5 Replies to “Meddyliau am Golwg360 newydd: sylwadau, dolenni”
Da nhw am allugoi sylwadau o’r diwedd – sgwn i os chwaraeodd Y Bydysawd ran yn y penderfyniad?
Ynglŷn a sylwadau gyda phob erthygl – sut byddai Golwg360 n dewis a dethol pa rai sy’n addas a pha rai sydd ddim?
Cytuno ynglyn a’r gallu i adael sylw gyda proffil. Nid mod i eisiau gorfod cofrestru o’r newydd eto, ond gellir fod yn defnyddio system Disqus (fel mae’r Independent yn wneud). Hefyd mae’r blog rwan o fewn y wefan ei hun, sy’n beth da, ac ar hwnnw, mae blwch i chi roi cyferiad gwefan wrth adael sylw – felly pam ddim ar draws y wefan?
Dolenni – yn ogystal a pheiod rhoi dolenni allanol o fewn y testun, mae Golwg360 yn methu tric dw i’n meddwl drwy beidio rhoi dolenni (eto o fewn y testun) at eu herthyglau eu hunain a fyddai’n rhoi cyd-destun. Oes, mae ‘Straen perthnasol’, ond dwi ddim yn siwr faint sy’n edrych ar yr rheini. Yn yr erthygl am Umap, roedd cyfeiriad at Hacio’r Iaith 2 – wel pam ddim rhoi dolen at eu herthygl amdano? Ddim yn ddalltwr mawr y dalltins, ond mae hyn yn gwella eich perfformiad ar chwiliadau Google. Erthygl difyr (a hawdd ei deall) a href=”http://www.callowaygreen.com/blog/2010/09/26/use-blogging-to-get-some-much-needed-link-juice/”>yma.
Pwynt da am ddolenni mewnol i straeon perthnasol. Yn ogystal â’r unrhyw fudd SEO mae’n creu profiad gwell i’r darllenwyr.
sgwn i os chwaraeodd Y Bydysawd ran yn y penderfyniad?
Mae’n bosib, efallai does dim ots. Beth sy’n bwysig i fi yw amrywiaeth o brojectau Cymraeg arbrofol arlein, codi disgwyliadau, dysgu rhywbeth bob tro am y we Gymraeg, pethau fel 100lle.net, PenTalarPedia, fideobobdydd, dy flog, Umap Cymraeg ayyb. Mae’r gwersi i gael i unrhyw un sy’n edrych.
Diolch am y sylwadau uchod. Mae lot o’r materion uchod yn rai technegol nad ydw i’n gymwys i’w hateb, ond alla’i ategu mai megis dechrau mae’r newidiadau i’r wefan, a bydd hyblygrwydd y system newydd yn caniatau i ni newid lot o bethau yn reit rhwydd.
O ran sylwadau, roedden ni eisiau’r rheini ers y cychwyn cyntaf ond yn anffodus doedd yr hen wefan ddim yn caniatau. Bydd hi’n ddiddorol gaweld faint sy’n eu defnyddio nawr.
Does dim byd yn fy stopio i roi dolenni yn y testun. Nid ryw fath o bolisi pendant ydi hyn – a dweud y gwir doeddwn i heb sylwi ei fod yn fater o bwys. Wna’i wneud os ydi o’n dy gadw di’n hapus. 😉
“Tyfu tu hwnt y usual suspects – pobol a phynciau”
Mae hynny’n bwysig wrth gwrs ond mae yna berygl gyda gwefan Cymraeg eich bod chi’n mynd i niche o fewn niche.
Er engraifft, fe allen i dreulio adnoddau ac amser ar greu a chynnal gwefan bysgota neu wyddbwyll yn Gymraeg. Fe fyddai yna lond dwrn o bobol wrth eu bodd ac yn ei ddefnyddio’n selog. Ond fe fyddet ti’n darparu gwasanaeth ar gyfer cynulleidfa bach o fewn cynulleidfa sydd eisoes yn fach. Os nad ydi gwefan chwaraeon Cymraeg y BBC yn gallu denu digon o ddefnyddwyr i gyfiawnhau ei fodolaeth, ti’n gweld y broblem sydd gyda ni.

Gweler cofnod newydd…
Diolch am y sylwadau.