Holi am gynnwys niche yn Gymraeg

Diolch i Ifan am ei sylw ar fy nghofnod diwethaf. Dw i wedi copi’r sylw. Rydyn ni’n siarad am rywbeth cyffredinol a phwysig ar y we Gymraeg, haeddu cofnod ar wahan. Darn o’r sylw:

Mae hynny’n bwysig wrth gwrs ond mae yna berygl gyda gwefan Cymraeg eich bod chi’n mynd i niche o fewn niche.

Er engraifft, fe allen i dreulio adnoddau ac amser ar greu a chynnal gwefan bysgota neu wyddbwyll yn Gymraeg. Fe fyddai yna lond dwrn o bobol wrth eu bodd ac yn ei ddefnyddio’n selog. Ond fe fyddet ti’n darparu gwasanaeth ar gyfer cynulleidfa bach o fewn cynulleidfa sydd eisoes yn fach. Os nad ydi gwefan chwaraeon Cymraeg y BBC yn gallu denu digon o ddefnyddwyr i gyfiawnhau ei fodolaeth, ti’n gweld y broblem sydd gyda ni.

Dw i’n gallu gweld y broblem yn sicr, dw i wedi bod yn profi mathau gwahanol o gynnwys niche yn Gymraeg ar y we am flwyddyn a hanner. Heblaw am eithriadau bach, mae’r rhan fwyaf wedi bod yn uniaith Gymraeg, e.e. ar ytwll.com, ar haciaith.com.

Eisiau dysgu mwy felly hoffwn i ofyn y cwestiynau yma:

  1. Ydy’r enghraifft BBC Chwaraeon yn ddigonol yma? Dw i ddim yn gyfarwydd iawn arno fe ond ydy’r cynnwys yn ddigon unigryw gyda digon o “hyrwyddo” priodol? Faint yw “cynnwys unieithog”?
  2. Mae’r enghreifftiau pysgota a gwyddbwyll yn dda a pherthnasol yma. Bydd gwyddbwyll yn wych! (Gyda llaw newydd ffeindio gwyddbwyll.com). I unrhyw un sy’n meddwl am bostio pethau ar y we: pam ydyn ni’n siarad am gwefannau llawn? Beth am ddechrau gyda chofnod neu fideo neu awdio neu rhywbeth fel arbrawf, efallai ar dy wefan neu efallai ar y we unrhyw le? (Mae lot o gwmniau yn trio arbrofion arloesol ar hyn o bryd, e.e. mae Guardian Local yn arbrawf yn gynnwys Caerdydd, Leeds a Chaeredin. Efallai rydyn ni eisiau trio rhywbeth bach yn hytrach na tri blog llawn gyda staff llawn amser ond mae’r cysyniad yn debyg. Profi am brofiad.)
  3. Sut allen ni cynnig rhywbeth yn Gymraeg sy’n well nag unrhyw beth arall arlein – yn unrhyw iaith? Cwestiwn anodd ond efallai rydyn ni’n cystadlu gyda Saesneg mwy a mwy nawr. Gawn ni trio technoleg newydd, e.e. beth am ail-chwarae gem gwyddbwyll Kasparov neu pwy bynnag cam-wrth-gam gyda sylwebaeth Cymraeg yn HTML5? Efallai ail-ddefnyddio meddalwedd cod agored.
  4. Beth yw llwyddiant? Beth yw llwyddiant yn dy ddiffiniad a chyd-destun? Nifer o ymwelwyr yn ystod yr un diwrnod? Neu yr un mis neu yr un flwyddyn? Neu presennoldeb yr iaith Gymraeg ar y we, dylanwad a chodi disgwyliadau?

Dw i ddim yn siŵr am unrhyw ateb fan hyn ond croeso i ti gadael sylw.

6 Ateb i "Holi am gynnwys niche yn Gymraeg"

  1. Mae’r Gymraeg yn mhen draw y long tail, ac mae pysgota ym mhen draw long tail y Gymraeg. Be mae hynny’n ei olygu ar gyfer y theori long tail? Ydi o jest ddim yn gweithio mewn achosion iaith leiafrifol?

    Wn i ddim.

    Mae llyfrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ar fynydda, pop a ffilm Cymraeg ac ar bob math o bynciau obsciwyr eraill. Does neb yn gwarafun gwario arian ar y rheiny (er dwi’n deall bod economeg y rheiny yn wahanol i gyhoeddi ar-lein). Y gwir ydi eu bod nhw’n bodoli oherwydd sybsidi mawr, un ai gan y Cyngor Llyfrau, gan weisg mentrus, gan unigolion sydd a digon o arian i hunan gyhoeddi.

    Ond mae sybsidi. Fase dim llawer o bobol yn dweud, “wnawn ni jest stopio rhoi grantiau i lyfrau rwan, achos does na ddim galw”. am ryw reswm, mae pobol yn trin cynnwys ar y we yn wahanol i gynnwys papur.

    Y peth pwysig gyda’r llyfrau, a beth sy’n hollbwysig gyda chynnwys ar y we ydi ei fod yn unigryw. Sdim pwynt dyblygu rhywbeth yn slafaidd o’r Saesneg, ond mae modd rhoi gogwydd wahanol a Chymreig ar bwnc sydd eisoes yn cael ei drafod yn y Saesneg.

    Fel arall, am be da ni’n trafod a sgwennu? Cymraeg, Cymru, Plaid Cymru, S4C…os taw dyna’r unig barthau lle mae defnydd y Gymraeg o werth yna mae ganddon ni broblemau dyfnion.

    Faswn i’n dadlau felly *bod* lle ar gyfer buddsoddi mewn cynnwys Cymraeg niche. Mae S4C newydd wario MILOEDD ar raglen am bysgota antur. Pam felly taflu pysgota yn ddiseremoni mewn i’r bin NA o ran cynnwys ar-lein.

    Mae’n fater o farchnata, arian digonol a chynnwys da. Mae gan deledu hynny. Mae gan gyhoeddi hynny. Mae’n hen bryd i’r we gael hynny hefyd.

  2. Yn achos Golwg 360 mae o’n hafaliad eithaf syml. Da ni’n cael hyn o hyn o grant, digon i ddarparu gwasanaeth newyddion Cymraeg. Er mwyn gallu darparu rhagor o gynnwys ymylol mae angen rhagor o adnoddau (staff/amser ayyb) arnom ni. Er mwyn cael rhagor o staff mae angen rhagor o arian. Er mwyn cael rhagor o arian mae angen rhagor o hysbysebion. Er mwyn cael rhagor o hysbysebion mae angen denu rhagor o ddarllenwyr (a argyhoeddi cwmniau Cymraeg bod y we yn lla da i hysbysebu ond mater arall ydi hynny). Er mwyn denu darllenwyr mae angen trin a thrafod pynciau sy’n apelio i ystod eang o bobol. Unwaith ydan ni’n denu lot o bobol at y pynciau rheini, wedyn fe allen ni fforddio ddechrau trin a tarfod pynciau sy’n denu llai o bobol, e.e. pysgota a gwyddbwyll.

    Mae S4C a’r Lolfa wedi cyrraedd y pwynt yna’n barod, ac felly’n gallu cynhyrchu rhagleni/llyfrau am bysgota (ond dim gwyddbwyll eto).

    Wele’r adrannau blog a bwyd fel esiampl o hyn. Adrannau sy’n denu llai o ddefnyddwyr na’r lleill a sy’n bosib oherwydd cynnydd mewn adnoddau dros amser.

    Pe bai Golwg 360 wedi neidio’n syth i mewn gydag adran pysgota a gwyddbwyll ac wedi anwybyddu y gwasanaeth newyddion craidd fe fyddai’r nifer darllenwyr yn isel ac fe fyddai’r prosiect yn cael ei ystyried yn fethiant. Fel y mae pethau mae’n “un o lwyddiannau mawr Cymru’n Un” – (yn ol Rhodri Glyn Thomas)…

    Ond y peth pwysig dwi’n meddwl ydi nad ydi’r ffaith ein bod ni’n analeu at y targedau mawr gyntaf o rweidrwydd yn golygu bod rhaid atgynhyrchu fersiwn Cymraeg o wefan Saesneg. Dyw’r pynciau sy’n denu Cymro Cymraeg i wefan ddim yr un peth a’r pynciau sy’n denu siaradwr Saesneg. Fel y mae Rhodri yn ei ddweud uchod, “mae mae modd rhoi gogwydd wahanol a Chymreig ar bwnc sydd eisoes yn cael ei drafod yn y Saesneg”. Dyna’r fantais mawr sydd gan Golwg 360 – nid fersiwn sy’n cynnwys llai o straeon o wasanaeth gwell Saesneg ydi o.

    (Dwi’n meddwl bod Rhodri ap Dyfrig hefyd yn dadlau uchod y dylen ni gael mwy o sybsydi yn y lle cynta, digon i ddarparu bob math o gynnwys ymylol, ond dadl arall ydi hynny.)

  3. Mi fasa Rhodri Glyn yn deud hynna bysa! Well i chi ffeindio rhywun arall i chwythu eich trwmped dwi’n meddwl. 😉

    Dwi’n deall sefyllfa Golwg ac yn derbyn nad oes ganddoch chi’r adnoddau i fynd ar ôl pob niche. Fel ti’n awgrymu, ro’n i’n siarad yn fwy cyffredinol.

    Ma’r adran bwyd yn un ddiddorol ac yn fwlch oedd angen ei lenwi (ac yn rhywbeth all fod yn boblogaidd). Dwi’n meddwl bod y bartneriaeth gyda Fforch i Fforc fanna’n crwshal – byddai cael ryseitiau gan chefs Cymraeg yn ffordd wych o ddenu pobol at yr adran, yn arbennig pe bai nhw’n defnyddio fideo. Cynnwys unigryw Cymraeg o safon.

    Dwi ddim yn gofyn am fwy o sybsidi chwaith o reidrwydd – efallai ei rannu’n well a bod wastad a’r we mewn golwg wrth gynllunio prosiectau cyhoeddi/cynnwys newydd. Mae’n rhywbeth na ddylid ei ddiystyru fel ‘jest lle marchnata’ rhagor, er, dyna sut mae llawer yn dal i’w drin.

    Mae ein pwll hysbysebu Cymraeg ni’n wan ac mae Google a Facebookj yn cymryd mwy a mwy o’r gacen honno – ond rhaid bod na ffyrdd gwahanol o wneud arian i ychwanegu a lleihau’r angen na am sybsidi. Jest paid gofyn i fi cweit sut ma gneud hynna eto!

  4. @Ifan
    Sori, dw i’n gofyn am y we Gymraeg yn gyffredinol yn y cofnod. Wnes i ddim sôn am Golwg360 o gwbl. Dw i YN meddwl am Golwg360 ond dw i’n meddwl am S4C, fideobobdydd, dy flog personol, fy mlog, Google, Twitter, popeth – fel darnau o’r rhwydwaith.

    Ar hyn o bryd mae’r rhwydweithiau Cymraeg yn wan yn fy marn i. Bydd popeth yn tyfu pan mae’r rhwydweithiau yn tyfu.

    Os ti eisiau trafod Golwg360 ac os dw i’n gallu ffeindio un gwendid yn dy esboniad o’r hafaliad…? Mae’n swnio fel disgrifiad papur newydd, teledu neu gylchgrawn papur i fi yn hytrach na darn o rwydwaith – neu rwydweithiau.

    Wyt ti’n darllen y Daily Mail? Dw i byth byth byth yn prynu’r Daily Mail. Ond dw i’n darllen straeon Daily Mail arlein bron bob wythnos. Dyma wahaniaeth pwysig rhwng papur a’r we. Unbundling dw i’n galw fe yn Saesneg. Dw i’n derbyn dolenni trwy fy rhwydwaith. Mae bron pob erthygl yn sefyll fel tudalen ar wahan mewn ffordd, mae’n mynd trwy rwydweithiau gwahanol, ar gael ar chwilio. Mae rhai o’r darllenwyr newydd yn darllen mwy o gwmpas y wefan yn ôl eu diddordebau nhw.

    Wrth gwrs dydyn ni ddim eisiau copïo’r Daily Mail. Ond mae’r egwyddor yn debyg. Yn y papur mae pethau niche yn amherthnasol, maen nhw yn “turnoff”. Ar y we does dim ots. Efallai maen nhw yn gallu tynnu pobol newydd.

    Wrth gwrs mae hwn yn hollol ddamcaniaethol – mae diffyg arbrofion bach. Unrhyw un am gêm o wyddbwyll? Dylen ni ei darlledu ar y we yn fyw i’r gymuned gwyddbwyll. Gwobr: traffig ychwanegol i dy flog.

  5. Newydd ddod ar draws y drafodaeth hon. Efallai mod i wedi camddeall sylwadau Ifan a Rhodri.

    Beth oedd yn bwysig wrth greu gwyddbwyll.com oedd creu amgylchedd Cymraeg i bobl chwarae ar y we, trafod gêmau, dysgu’r gêm. Roedd hefyd yn bwysig ein bod yn defnyddio nodiant Cymraeg: http://www.dyffrynaeron.org/twrnament/cofnodi.php (fel mae llawer o Dîm Gwyddbwyll Cymru yn gwneud, yn siaradwyr Cymraeg neu beidio).

    Mae’n wir i ddweud bod digonedd o safleoedd Saesneg a ieithoedd eraill i chware gwyddbwyll, ond dyw’r ffaith ei fod yn gêm niche ddim yn golygu ein bod yn peidio ei hyrwyddo drwy’r Gymraeg. Fel mae’n digwydd meddalwedd cod agored gafodd ei ddefnyddio, ei gyfieithu a’i addasu wrth greu’r safle – compwebchess – prosiect sourceforge sydd wedi dod i ben yn anffodus.

    “Gawn ni trio technoleg newydd, e.e. beth am ail-chwarae gem gwyddbwyll Kasparov neu pwy bynnag cam-wrth-gam gyda sylwebaeth Cymraeg yn HTML5? Efallai ail-ddefnyddio meddalwedd cod agored.” Mae gemaugwyddbwyll.com wedi ceisio gwneud hyn – yn y pen draw penderfynwyd defnyddio cod oedd yn ein galluogi i gyfieithu’r nodiant i’r Gymraeg, nid y cod gorau yn anffodus – heblaw ein bod yn gwneud hyn byddai just yn safle gwyddbwyll Seisnig gyda rhyngwyneb Cymraeg.

    Ifan “Unwaith ydan ni’n denu lot o bobol at y pynciau rheini, wedyn fe allen ni fforddio ddechrau trin a tarfod pynciau sy’n denu llai o bobol, e.e. pysgota a gwyddbwyll” Mae llawer o blant ysgol wedi dysgu chware gwyddbwyll drwy gwyddbwyll.com – sy’n gwneud y gwaith o’i greu’n werth chweil yn ei hun.

    Roedd hefyd yn benderfyniad bwriadol i beidio rhoi’r Saesneg fel dewis o iaith – mae dewis o ieithoedd eraill.

    Mae’n bwysig bod y Gymraeg yn rhan o bob maes yn ein bywydau – nid dim ond pethau “poblogaidd”.

    Ar Fedi 28 2011 roedd 508 o chwaraewyr wedi cofrestru i chwarae ar gwyddbwyll.com. Roedd 11179 gêm wedi eu cwblhau ers sefydlu’r safle yn 2007, y chwaraewr mwyaf gweithredol ar y safle oedd Duraisingh (12 o gemau) – sy’n byw yn India a ddim yn siarad gair o Gymraeg. Mae defnyddwyr gwyddbwyll.com yn dechrau blogio am wyddbwyll eu hunain – sy’n gret – llai o waith i fi – http://gwyddbwyllcymru.blogspot.com/

    Gorau i gyd po fwyaf o egni ac amser sy’n cael ei roi i greu gwefannau Cymraeg ar bob pwnc. Blydi hel – sdim rhaid cael sybsidi ar gyfer popeth Cymraeg!

Mae'r sylwadau wedi cau.