Mae arafwch newyddion Cymraeg yn gymaint o siom.

Mae sut gymaint o newyddion pwysig wedi torri yn y pythefnos diwethaf.

Ac mae fe bron i gyd drwy gyfrwng y Saesneg ac ieithoedd eraill.

Mae newyddion yn arafach yn Gymraeg. Ffaith.

Cywirwch fi os mae hyn yn anghywir ond dw i ddim yn credu bod ’na graffeg yn Gymraeg fel y cerdyn uchod.

Ydy llai o bethau sydd o ddiddordeb i wylwyr/ddarllenwyr Cymraeg fel ni yn digwydd yn y byd? Nac ydy.

Ydy’r newyddion yn gyffredinol yn effeithio arnom ni i raddfa lai? Nac ydy.

Oes ’na diffyg awydd ar ran penaethiaid ein sefydliadau a chwmnïau cyfryngol i fentro ac ymdrechu i adrodd newyddion ‘poeth’ yn Gymraeg tra bod e’n digwydd? Oes.

Oes ’na llai o gystadleuaeth ymhlith mentrau newyddion Cymraeg, llai o gystadlu am sylw drwy geisio adrodd yn gyflym? Oes.

Ydy hi’n symptom o diffyg adnoddau a diffyg buddsoddiad? Ydy, yn sicr.

Mae newyddion yn ddrud. Yn y Saesneg mae’r Guardian wedi dechrau adrodd rhagor o newyddion o’r UDA achos dyna le mae mwy o lygaid a mwy o farchnad hysbysebion. Mae hyn yn her fach i newyddion am wledydd Prydain, heb sôn am y Gymraeg.

Wrth gwrs mae amddiffyn y gwaith da sy’n digwydd eisoes yn Gymraeg yn digon o her drwy’r amser.

Er nad ydynt yn defnyddio’r union dermau mae plant weddol ifanc yn sylweddoli bod newyddion yn Gymraeg yn arafach.

Mae plant yn gweld pethau fel hyn mewn byd yr oedolion fel y niferoedd cymharol isel o gemau fideo, ffilmiau, cylchgronau, bwydlenni, crysau-t, hysbysebion, ac ati yn Gymraeg. Gweler hefyd: os nad yw Prif Weinidog Cymru yn defnyddio’r Gymraeg maen nhw yn sylwi.

Fydda i ddim yn hapus nes bod newyddion yn Gymraeg cystal â newyddion Saesneg – cyflym, rhyngwladol, amrywiol, amlgyfrwng, dwfn, cyfoethog. Fydda i ddim yn hapus nes bod y cyfryngau yn holliach yn Gymraeg a chystal ag unrhyw iaith arall. Dw i’n gwybod bod hyn i gyd yn hollol afrealistig ond dyna ni.

Tra ein bod ni’n ceisio meddwl am ffyrdd o ddatblygu’r maes yma (sori, dim datrysiadau heddiw!) dylen ni ystyried cefnogi cyfrifon fel @elliwsan, @owen_garry, @sianeaber sy’n ceisio torri newyddion yn Gymraeg. Oes ’na rhai eraill?

Pob bendith i’r bobl eraill yma sy’n ceisio ein cyffroi drwy ddefnydd o’r geiriad ‘newyddion yn torri‘ ar Twitter!

Down ni â rhagor ar hyn tra bod y sefyllfa yn datblygu.

5 Ateb i “Mae arafwch newyddion Cymraeg yn gymaint o siom.”

  1. Beth am raglen Y Byd ar Bedwar? Efallai ddim yn ymateb yn gyflym i straeon newyddion sy’n torri ond yn sicr yn mynd dan groen a thorri straeon Cymreig gwreiddiol ac yn gohebu ar straeon mawr rhyngwladol hefyd. Gwefan Golwg360 hefyd yn torri straeon newydd ac yn adrodd straeon tramor yn y Gymraeg…

  2. Rydych yn llygad eich lle fel arfer. Mae Gwlad yr Ia yn llwyddo darparu nifer o sianeli teledu/radio yn eu haith nhw gyda hanner ein nifer o siaradwr http://www.ruv.is/ Problem gwleidyddiol a meddwl sy gennym. Does dim byd gwrthrychol yn gyfrifol am y sefyllfa.

  3. Mae prinder y Cymry Cymraeg yn gyffredinol yn her. Rhaid mynd ati i weld sut gallwn gyfaddasu’n gwasanaeth newyddion, a gwneud hynny mewn ffordd fydd yn sicrhau gwasanaeth cyflawn ac amrhywiol, a hynny 100% yn y Gymraeg. Prin byth, clywir defnyddio trosleisio ar Radio Cymru e.e. Yn aml, byddaf yn cwyno am ddiffyg amrhywiaeth newyddion Radio Cymru, gormod o bwyslais ar yr hyn sy’n digwydd ym Mhrydain, neu yn y byd einglseisnig, neu sylwebaeth rwngwladol o safbwynt Prydain, fel petai wedi’i dehongli gan Sais a’i drosi i’r Gymraeg, ac wedyn llawer llawer gormod o ‘chiens ecrases'(straeon lleol dibwys). Ar y post cyntaf, dyfynnir o bapurau newyddion Prydeinig yn unig, ac yn aml heb fawr o ymdrech i gyfieithu’r cynnwys, a hynny pan mae ffynhonell helaeth o newyddion o safon i’w cael mewn nifer o ieithoedd. Rhaid felly, gwneud llawer mwy o gyfieithu, a throsleisio â’r siaradwr yn glywadwy yn y cefndir, fel sy’n arferol ar unrhyw newyddion arall ar draws y byd. Os yw ein newyddion yn “genedlaethol”, h.y. ar gyfer Cymru, dylai fod digon o adnoddau wrth gefn inni wneud hyn. Os nad ydyn ni’n gwneud hyn, nid yn unig byddwn yn byw mewn ynys yn ddaearyddol, byddwn hefyd yn byw mewn ynys newyddiadurol – y canlyniad fydd inni gymhathu’n llwyr i byd bach y Sais.

  4. Diolch o galon am y sylwadau.

    Gareth – beth yw’r modelau yng Ngwlad yr Iâ? Hynny yw, sut maen nhw yn ariannu’r newyddion? Yn amlwg dydyn nhw ddim yn cystadlu gydag iaith fawr yn yr un modd.

    Daf – mae pethau i’w canmol yn y maes yn bendant.

Mae'r sylwadau wedi cau.