIWEDDARIAD (20 munud ar ôl cyhoeddi): dw i wedi ehangu’r rhestr o blatfformau. Mae chwech eitem yn lle dau bellach. Tybed os fydd hyn yn ymddangos yn y ffrwd ActivityPub.

Map arbrofol newydd gan Mapio Cymru – gwella mapio Cymru trwy olygu enwau

Fel rhan o fy ngwaith ar brosiect Mapio Cymru dw i wedi darparu gweinydd map arbrofol newydd.

Fel y prif fap mae’n dangos map gydag enwau llefydd yn Gymraeg. Y gwahaniaeth yw bod e’n dangos symbol ar bwys bob enw lle i ddangos pa ffynhonell data a ddefnyddiwyd. Bydd hyn yn helpu unrhyw un sydd eisiau cyfrannu enwau llefydd yn Gymraeg – ac yna cyfranogi yn y prosiect a gwella mapio yn y Gymraeg.

Darllenwch fy eitem blog ar Mapio Cymru am ragor o fanylion.

Mapio a llywio digidol: pa mor bell o ‘bopeth yn Gymraeg’?

Fel datblygydd gwe llawrydd mae hi wastad yn ddifyr cael gweithio ar Mapio Cymru, a chyfle i gyfuno rhai o fy niddordebau: meddalwedd rydd, data agored, mapiau, a’r Gymraeg.

Mae’r prosiect wedi tyfu o’i fan cychwyn fel map arbrofol gydag enwau Cymraeg. Rydyn ni bellach yn helpu cwpl o sefydliadau i gynnig gwasanaethau mapio Cymraeg.

Trafnidiaeth Cymru yw un o’r sefydliadau.

Dyma Ben Proctor o’r prosiect yn ymhelaethu ar ein gwaith ymgynghorol i TrC.

Gofynnodd Trafnidiaeth Cymru inni wneud darn o waith ymchwil ar eu cyfer. Roeddent am wybod sut y gallent adeiladu apiau mapio ar-lein a oedd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Rydym wedi bod yn meddwl am y themau yma am sawl blwyddyn oherwydd ein bod yn cynnal map iaith Gymraeg o Gymru: openstreetmap.cymru. Fodd bynnag, buodd y prosiect hwn ar gyfer sefydliad sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn gyfle gwirioneddol i feddwl am oblygiadau’r materion yma. Rydym wedi cynhyrchu adroddiad ar gyfer Trafnidiaeth Cymru sy’n llawn manylion ac sy’n canolbwyntio ar eu hamgylchiadau penodol.

Darllenwch y blogiad llawn gan Ben.

Cwyn am erthygl ’naratif unochrog Covid’ ar BBC Cymru Fyw

Dyma gopi o gwyn a anfonais at BBC heddiw. Mae sgwrs ar Twitter amdano fe hefyd.

Annwyl BBC

Parthed: Cwestiynu ’naratif unochrog’ Covid, BBC Cymru Fyw ar 8fed Chwefror 2022

Mae BBC Cymru Fyw wedi rhoi erthygl cyfan i unigolyn fynegi barn di-sail am Covid gan gynnwys ei benderfyniad i wrthod derbyn brechiad a gwrthod gwisgo masg. Nid yw’r erthygl yn helpu dealltwriaeth o’r pynciau dyrys a phwysig dan sylw, felly mae’r risg o gamarwain yn sylweddol. Mae hyn yn is na’r safonnau a ddisgwylir fel arfer wrth wasanaeth cyhoeddus.

Byddai hi wedi bod yn lawer gwell cyhoeddi erthygl ar sail wyddonol yn y lle cyntaf, yn hytrach na chyhoeddi a lledu sylwadau o farn a phryderon gan unigolyn. Nid yw hi’n addas i’r BBC roi gymaint o le i rywun gwestiynu cyngor iechyd cyhoeddus sydd eisoes yn gonsensws ymhlith gwyddonwyr yn fyd-eang.

Rwy’n cymryd bod golygiad i’r erthygl wedi bod ers cyhoeddi sydd yn adrodd ychydig o ffeithiau moel fel tri phwynt bwled. Nid yw hi’n gwbl glir pa elfennau eraill sydd wedi’u golygu. Mae angen nodi ar unrhyw erthygl pan mae golygiad o bwys wedi cael ei wneud, a beth oedd natur yr olygiad. Ar hyn o bryd nid yw hi’n gwbl dryloyw i gyhoeddi, sbarduno sgwrs trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ati, a golygu’r erthygl heb unrhyw gofnod o’r golygiad. Nodwch fod Guardian yn ychwanegu nodiad tebyg pan mae golygiad neu ychwanegiad i erthygl.

Yn gywir
Carl Morris

DIWEDDARIAD 21 Chwefror 2022

Ces i’r ymateb isod dros e-bost ar 18 Chwefror 2022.

Annwyl Mr Morris

Diolch i chi am eich neges am gynnwys ein adroddiad Cwestiynu ’naratif unochrog’ Covid ar BBC Cymru Fyw.

Hoffwn eich sicrhau ein bod wedi cofrestru eich sylwadau a’i ddod at sylw‘r tim golygyddol.

Mae’r erthygl bellach wedi ei diweddaru i gynnwys gwybodaeth ffeithiol ynglyn â risigiau Covid yn ogystal â manteision gwisgo mwgwd a brechu. Mae nodyn ar waelod yr erthygl yn cydnabod ei bod wedi ei diweddaru a’r rheswm dros wneud hynny.

Diolch i chi eto am gysylltu gyda’ch sylwadau.

Yn gywir

Uned Gwynion y BBC
https://www.bbc.co.uk/contact/make-a-complaint-welsh/#/Cwyn

DS: Mae’r neges hon yn cael ei hanfon o gyfrif e-bost nad yw’n cael ei fonitro. Ni allwch ateb i’r cyfeiriad hwn. Os bydd angen i chi gysylltu â ni os gwelwch yn dda gwnewch hynny drwy ein ffurflen gwynion uchod gan ddyfynnu unrhyw gyfeirnod a ddarparwyd gennym ni

Clic Off – bot Twitter i rannu sioeau S4C Clic sydd ar fin diflannu

Dyma Clic Off, cyfrif bot Twitter newydd sbon, sy’n trydar y sioeau S4C sydd ar fin diflannu oddi ar Clic.

Dyma enghraifft o drydariad awtomatig heddiw.

Os ydych chi fel fi yn hoffi noson gynnes o deledu ond ddim yn hoff o fethu rhaglen Gymraeg dilynwch.

Ffan S4C ydw i ond mae’r bot yn gwbl answyddogol. Mae pob dolen a rannwyd yn mynd i’r sioe berthnasol ar wefan S4C Clic. Ar hyd o bryd maen nhw yn dweud ‘Dod i ben mewn 1 diwrnod’ neu hyd yn oed ‘Dod i ben mewn 0 diwrnod’… Yn wir dyma’ch cyfle olaf.

Rhai ystyriaethau, a’r algorithm

Ni fydd pob rhaglen yn cael ei rannu yna, dim ond pigion er mwyn cael nifer da o drydariadau sydd yn teimlo fel jyst digon.

Mae algorithm sy’n dewis rhaglen ar hap o’r rhai sydd ar fin dod i ben, ac yn ceisio cael rhyw fath o gydbwysedd. Er enghraifft mae llawer iawn o raglenni Cyw/plant ar gael ac mae llawer oddeutu 5 munud, tua 10 munud o hyd. Er fy mod i’n hoff o lawer ohonyn nhw mae angen newid y canrannau yn erbyn categorïau eraill. Fel arall bydd y cyfrif yn edrych yn od.

Dw i hefyd yn ystyried lleihau ar y rhaglenni mwyaf ‘amlwg’ ac enwog achos mae’n teimlo’n rhesymol i gymryd bod pobl yn gwybod amdanyn nhw yn barod. Mae’n teimlo’n fwy gwerthfawr i rannu rhaglen ddogfen na phennod o opera sebon adnabyddus, beth ydych chi’n meddwl?

Gweithio ar algorithm dewis a dethol cynnwys Cymraeg ar gyfer ffrwd yw’r elfen mwyaf ddiddorol a chreadigol/golygyddol. Mae cyfrif UnigrywUnigryw yn enghraifft tebyg (er bod y ddau yn ffrwd o fewn ffrwd) Tybed faint o enghreifftiau eraill o algorithm dethol cynnwys Cymraeg sydd?

Datblygiadau’r dyfodol

Tybed os fydd angen cyfrif ar wahan ar gyfer chwaraeon a/neu ffeithiau a chelfyddydau? Gawn ni weld.

Ar hyn o bryd mae’r bot yn atodi delwedd y rhaglen i’r trydariad bob tro (dydy’r cardiau Twitter sy’n cael eu darparu gan y wefan ddim wastad yn gweithio). Byddai modd creu GIF o’r rhaglen yn awtomatig efallai.

Un syniad arall yw i gynnwys symbolau/emojis i nodi os oes is-deitlau, iaith arwyddion, ayyb.

Darn bach o hanes

Nid dyma’r cyfrif bot cyntaf sy’n rhannu dolenni S4C Clic. Fel mae’n digwydd cyfrif Twitter o’r enw S4CClic oedd fy mot cyntaf erioed yn ôl ym mis Tachwedd 2010.

Oedd y cyfrif yn ffrwd pur o’r holl raglenni. Bach yn ormod a dweud y gwir. O’n i wedi cysylltu’r ffrwd RSS trwy wasanaeth Twitterfeed ar y pryd i’r cyfrif Twitter heb angen gwneud unrhyw godio.

Gofynnodd rywun o’r cwmni am berchnogaeth o’r cyfrif. Gwych o’n i’n meddwl, maen nhw yn gallu rhedeg e. O’n i’n hapus i basio fe â’i ychydig cannoedd o ddilwyr ymlaen atyn nhw, wedyn caewyd y cyfrif i lawr am ryw reswm!

Y system a’r API

Mae’r bot wedi’i ysgrifennu mewn PHP ac yn rhedeg ar weinydd gwe.

Oedd rhaid i mi greu bot pan darganfyddais bod API weddol gudd sy’n rymuso gwefan S4C Clic. Mae’r API yn darparu’r holl fetadata am raglenni i’r porwr.

Dyma rai manylion am API S4C Clic os ydych chi awydd profi neu greu rhywbeth. Mae llwythi o syniadau posibl, tu hwnt i fotiau. Er enghraifft beth am dderbyn e-bost/neges/ping bob tro mae’ch hoff fand/awdur/pentref yn cael ei [ch|g]rybwyll mewn disgrifiad rhaglen. Neu wneud rhywbeth gydag is-deitlau?

Awydd cael bot/awtomeiddio?

Ydych chi eisiau trafod cael bot i’ch prosiect neu ddefnydd o ddata, cod, ac awtomeiddio fel hyn i ddatrys problemau a chymryd cyfleoedd? Cysylltwch.

Diwygio newyddion o Lundain am faterion datganoledig: tuag at brosiect

O safbwynt Cymru mae problem amlwg o ddiffyg cywirdeb pan mae’r cyfryngau yn Llundain yn adrodd straeon am faterion datganoledig.

Er enghraifft mewn stori am addysg neu iechyd yn Lloegr mae’r papurau, teledu neu radio yn cyfeirio yn anghywir at y Deyrnas Unedig neu’n methu cyfeirio at unrhyw wlad o gwbl. Neu mae diffyg sylw i’r gwahaniaethau hynod bwysig o ran deddfwriaeth a pholisi rhwng Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Lloegr.

Wrth gwrs mae hyn yn gallu arwain ar ddryswch, a diffyg ymwybyddiaeth o le mae pwerau a phwy sy’n atebol. Er gwaethaf ymdrechion cyfryngau sy’n canolbwyntio ar faterion Cymreig mae canran sylweddol o bobl yng Nghymru sy’n derbyn newyddion camarweiniol, wrth gyfryngau Llundain gan amlaf.

Mae prosiect That’s Devolved yn tynnu sylw at enghreifftiau yn gyson. Mae rhai achosion lle mae’r newyddiadurwyr a golygyddion wedi cywiro penawdau a straeon fel canlyniad. O safbwynt datganoli mae’n gweithio’n dda. Mae’n siŵr bod llawer o ddarllenwyr wedi dysgu mwy am rymoedd Senedd Cymru, Senedd Yr Alban, a Stormont trwy ymdrechion y prosiect.

Sbel yn ôl oeddwn i’n meddwl am safbwynt y newyddiadurwyr eu hunain. Ces i ambell sgwrs gydag arbenigwyr a ffrindiau amdano fe. A oes modd creu ymgyrch neu adnodd i’w defnyddio mewn ymateb i’r newyddiadurwyr hyn, a cheisio newid agweddau?

Y canlyniad oedd gwefan a greais o’r enw Say England.

Y rhesymeg oedd i gyfleu’r broblem o safbwynt mae’r rhan fwyaf o newyddiadurwyr Lloegr yn deall – safbwynt Lloegr.

Mae hi’n anoddach cael y rhan fwyaf i fecso am Gymru na feddwl bod hi’n werth ceisio deall ’datganoli’. (Mae’r ychydig rhai sydd yn talu sylw yn arbennig iawn.)

Ar hyn o bryd un tudalen yn unig yw gwefan Say England, sydd yn cynnwys rhai pwyntiau o gyngor i newyddiadurwyr ac eraill. Mae modd postio hi mewn ymatebion ar y cyfryngau cymdeithasol trwy’r dydd bob dydd.

Mae’n enwi swyddi eraill sydd yn ran o adroddiant y cyfryngau, pobl sydd ddim yn cyfleu’r sefyllfa yn iawn – am lawer o resymau.

Yn anffodus mae’r wefan yn brosiect sydd ddim wedi’i gyflawni na lansio. Am un peth dw i’n dad bellach ac mae llawer o brosiectau ac ymrwymiadau eraill ymlaen – dydy’r un yma ddim yn ffitio’n daclus gyda’r gweddill.

Rydych chi efallai yn gweld ei botensial, o bosib i ddefnyddio’r wefan fel pwynt canolog ar gyfer cynnwys i’w rannu, ymgyrchoedd, diweddariadau ar lwyddiannau, rhestrau o dda, drwg a’r hyll, neu rywbeth arall.

Byddwn i’n ystyried rhoi’r enw parth i unrhyw un egwyddorol a brwdfrydig sydd eisiau ei gymryd ymlaen, defnyddio a datblygu.

Gadewch wybod yn y sylwadau isod neu drwy e-bost os ydych chi eisiau cymryd dros y prosiect.