2 Replies to “Datblygu gyda Datblygu”

  1. Wyt ti wedi gorffen y llyfr eto? C’mon…..

    Tydy Atgofion Hen Wanc ddim yn gampwaith (masterpiece) o bell ffordd, ond mae’n ddarllenadwy.

    O beth mae dysgwr eraill yn ddweud, tydy nofelau ar gyfer dysgwyr ddim yn wych, er gan fod gyda ti lawer o ddiddordeb yng nghyd-destun hanes a chymdeithas y Gymru Gymraeg, efallai byddai Cip ar y Cweri (addasiad o sawl llyfr Cyfes y Cewri) o ddiddordeb i ti.

    Hefyd, os ti’n edrych am lyfrau sydd ddim yn rhy hir (hyd yn oed os ti’n casau llyfr, mae’n neis eu gorffen!) galla i awgrymu dau lyfr Straeon Sydyn (Quick Reads):

    Gwledyd Bychain gan Bethan Gwanas (wastad yn mynd i Lydaw, byth yn mynd i Ffrianc….)
    a
    Y Jobyn Gorau Yn Y Byd gan Gary Slaymaker (ychydig o celebtiry worship, ond mae’n ddoniol)

    Dw i ar fin goffen darllen Think Without Limits – You Can Speak Welsh!, ac mae’n reit difyr os ydych wedi/ar ganol dysgu Cymraeg, yn siaradwyr Cymraeg ac yn nabod dysgwyr, neu’n diwtor.

    Mae pytiau o lawer iawn o gyfweliadau gyda dysgwyr yn y llyfr, llawer ohonynt yn cwyno – ‘siaradwyr Cymraeg ddim siarad gyda dysgwyr, ‘siaradwyr Cymraeg yn siarad yn rhy gyflym’, ‘siaradwyr Cymraeg yn defnyddio gormod o slang’ a.y.y.b.

    Mae yna wirionedd yn llawer sy’n cael ei ddweud, ond dw i hefyd yn dechrau meddwl bod ni’n ‘pandro’ (os dyna yw’r gair cywir) llawer gormod at y dysgwyr ar adegau. Wrth gwrs dylwn wneud y brosoes o ddysgu Cymraeg mor ddi-boen a phosib, ond yn y pen draw, dysgu iaith yw dysgu iaith.

    Mae’n braf darllen am dy brofiadau di, a’r ffaith mewn amser mor fyr ti’n taflu dy hun at y sialens nesa.

    Cyfle i ymarfer eu Cymraeg oedd un o’r prif ‘gwynion’ yn y llyfr, a rhywbeth dwi’n sywleddoli sy’n broblem mawr, yn enwedig yn y de ddwyrain (tu allan i rai ardaloedd yng Nghaerdydd). Un o’r tips yn y llyfr yw ceisio cynnal un o’ch diddordebau drwy gyfrwng yr iaith. Dw i’n meddwl mai dyma lle rwyt ti wedi bod yn llwyddiannnus, trwy blethu siarad Cymraeg i mewn i ddiddordebau pob dydd – cerddoriaeth, technoleg a malu cachu yn y dafarn.

  2. Dw i wedi gorffen cylchgronau a phapurau newydd. Llyfrau syml iawn… Ie, dylwn i ffeindio her newydd. Diolch am yr awgrymiadau.

    Dysgu iaith yw dysgu iaith, dw i’n cytuno!

    Mae rhwydweithiau dysgwyr yn pwysig. Arlein. Cigfyd. Ti di darllen Cluetrain Manifesto? “People in networked markets have figured out that they get far better information and support from one another than from vendors.”
    People == dysgwyr
    vendors == tiwtoriaid

    Trafodwch.

    Gyda llaw, diolch o galon am gyfieithiadau fel ‘campwaith’ ond mae’r Saesneg gwastad yn neidio mas y dudalen! Dw i wastad yn astudio ebostau, sylwadau a chofnodion blog am yr ystyr dwfn, geiriau newydd gyda Firefox geiriau-allwedd ayyb. Felly ti’n gallu jyst sgwennu dy Gymraeg arferol.
    🙂

Comments are closed.