Mae Lefi Gruffudd yn ddefnyddio ei golofn Western Fail heddiw i gwyno am Amazon – eto!
Yn ystod y flwyddyn diwethaf mae’r Lolfa a chyfryngau Cymraeg wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r un darparwr e-lyfrau sawl gwaith. Gweler: sawl stori Golwg 360 ers 2011 a chofnod mis yma ar blog newydd Y Lolfa. Roedd erthygl yn gylchgrawn Lol eleni hefyd am Dafydd El a’i Kindle am ddim.
Mae’r dyfodol dosbarthiad e-lyfrau yn bwysig iawn i ddyfodol Cymru, gan gynnwys busnesau Cymraeg, addysg Cymraeg, diwylliant, democratiaeth a mwy. Mae’r rhyddid i ddosbarthu meddyliau yn y fantol hyd yn oed. Dyma pam dw i’n cytuno gyda lot o bwyntiau Lefi ar y cyfan. Rydyn ni wedi trafod pynciau tebyg wyneb i wyneb unwaith neu dwywaith. Ein casgliad, yn fras, oedd: mae Amazon yn mynd i ennill lot o’r farchnad e-lyfrau. Ond does dim eisiau helpu nhw.
Mae’r rhan fwyaf o’r erthygl heddiw yn siarad am Amazon gyda sôn bach ar y diwedd am opsiynau eraill, y Nook a’r Kobo. Byddai rhyw fath o ymgyrchu yn syniad da, gan gynnwys ymgyrchu yn erbyn Amazon. Ond Y Lolfa ydy cwmni – yn bennaf dw i eisiau gweld rhyw fath o ymgyrch marchnata i awgrymu beth ddylen ni wneud fel darllenwyr Cymraeg y Nadolig yma. Dyma beth sydd ar goll.
Yn ogystal â fy nghasgliad o lyfrau printiedig, dw i’n bwriadu prynu dyfais e-ddarllenydd rhywbryd. Mae pobl eraill yn yr un sefyllfa. Does dim clem gyda fi eto pa un i’w ddewis heblaw dw i’n sicr dw i ddim eisiau unrhyw beth Amazon.
Wel, pwy sydd yn mynd i werthu dyfais i fi? Tasai’r Lolfa neu unrhyw gyhoeddwr yng Nghymru, er enghraifft, yn argymell dyfais ‘Cyfeillgar i’r Gymraeg’ neu hyd yn oed cynnig dyfais ar werth byddwn i’n cymryd y cynnig o ddifrif. Dw i’n gallu dychmygu’r logo ar y sticeri nawr: Cyfeillgar i’r Gymraeg, y dewis amgen sydd angen. (Dw i wedi trafod cyfleoedd eraill i gyhoeddwyr.)
Mae’r cyhoeddwyr yng Nghymru, gyda help newyddion, blogiau a sefydliadau Cymraeg, mewn lle da i ddangos ‘ecosystem’ amgen i ni. Nook neu Kobo neu Sony? Neu rhywbeth arall?
Mae’r Kindle wedi torri heddiw, felly dw i’n agored i unrhyw awgrymiadau! Bah.
Oes modd allforio dy lyfrau?
Mae Amazon yn parhau i nodi fy mod i wedi eu prynu nhw, felly os ydw i’n prynu dyfais newydd fe fyddwn nhw’n lawrlwytho’n awtomatig.
Ac maen nhw i gyd yn fy mhen i, wrth gwrs. 😛