Gwych iawn oedd cael cymryd rhan yn y digwyddiad Hacathon Hanes 2025 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth ar 12 Chwefror eleni.
Roedd llu o setiau data ac adnoddau ar gael i’w hacio ac addasu ac yna creu prosiectau. Fe benderfynais cyfuno rhai o fy niddordebau mewn prosiect undydd – hanes ymgyrchu, heddwch, data, a mapio.
Yn y flwyddyn 1923 yn sgil erchyllderau’r Rhyfel Fawr roedd ymdrech fawr i drefnu deiseb heddwch. Yn y pen draw fe gasglwyd 390,296 o lofnodion gan fenywod yng Nghymru, oddeutu un trydydd o holl fenywod a merched Cymru ar y pryd. Chwarae teg iddynt! Aeth y ddeiseb ar dipyn o daith wedyn. Darllenwch yr hanes.
Dyma brototeip (cynnar iawn iawn) o fap cyfredol sy’n dangos llofnodion deiseb gan fenywod yn ardal Grangetown, Caerdydd.
Mae’r map yn ymdrech i:
- ddangos yr ymgyrch mewn ffordd weledol amgen,
- cyflwyno’r menywod a lofnododd y ddeiseb yn eu holl amrywiaeth,
- talu teyrnged iddynt,
- gweld ein strydoedd mewn ffordd arall,
- a sbarduno’r meddwl.
Mae’r data lleoliad a delweddau yn dod o brosiect digido Deiseb Heddwch Menywod Cymru gan y llyfrgell ei hun a’i chriw o wirfoddolwyr.

Dw i eisoes yn gweld fy strydoedd lleol yma mewn ffordd wahanol.
Y prif heriau technegol i mi oedd cysoni a thacluso’r data, a chanfod lleoliadau’r map. O ran y data roedd pob cyfeiriad mewn maes unigol ac roedd ychydig o anghysondeb (a oedd yn adlewyrchu’r amrywiaeth yn y dogfennau gwreiddiol i fod yn deg). Roedd angen i mi wneud bach o gysoni gyda sgript a bach â llaw. Defnyddiais y set data agored OS Open Names i gael cyfesurynnau am ganol bob stryd (yn hytrach na rhywbeth fel API Google Maps sydd â chyfyngiadau ar ddefnydd dw i’n credu). Mae’r set data OS yn cynnig lleoliad canol y stryd a ‘bocs’ o amgylch y stryd.
Wrth gwrs mae angen llawer iawn mwy o lofnodion ar fy map. Mae cyfanswm o 69 ohonynt ar y fersiwn cyfredol. Bydd hi’n dda cael ymestyn i’r holl ddinas a’r holl wlad wedyn. Nid oes mynediad gyda fi at y data gwreiddiol rhagor.
Mae eisiau i mi ffeindio ffordd well o ddangos clwstwr o lofnodion sydd wedi dod o’r un stryd hefyd, o bosibl drwy ddefnyddio’r bocs o amgylch bob stryd. Roedd ychydig o orgyffwrdd yn y lleoliadau fesul stryd felly o’n i wedi cyflwyno bach o amrywiaeth randym – datrysiad cyflym dros dro oedd hyn!
Gobeithio bod modd diweddaru’r prosiect yn y dyfodol agos. Hoffwn i rannu’r cod tu ôl iddo hefyd.
Diolch i’r Llyfrgell am y croeso. Dyma erthygl gan Jason Evans sy’n cynnwys sôn am rai o’r prosiectau eraill.
O ystyried y flwyddyn, dylai fod yn bosib cyfoethogi’r data gyda chofnodion o Gyfrifiad 1921, i gael enw llawn i lythyren.
Difyr Huw, o’n i ddim wedi meddwl am y cyfrifiad.
FMP hefyd yn ’neud chwiliad yn ol cyfeiriad oedd yn ddefnyddiol iawn pan o’n i’n trawsgrifio.
Edrych yn gret! Gobeithio gallwn ni ’neud rhywbeth tebyg gyda’r data er mwyn cyfoethogu’r wefan (rhywbryd!!).
Really like this Carl, are you pulling the images from the IIIF directly or just a copy of the images from the live website?
FMP, wawsa! Diolch Sara, o’n i ddim wedi meddwl am yr un yna o gwbl. Bydd hi’n wych cael data defnyddiol ar gyfer y strydoedd sydd wedi diflannu neu newid enw ers y ddeiseb.
Helo Paul, shwmae? At the moment I’m hot-embedding them from the URLs given by the API which are at the domain damsssl.llgc.org.uk. Everything is prototype at the moment – I’m sure an alternative method could be found if necessary.
FMP=FindMyPast? Wn i ddim am y sefyllfa bresennol ond roedd ganddynt hawl neilltuedig i Gyfrifiad 1921 am ryw gyfnod. Gwn fod cofnodion y cyfrifiad yna ar gael ar Ancestry nawr, drwy danysgrifiad, ond mae’r ddau beth yna’n awgrymu i mi na fydd modd cyrraedd y data ar gyfer ymarfer fel hyn.
Os am gyfyngu mapio i ardal fach, ffynhonnell bosibl arall fyddai llyfrau aelodaeth capeli. Flynyddoedd yn ôl defnyddiais rai Eglwys Minny St i fapio cyfeiriadau yr aelodau.