Mae Blociau Rhif yn raglen deledu animeiddiedig sy’n helpu plant ifanc i ddysgu rhifau.
Mae hi’n wych bod y rhaglen wedi’i chynhyrchu yn Gymraeg, ac yn cael ei gwylio a mwynhau mewn cylchoedd meithrin, ysgolion, cartrefi, ac ati ar draws Cymru a thu hwnt.
Ond mae problemau, a diolch i’r athrawon sydd newydd dynnu fy sylw atyn nhw.
Ar hyn o bryd mae 11 pennod Blociau Rhif sydd ar gael ar Clic ac iPlayer. Mae pob pennod yn cael ei darlledu ac wedyn mae ar gael i’w ffrydio am gyfnod o fis. Wedyn mae hi’n diflannu oddi ar y gwasanaethau ffrydio.
Os ydych chi’n lwcus efallai bod un o’r penodau yn perthnasol i’ch blentyn chi o ran ei thaith/daith ddysgu bersonol ar unrhyw adeg. Efallai ddim. Nodwch nad oes llawer o fetadata unigryw fesul rhaglen megis enw, delwedd, a disgrifiad. Mae hi’n anodd canfod neu gofio pennod penodol.
Dyma’r sefyllfa yn Saesneg. Mae modd cymharu’r un rhaglen sef Numberblocks sy’n digon poblogaidd i gael ei ymgorffori mewn crysau-t, teganau, ac adnoddau dysgu.
Er ei fod yn dweud bod y rhaglen yn dod i ben mewn 10 mis, credaf fod hyn yn cael ei adnewyddu’n gyson. I bob pwrpas “amhenodol” yw’r cyfnod gwylio. Ta waeth, mae’n lawer mwy na mis fesul rhaglen.
Dyma gyfres gyntaf ac mae modd i blentyn ddechrau ar y dechrau drwy wylio’r rhaglen gyntaf ymlaen drwy’r holl gyfresi.
Dyma gyfres 2.
Dyma gyfres 3.
Dyma gyfres 4.
Ac yn y blaen.
Mae cyfresi 5 i 7 yna hefyd, ac mae rhai “specials” a “numbersongs” yn ogystal. Yn wir mae cyfrif yr holl eitemau cynnwys yn her yn ei hun.
Fel arall mae modd pori drwy’r teitlau a delweddau yn hawdd achos mae cyfoeth o fetadata. Byddai rhai plant eisiau gwylio’r un rhaglen tro ar ôl tro, ac yna dysgu pethau hanfodol a phwysig.
Mae rhywun dylanwadol yn rhywle wedi sylweddoli bod argaeledd y rhaglen Saesneg hon yn flaenoriaeth hynod o bwysig. Os felly pam nad yw’r rhaglen Gymraeg yn cael yr un flaenoriaeth? Ar hyn o bryd mae’r Gymraeg yn cael ei gwthio i’r ymylon. Mae hyn yn sefyllfa rhwystredig iawn i lawer o bobl.
Mae datrysiad amherffaith dros dro. Mae dibenion addysg yn eithriad dilys i hawlfraint. Dan y gyfraith mae hynny yn cyfrif fel “delio teg” neu “delio’n deg”. Mae ffyrdd technegol o archifo rhaglenni ar gyfer pwrpas fel hyn. Efallai bod rhai cylchoedd meithrin ac ysgolion mewn lle i ddefnyddio nhw i gopïo rhaglenni.
Ond os ydyn ni o ddifrif am addysg ein plant mae eisiau gwneud hi’n lawer haws i’r holl gartrefi, teuluoedd ac eraill ffrydio rhaglenni yn ôl anghenion penodol pob plentyn, neu ar eu mympwy.
Annwyl S4C, annwyl BBC, annwyl gwmnïau cynhyrchu, a deiliaid hawlfraint… rhowch yr holl raglenni Blociau Rhif ar gael i BAWB drwy’r amser drwy Clic ac iPlayer os gwelwch yn dda! Mae rhaglenni pwysig eraill ond dechreuwch gyda Blociau Rhif. Mae siawns well bod y plant yn dod yn ôl i wylio mwy o raglenni wedyn.
Annwyl lywodraeth, annwyl Gomisiynydd y Gymraeg… defnyddiwch eich llais i sicrhau bod polisïau ac arferion y diwydiant teledu yn sicrhau bod mynediad llawer gwell at raglenni (sydd eisoes yn bodoli!). Dyma gyfleoedd eraill i blant ddefnyddio’r Gymraeg tu fas i’r dosbarth. Mae llawer o sgwrs wedi bod am hyn yn ddiweddar, gan gynnwys ymchwil y Comisiynydd ar ddefnydd y Gymraeg ymysg plant. Mae teledu yn berthnasol i’r sgwrs.
Yn y cyfamser dyma enghraifft amlwg o sut mae’r diwydiant teledu Prydeinig yn rhoi oedolion sydd am roi addysg Gymraeg i’w plant – gan gynnwys y rhai nad sy’n siarad Cymraeg yn rhugl eto – dan anfantais.