Beth am raglen Y Byd ar Bedwar? Efallai ddim yn ymateb yn gyflym i straeon newyddion sy’n torri ond yn sicr yn mynd dan groen a thorri straeon Cymreig gwreiddiol ac yn gohebu ar straeon mawr rhyngwladol hefyd. Gwefan Golwg360 hefyd yn torri straeon newydd ac yn adrodd straeon tramor yn y Gymraeg…
Rydych yn llygad eich lle fel arfer. Mae Gwlad yr Ia yn llwyddo darparu nifer o sianeli teledu/radio yn eu haith nhw gyda hanner ein nifer o siaradwr http://www.ruv.is/ Problem gwleidyddiol a meddwl sy gennym. Does dim byd gwrthrychol yn gyfrifol am y sefyllfa.
Mae prinder y Cymry Cymraeg yn gyffredinol yn her. Rhaid mynd ati i weld sut gallwn gyfaddasu’n gwasanaeth newyddion, a gwneud hynny mewn ffordd fydd yn sicrhau gwasanaeth cyflawn ac amrhywiol, a hynny 100% yn y Gymraeg. Prin byth, clywir defnyddio trosleisio ar Radio Cymru e.e. Yn aml, byddaf yn cwyno am ddiffyg amrhywiaeth newyddion Radio Cymru, gormod o bwyslais ar yr hyn sy’n digwydd ym Mhrydain, neu yn y byd einglseisnig, neu sylwebaeth rwngwladol o safbwynt Prydain, fel petai wedi’i dehongli gan Sais a’i drosi i’r Gymraeg, ac wedyn llawer llawer gormod o ‘chiens ecrases'(straeon lleol dibwys). Ar y post cyntaf, dyfynnir o bapurau newyddion Prydeinig yn unig, ac yn aml heb fawr o ymdrech i gyfieithu’r cynnwys, a hynny pan mae ffynhonell helaeth o newyddion o safon i’w cael mewn nifer o ieithoedd. Rhaid felly, gwneud llawer mwy o gyfieithu, a throsleisio â’r siaradwr yn glywadwy yn y cefndir, fel sy’n arferol ar unrhyw newyddion arall ar draws y byd. Os yw ein newyddion yn “genedlaethol”, h.y. ar gyfer Cymru, dylai fod digon o adnoddau wrth gefn inni wneud hyn. Os nad ydyn ni’n gwneud hyn, nid yn unig byddwn yn byw mewn ynys yn ddaearyddol, byddwn hefyd yn byw mewn ynys newyddiadurol – y canlyniad fydd inni gymhathu’n llwyr i byd bach y Sais.
Diolch o galon am y sylwadau.
Gareth – beth yw’r modelau yng Ngwlad yr Iâ? Hynny yw, sut maen nhw yn ariannu’r newyddion? Yn amlwg dydyn nhw ddim yn cystadlu gydag iaith fawr yn yr un modd.
Mae’r diffyg newyddion a sylwebaeth am ddigwyddiadau tramor yn broblem hefyd, ond un sy’n anoddach fyth i’w ddatrys. Er enghraifft, byddai’n ddiddorol gael sylwebaeth Cymraeg ar rywbeth fel hyn, sy’n uffernol o bwysig: http://foreignpolicy.com/2016/07/12/after-south-china-sea-ruling-china-censors-online-calls-for-war-unclos-tribunal/
Beth am raglen Y Byd ar Bedwar? Efallai ddim yn ymateb yn gyflym i straeon newyddion sy’n torri ond yn sicr yn mynd dan groen a thorri straeon Cymreig gwreiddiol ac yn gohebu ar straeon mawr rhyngwladol hefyd. Gwefan Golwg360 hefyd yn torri straeon newydd ac yn adrodd straeon tramor yn y Gymraeg…
Rydych yn llygad eich lle fel arfer. Mae Gwlad yr Ia yn llwyddo darparu nifer o sianeli teledu/radio yn eu haith nhw gyda hanner ein nifer o siaradwr http://www.ruv.is/ Problem gwleidyddiol a meddwl sy gennym. Does dim byd gwrthrychol yn gyfrifol am y sefyllfa.
Mae prinder y Cymry Cymraeg yn gyffredinol yn her. Rhaid mynd ati i weld sut gallwn gyfaddasu’n gwasanaeth newyddion, a gwneud hynny mewn ffordd fydd yn sicrhau gwasanaeth cyflawn ac amrhywiol, a hynny 100% yn y Gymraeg. Prin byth, clywir defnyddio trosleisio ar Radio Cymru e.e. Yn aml, byddaf yn cwyno am ddiffyg amrhywiaeth newyddion Radio Cymru, gormod o bwyslais ar yr hyn sy’n digwydd ym Mhrydain, neu yn y byd einglseisnig, neu sylwebaeth rwngwladol o safbwynt Prydain, fel petai wedi’i dehongli gan Sais a’i drosi i’r Gymraeg, ac wedyn llawer llawer gormod o ‘chiens ecrases'(straeon lleol dibwys). Ar y post cyntaf, dyfynnir o bapurau newyddion Prydeinig yn unig, ac yn aml heb fawr o ymdrech i gyfieithu’r cynnwys, a hynny pan mae ffynhonell helaeth o newyddion o safon i’w cael mewn nifer o ieithoedd. Rhaid felly, gwneud llawer mwy o gyfieithu, a throsleisio â’r siaradwr yn glywadwy yn y cefndir, fel sy’n arferol ar unrhyw newyddion arall ar draws y byd. Os yw ein newyddion yn “genedlaethol”, h.y. ar gyfer Cymru, dylai fod digon o adnoddau wrth gefn inni wneud hyn. Os nad ydyn ni’n gwneud hyn, nid yn unig byddwn yn byw mewn ynys yn ddaearyddol, byddwn hefyd yn byw mewn ynys newyddiadurol – y canlyniad fydd inni gymhathu’n llwyr i byd bach y Sais.
Diolch o galon am y sylwadau.
Gareth – beth yw’r modelau yng Ngwlad yr Iâ? Hynny yw, sut maen nhw yn ariannu’r newyddion? Yn amlwg dydyn nhw ddim yn cystadlu gydag iaith fawr yn yr un modd.
Daf – mae pethau i’w canmol yn y maes yn bendant.