Rhannu yw’r recordio newydd.

Dim ond meddyliau heddiw.

Mae’r rhan fwyaf o bethau yn Gymraeg yn anweledig. Maen nhw yn cysgu mewn archifau.

Trafodwch.

  • BBC
  • Recordiau Sain
  • Bando
  • Sidan
  • S4C
  • Fideos o Eisteddfodau
  • Llyfrau
  • Y Gasgen
  • Pethau o’r 1990au a 2000au
  • Ernest (DIWEDDARIAD 26/03/2011)

Dylen ni rhyddhau a rhannu nawr. Mae’r arian yn gallu dod hwyrach.

1960au.

Arwr yr archif: Bernie Andrews

After these sessions, instead of lodging the master tapes in the BBC library, Andrews invariably — and crucially — took them home. This was in breach of the rules, but it meant that much precious material escaped the BBC’s infamous policy of “wiping” tapes to save money.

2011.

Arwr yr archif: un person sy’n rhyddhau, rhannu ac annog rhannu gyda chaniatâd. Neu heb ganiatâd swyddogol. Maen nhw yn wneud y mwyafswm gyda thechnoleg sydd ar gael.

Rhannu yw’r recordio newydd.

4 Ateb i “Rhannu yw’r recordio newydd.”

  1. Un o’r pethau ‘bywyd’ fe wnes i ddysgu’n coleg oedd darlithiwr yn deutha fi i wneud rhywbeth wedyn ymddiheuro, yn lle gofyn am ganiatad a chael dy wrthod o’r cychwyn.

  2. At dy restr byddwn i’n ychwnegu holl gyfansoddiadu ar gyfer r Eisteddfod Genedlaethol (neu unrhyw eisteddfod o ran hynny).

    Ocê, mae rhao darnau buddugol o rai cystadlaethau yn cael eu cyhoeddi yn llyfryn Cyfansoddiadu blynyddol, ynghyd a’r holl feriniadaeth, ond mae lot sy ddim. Tra’n ymchwilio i weld sut fformat ddylwn ddilyn ar gyfer barnu cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2010, edrychais yn llyfryn cyfansoddiadau 2009. Alla i ddim cofior manylion i gyd, ond roedd cystadlaeuaeth ynddo ar gyfer dyfeisio gêm cardiau Cymraeg. Roedd ambell un wedi trio, ar o’r disgrifadau a’r beriniadaeth, roedden un yn arbennig yn swnio’n rili dda. Falle na fyddai dim arian wedi dod o’r peth, ond byddai gallu lawrlwytho rhai ar ffurf PDF wedi medru bod yn sbort, a pwy a wyr efallai wedi annog eraill i wneud rhywbeth tebyg ac a fyddai wedi bod o werth masanachol.

    Mae’n gwendu i fi deimlo reit blin – yr holl ymdrech, a neb yn cael ei weld o….

  3. Felly oes angen pwyso ar sefydliadau fel yr Eisteddfod i lunio polisi cyhoeddi/hawlfraint digidol?

    Tra fo protocol yn ei le fel bod gwaith newydd yn ymddangos ar y rhyngrwyd, gallwn ymdrechu i gael hen bethu i fyny hefyd.

Mae'r sylwadau wedi cau.