Mae Ifan Morgan Jones wedi sgwennu cofnod diddorol iawn, Harry Potter, eLyfrau a’r Gymraeg. Mae lot o bwyntiau dilys yna ond o’n i eisiau rhoi ffocws ar un peth yn unig:
Mae’r cyhoeddwr hefyd yn rheoli ansawdd llyfrau. Dydyn nhw ddim yn mynd i ryddhau unrhyw hen sothach, ac mae unrhyw un sy’n prynu llyfr yn mynd i wybod ei fod wedi ei olygu ac o safon digon da i’r wasg fynd i’r drafferth i’w gyhoeddi. Heb y ‘rheoli ansawdd’ yma fe allai unrhyw hen rwtsh gael ei gyhoeddi ar y we, y gwenith yn gymysg â’r us, ac fe fyddai darllenwyr yn llawer llai hyderus wrth dalu arian da i lawrlwytho llyfr.
Fel arfer rydyn ni’n clywed y math o bwynt hwn trwy berson gyda rhyw fath o statws, talent, enw da ac ati, sydd yn wir o ran Ifan. Nes i glywed rhywbeth tebyg mewn sgwrs yn ddiweddar gydag academydd Cymraeg flaenllaw.
Mewn geiriau eraill: ‘rydyn ni, yr elit, wedi bod yn penderfynu pa fath o stwff dylai pobol ddarllen. Ond nawr mae’r plebs fel chi wedi cyrraedd.’
Hoffwn i edrych at y 15fed ganrif am sbel. Pam lai, dyma fy mlog.
- 1440
Gutenberg, dyfeisio’r wasg yn yr Almaen - 1473
Caxton, cyhoeddi y llyfr printiedig cyntaf yn Saesneg (The Recuyell of the Histories of Troy) o’i wasg yn Bruges - 1476
Caxton, sydd wedi dechrau’r wasg cyntaf yn Lloegr, cyhoeddi’r llyfr printiedig cyntaf (Canterbury Tales) o’r wasg brodorol yna - 1546
llyfr printiedig cyntaf yn Gymraeg (Yn Y Lhyvyr Hwnn, pwy sy’n ‘berchen’ ar y lhyvyr nawr yw stori arall), roedd rhaid i John Price mynd i wasg yn Llundain
Roedd y wasg yn bwgwth mawr i’r systemau llyfrau ar y pryd. Dwedodd copïwyr pethau debyg iawn i’r pwynt uchod. Y canlyniad oedd P45 i’r mynachod a chopiwyr yn yr enghraifft ’na. Roedd rhaid iddyn nhw ffeindio rhywbeth arall i’w cyfrannu i ddiwylliant yn y pen draw.
Y cwestiwn mawr i fi yw, beth ataliodd y wasg Cymraeg cynnar? Pam roedd rhaid i Gymry aros tan y ganrif nesaf, 73 mlynedd wedyn, am y llyfr cyntaf printiedig yn Gymraeg? Yn 1546 roedd darllenwyr Saesneg yn disgwyl straeon, hanes, chwedlau, Beiblau, llyfrau am ffydd a chrefydd a mwy – pan roedd y wasg Cymraeg yn jyst dechrau cyhoeddi lhyvyr. Roedd darllenwyr yn gallu dechrau gofyn ‘why should the Saes have all the best books?’.
Dwy her o fy safbwynt i:
- diffyg mynediad – technoleg cyhoeddi a dosbarthu
- diffyg ewyllys
Ers canrifoedd mae’r dwy her yma wedi stopio llyfrau o bob math – cyn iddyn nhw cael eu cyhoeddi neu hyd yn oed cyn iddyn nhw cael eu sgwennu.
Achosion diffyg mynediad? Diffyg statws, dim lot o arian, rhwystrau ar y llwybrau i’r farchnad. Rydyn ni’n gallu ychwanegu llythrennedd hefyd – dim digon o ddarllenwyr, dim galw.
Nôl i hanes:
- 1990
Tim Berners-Lee, llwyddo gyda’i arbrawf newydd y we fyd-eang, sef system cyhoeddi a dosbarthu cynnwys, testun, fideo ac ati - 2011 –
Yn dibynnu!
O ran ddigidol, mae technoleg cyhoeddi yn lot haws. Mae unrhyw pleb yn gallu cyhoeddi ac yn bod fel John Price a’i mega smash hit Yn Y Lhyvyr Hwnn. Elyfrau yw cyfrwng cyhoeddi arall gyda blogiau a gwefannau o bob math – ac wrth gwrs llyfrau papur, sef technoleg cyhoeddi sydd dal yn boblogaidd iawn. Mae dyfeisiau fel Kindle neu Nook (fy hoff hyd yn hyn ond mae’r dau gyda DRM yn anffodus) yn dod gyda’r addewid o arian i awduron. Does dim amau bydd rhaid i’r diwydiant cyhoeddi dechrau trio pethau gwahanol ac i newid rhywsut.
Felly yr unig her fydd pwynt 2, ewyllys a gweledigaeth.
Mae lot o ‘rwtsh’ dw i eisiau darllen. Allai rhywun sylweddoli fy galw fel darllenwr ac efallai cwsmer? Pump enghraifft.
Roedd pethau yn Gymraeg yn rwtsh neu amherthnasol neu bron anweledig i gyhoeddwyr fel Gutenburg a Caxton, wnaethon nhw ddim cyhoeddi unrhyw Cymraeg. Prin iawn ydyn ni’n gweld llyfrau Cymraeg o gyhoeddwyr tu allan i Gymru nawr.
Bydd mwy o bobol yn sgwennu pethau Cymraeg am ddiddordebau arbennig fel cerddoriaeth electronig neu meddalwedd rydd neu hanes teulu di-nod neu casgliad o gerddi gan bardd lleol ifanc.
Perthyn i ddiddordebau arbennig yw bynciau sensitif, dadleuol ayyb. Rwyt ti’n gallu bod yn rhydd o grantiau ac unrhyw dermau, amodau a disgwyliadau sydd gyda nhw.
Awduron anhysbys. Enghraifft random o’r we a phob lwc iddo fe a’i tri darllenwr: Simon Dyda. Mae rhai o awduron yn profi llwyddiant bach gyda hunan-gyhoeddi ac yn symud i gytundebau gyda chyhoeddwyr hwyrach. (Beth fydd wedi digwydd yn yr achos trist iawn John Kennedy Toole yn y cyd-destun newydd tybed?) Ond arian yw un amcan bosib yn unig.
Hyd yn oed mae hen lyfrau yn rwtsh i rywun, e.e. Afal Drwg Adda gan Caradog Prichard achos does neb wedi ei ail-gyhoeddi ar unrhyw fformat ers 1973. Efallai mae’r llyfr yn rwtsh – rydyn ni’n gallu penderfynu ar ôl i ni ddarllen, diolch.
Llun anochel:
O’r diwedd rydyn ni’n datgysylltu ‘poblogrwydd’ ac ‘ansawdd’ sy’n potensial cyffrous dros ben.
Mae chwyldro cyhoeddi Cymraeg ar y gorwel, yn ôl y breuddwyd o leiaf, efallai dylen ni ddisgwyl mwy o bryder am ‘rwtsh’. Mae’n debyg i’r sylwadau Angharad Mair am Twitter (un person dylanwadol yn y cyfryngau vs pawb yn y cyfryngau). Mae’r pwynt am ansawdd yn debyg i’r obsesiwn gyda safon yr iAITH hefyd.
Yr haf hwn: fy lhyvyr nesaf.
“Fel arfer rydyn ni’n clywed y math o bwynt hwn trwy berson gyda rhyw fath o statws, talent, enw da ac ati, sydd yn wir o ran Ifan. Nes i glywed rhywbeth tebyg mewn sgwrs yn ddiweddar gydag academydd Cymraeg flaenllaw.
Mewn geiriau eraill: ‘rydyn ni, yr elit, wedi bod yn penderfynu pa fath o stwff dylai pobol ddarllen. Ond nawr mae’r plebs fel chi wedi cyrraedd.’”
Eh? Mae’n uffar o naid o beth ysgrifennais i at beth wyt ti’n ei honni ydw i’n ei ddweud fan yna. Dw i ddim yn siarad am gynnwys y llyfr o gwbwl, ond bod y llyfr yn orffenedig, wedi ei olygu, ac yn ddarllenadwy. Hynny yw nad oes gwendidau sylfaenol yn y ffordd mae’r llyfr wedi ei roi at ei gilydd fydd yn llesteirio gallu y darllenydd i deall am beth mae’r awdur yn son.
O’n i’n meddwl bod y geiriau ‘rwtsh’ a ‘sothach’ yn eithaf clir ond efallai dw i wedi camddeall.
Byddi di ffeindio llawer mwy o bethau sydd ddim at dy dant yn sicr.
Ond dylen ni chroesawi’r rhyddid i gyhoeddi a dathlu genedigaeth categori newydd – llyfrau sydd wedi cael eu targedu at nifer o ddarllenwyr rhwng 1 a thua 200. Mae’n newyddion da i Gymraeg fel iaith fach.
Wedi gadael sylw o dan y cofnod gwreiddiol, ond yn sicr dwi’n edrych ymlaen at gael yr opsiwn o ddarllen mwy o sothach dw i gyda gwir diddordeb ynddo yn hytrach na silffoedd ar silffordd o lyfrau safonol am bynciau nad oes fawr ddim diddbrdeb gyda fi ynddyn nhw. Ar hyn o bryd, y cyhoeddwr sy’n penderrfynu eth mae’r darllenydd yn cael ei ddarllen mwy neu lai.
@Rhys
Cytuno ac mae’r cyhoeddwyr yn meddwl bod nhw yn deall beth mae pobol eisiau. Dw i siŵr bod nhw yn colli rhai o lyfrau poblogaidd iawn, yn enwedig y llyfrau sydd ddim yn ffitio mewn unrhyw categori neu genre penodol.