Diwylliant rhydd: gofyn i’r Llyfrgell Genedlaethol am ein hetifeddiaeth

Canslwyd. Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd berchen yr hawl ar y delwedd tu ol y nodyn yma.

Diwrnod Pethau Bychain hapus!

Dw i’n postio pethau amrywiol yn safleoedd gwahanol. Ond ro’n i eisiau postio delwedd o Yn Y Lhyvyr Hwnn (y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf o 1546) yma. Basai’n ffordd briodol o ddathlu’r chwyldro cyhoeddi newydd, o’n i’n meddwl. Ond dyw Llyfrgell Genedlaethol ddim eisiau rhannu’r delweddau ar hyn o bryd. Dw i wedi postio’r llythyr isod iddyn nhw.

Annwyl Llyfrgellydd

Dw i wedi darllen darnau o’r llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf, Yn y Lhyvyr Hwnn. Dw i eisiau eu ail-cyhoeddi nhw ar fy mlog. Does dim copi o’r llyfr gyda fi yn anffodus ond ffeindiais i luniau ar eich gwefan.

Mae’r lluniau yn dweud “Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd berchen yr hawl ar y delweddau a rhaid anfon cais at y Llyfrgellydd”.

Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn 1546 yn wreiddiol felly mae’r llyfr yn mas o hawlfraint. Baswn i awgrymu bod mai y cyhoedd sydd yn ei berchen e, yn cynnwys y pobol o Cymru.

Hoffwn i’ch ofyn i chi i newid y statws y delweddau i’r parth cyhoeddus – am Yn y Lhyvyr Hwnn a phob llyfr arall yn eich casgliad arlein. Maen nhw i gyd yn weithiau hollol deilliadol sydd yn deillio’n llwyr o’r llyfrau gwreiddol. Mae arian cyhoeddus yn cefnogi’r Llyfrgell felly dylai popeth yn y casgliad arlein fod yn y parth cyhoeddus.

Dw i’n ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell Genedlaethol am y delweddau o Yn y Lhyvyr Hwnn a llawer o lyfrau eraill. Ond dyw’r mynedfa i’r casgliad ar hyn o bryd ddim yn digon llydan. Ar hyn o bryd rhaid i bobol gofyn o flaen llaw ar gyfer am ail-gyhoeddi, ail-ddefnyddio neu ail-gymysgu o’r delweddau.

Dw i’n edrych ymlaen at eich ymateb.

Oddi wrth

Carl Morris

Dyn ni’n siarad am ein llyfrau yn y parth cyhoeddus yma, ein hetifeddiaeth.

Gwnaf i bostio unrhyw ateb. (Diolch Rhys Wynne am help gyda gramadeg y llythyr yma.)

Mwynha weddill y diwrnod Pethau Bychain!

10 Ateb i "Diwylliant rhydd: gofyn i’r Llyfrgell Genedlaethol am ein hetifeddiaeth"

  1. Chwarae teg, dw i’n meddwl bod yna ewyllys da yn y Llyfrgell tuag at fod yn agored gyda’u daliadau – maen nhw’n cyhoeddu stwff ar Flickr gan dweud:

    Nid oes unrhyw gyfyngiadau hawlfraint y gwyddys amdanynt ar luniau’r Llyfrgell sydd ar Flickr Commons; golyga hyn nad yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau hawlfraint cyfredol ar y lluniau, gan amlaf oherwydd mai’r Llyfrgell sydd berchen yr hawlfraint, neu gan fod cyfnod yr hawlfraint wedi dod i ben.

  2. …a peth arall! 🙂

    Mae gwahaniaeth rhwng hawlfraint ar ddelwedd (sganiadau sy ar wefan y Llyfrgell), ac hawlfraint ar y testun ei hunan (does dim sut peth gyda llyfr mor hen, fel ti’n dweud). Prin iawn byddai’r Llyfrgell yn gallu dy stopio rhag gyhoeddi’r testun cyfan ar Brosiect Guttenburg, er enghraifft, ‘set ti moyn wneud hynny. Yn wir, o’m profiad innau gyda staff y Llyfrgell, byddan nhw’n fodlon helpu.

  3. Helo Carl

    Mae dy gofnod yn codi pwynt pwysig ynghylch hawlfraint a’r defnydd o ddeunydd hanesyddol ar ffurf ddigidol. Wrth gwrs, fel rwyt ti’n ei ddweud, mae ‘Yn y Lhyvyr Hwn’ allan o hawlfraint ers canrifoedd ac, o ran egwyddor, gallai unrhyw un wneud copi ohono yn gyfreithlon.

    Ar yr un pryd, mae digido deunydd hanesyddol yn fuddsoddiad o ran amser ac adnoddau ac mae cyrff fel y Llyfrgell sy’n digido er mwyn rhoi mynediad ar-lein i’r gweithiau hyn yn awyddus i gael cydnabyddiaeth a fydd yn sicrhau parhad y gwaith digido hwnnw i’r dyfodol.

    Rwy’n credu ei fod yn deg i ddweud fod gweithgareddau digido a chyhoeddi ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol yn dystiolaeth o’i ymrwymiad i gynyddu mynediad i’n hetifeddiaeth genedlaethol drwy gyfrwng y We, a hynny yn rhad ac am ddim. Trwyddedu ar gyfer ail-ddefnydd yw’r cam nesaf ac mae Strategaeth Digido a Strategaeth y We y Llyfrgell yn ymrwymo i hynny. Mae ffrwyth yr ymwymiad hwnnw eisoes i’w weld yng nghyfraniad y Llyfrgell i Flickr Commons a Chasgliad y Werin, a’r bwriad yw trwyddedu rhagor o gasgliadau digidol dros y blynyddoedd nesaf.

    Yn ogystal â hynny, mae dy gofnod yn cadarnhau yr angen am arolwg o’r modd y mae’r Llyfrgell yn ymdrin â hawliau (yn arbennig yn y maes digidol) ac mae swydd newydd Rheolwr Hawliau a Gwybodaeth wedi’i chreu i arwain y gwaith hwnnw. Cefais fy mhenodi i’r swydd honno ym mis Mehefin a byddaf yn dechrau yn swyddogol ym mis Hydref.

    Hwyl
    Dafydd

  4. Dafydd
    Llongyfarchiadau ar y swydd!

    Cyn i chi symud i’r strategaeth trwyddedu ydych chi’n siŵr bod y Llyfrgell yn berchen ar y delweddau? Os ydw i’n sganio unrhyw lyfr newydd o Siop y Pethe, heb unrhyw cynnwys ychwanegol, ydw i’n berchen ar gynnwys y sgan? (Nac ydw.)

    Os bydd unrhyw un yn copïo’r delweddau Yn y Lhyvyr Hwnn dw i ddim yn siŵr o gwbl am gryfder yr achos potensial. Bydd yn glir am y statws parth cyhoeddus, i ryddhau nhw am genhedlaeth nesaf o grewyr.

    Dw i ddim wedi sôn am mantais i’r Llyfrgell chwaith. Rwyt ti wedi bod ar y we, wedi gweld y mantais o rhannu siwr o fod.

    (Ar hyn o bryd mae gyda chi dim ond 559 canlyniad Google am wefannau sy’n ddolen â llgc.org.uk!)

    Wrth gwrs dylen ni bod yn ddiolchgar am waith caled a phwysig Llyfrgell Genedlaethol. Ond fel un o’r Corffau a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae Cymry wedi talu am y gwaith. Mewn ffordd, mae’r Llyfrgell yn gwasanaethu’r wlad – a’r iaith Gymraeg.

  5. Annwyl Carl

    Byddwch wedi cael ymateb Dafydd Tudur i’r sylwadau ar eich blog.

    Gallaf gadarnhau mai dyna safbwynt strategol y Llyfrgell. Mae eich sylwadau yn amserol ac yn cyd-fynd â natur a chyfeiriad cyffredinol gwaith y Llyfrgell. Gyrrir ein holl waith digido gan yr awydd i rannu gwybodaeth yn rhad ac am ddim gyda phobl Cymru a’r byd. Rydym hefyd yn awyddus i rannu cynnwys yn rhad ac am ddim ac wedi dechrau gwneud hynny drwy ein gwaith gyda Flickr Commons ayb. Fodd bynnag nid ydym eto wedi cymryd y cam i rannu popeth yn y ffordd hon. Mae eich sylwadau a’ch cwestiynnau yn berthnasol ac yn amserol ac fe fyddant yn siwr o fwydo i mewn i’r broses sydd eisoes ar y gweill. Mae penodiad Dafydd i swydd yn y maes yn rhan o’n hymroddiad i’r agenda hon.

    Yn y cyfamser os ydych am gynnwys delweddau o Yn y Lhyvyr Hwnn ar eich blog fe fyddant, yn anffodus, yn disgyn dan y gyfundrefn brisio bresennol o £6 am bob delwedd. Gan nad ydych, hyd y gwelwn ni, am atgynhyrchu at ddibenion masnachol, ni fyddem am godi am yr hawl i gyhoeddi.

    Yn gywir,

    Andrew Green
    Llyfrgellydd
    Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  6. Andrew, dw i’n chwilio am ffyrdd i ddatrys y broblem o’r diffyg cynnwys Cymraeg sy’n rhydd ac am ddim ar y we. Felly mae eich sylwadau, chi a Dafydd, yn ddiddorol iawn.

    Mae Llyfrgell yn gallu gwneud cyfraniad mawr i’r dyfodol yma gyda llyfrau mas o hawlfraint sy’n bodoli yn barod ac yn gallu ysbrydoli a bwydo’r genhedlaeth nesaf o awduron ac artistiaid.

    Dw i wedi bod yn gofyn fy hun “beth yw’r rôl unrhyw lyfrgell?”. Dosbarthu gwybodaeth yw fy nealltwriaeth i, nid perchen ar gynnwys fel cwmni cyhoeddi. Beth ddych chi’n meddwl?

    Diolch am eich sylw.

Mae'r sylwadau wedi cau.