6 Replies to “Peiriant cyfieithu yn y dyfodol, agos a phell”

  1. Nawr, dyna beth dw i’n galw dawnsio.

    Fel ti’n awgrymu, dydy’r technoleg newydd yma ddim yn dod heb eu set o broblemau potensial unigryw, ac mae rhaid i ni fod yn glir amdanyn nhw a pheidio anghofio bod cyfieithu geiriau ddim yr un peth â deall diwylliant. Ond y dewis yw cofleidio’r technoleg newydd, ei addasu i’n gofynion ein hunain, a’i ddefynddio i gryfhau ac ehangu ein diwylliannau (lluosog bwriadol), neu eistedd ar ein dwylo a gobeithio am diwygiad arall yn y capeli. Yn fy marn i.

    Cangymeriad Faust oedd peidio darllen y print mân.

  2. Da iawn chi Carl, post cynta’ brilliant, mae’r dysgwyr i gyd yn falch ohonoch chi, dw i’n siwr. Chi’n neud fi eisiau ailddecrau fy mlog Cymraeg…gah dw i’n allan o bractis! x

  3. Diolch i chi, dysgais i llawer dros dyddiau diweddar. Dysgais i geiriau newydd wrth gwrs. Hefyd, mae’n mwy pwysig i wneud na dweud yn unig. Dw i’n annog blogio Gymraeg ar hyn o bryd. Felly Loo, os fyddi di ail-dechrau dy flog hefyd mae basai’n wych!

    Nic, dw i’n cytuno am gofynion ein hunain ayyb. Mae “addasu” ydy gair da. Dydy technoleg a chwmniau ddim yn niwtral. Mae nhw yn dechrau gyda rhesymau a bwriadau gwahanol. Felly dyn ni wastad yn addasu.

    Gyda llaw, oedd fyn nheulu yn profi diwygiad 1904. Stori arall.

    Viva ein diwylliannau!

  4. Lwcus bod Nic yn darllen dy flog, a dy fod ti wedi llwyddo i’w ysbrydoli, achos fyddwn i wedi methu dy gofnodion diwedda (mae problem gyda dy RSS di ar fy rhestr bloglines dw i’n credu).

    Roedd y drafodaeth am Google Translate ar Clwb Malu Cachu yn diddorol, yn arbennig pwy fydd yn manteisio ohono (Google, siaradwyr Cymraeg, y di-Gymraeg neu’r dysgwr). Yr ateb yw pawb ond mewn gwahanol ffyrdd.

    Google – gwasanaeth gwell (os yw siaradwyr Cymraeg yn fodlon gwirfoddoli gwelliannau)
    Siradawyr Cymraeg – Ddim yn gorfod troi i’r Saesneg (os nad ydynt yn dymuno)
    Di-gymraeg – syniad o beth sy’n cael ei drafod
    Dysgywr – llenwi’r bylchau nad ydyn’t cweit yn deall

    O ran siaradwyr Cymraeg yn credu bod blogio’n Saesneg er mwyn denu cnulleidfa – rhaid i beth maen nhw’n ysgrifennu fod yn shit hot, ochos mae milynnau o flogwyr eraill yn cystadlu gyda nhw am ddarllenwyr, tro mae gyda chi *bron* ,i>guaranteed readership yn Gymraeg, hyd yn oed os ydy o’n fach.

Comments are closed.