Dyma daith fach o Android Cymraeg i chi.
Yn fras dw i wedi gosod LineageOS 23 ar lechen i’r mab 6-oed ddefnyddio. Mae hi’n wych bod e’n gweld popeth yn Gymraeg ar y system. Mae angen gwaith nawr i fynd â’r profiad i fwy o blant a phobl eraill.
Un fantais arall yw bod LineageOS yn well nag Android arferol o ran preifatrwydd. Does dim angen cyfrif Google a does dim tracio na chasglu data personol gan y system.
Gyda llaw dyma’r tro cyntaf i mi gyhoeddi recordiad sgrin a sain o’r llechen. Er bod ychydig o sŵn gwyn yn y cefndir mae’n edrych ac yn swnio’n eithaf da i mi.
Gadewch sylwadau neu gysylltwch am sgwrs!
Gweler hefyd: Ar werth nawr: llechen Android Cymraeg
DIWEDDARIAD 5/9/2026: dyw fy sylw am F-Droid yn y fideo ddim yn hollol deg. Dw i wedi gweld bod rhai fersiynau heb eu diweddaru (e.e. y tro diwethaf i mi edrych doedd y cyfieithiad Cymraeg ddim yn rhan o’r fersiwn SuperTuxKart ar F-Droid ond roedd Aurora yn ei gynnig). Er hynny mae F-Droid yn chwarae rhan bwysig fel storfa apiau sy’n darparu meddalwedd rydd a chod agored. Mae’n siŵr bod modd gwella’r sefyllfa o ran y fersiynau.
