Gwefannau lleol, blodau yn tyfu ym mhob man

Tri dolen heddiw am wefannau lleol (dim trefn penodol):

1. Nodiadau gan Gareth Morlais o’r digwyddiad Talk About Local yng Nghaerdydd ar y blog Hacio’r Iaith – a thrafodaeth gan eraill. (Mae Gareth yn sgwennu BaeColwyn.com sef blog lleol ardderchog.)

Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd o fethu. Y gorau gellid ei wneud ydi trio cael rhywun i guradu aggregator o’r straeon gorau sydd yn y rhwydwaith (pe sefydlid rhwydwaith o gwbl).

2. Roedd y sylw uchod gan Rhodri ap Dyfrig. Mae fe’n adrodd meddyliau ar ôl Cymanfa Ddychmygu S4C Newydd.

Sut i ddechrau blog lleol

3. Fy nghyfraniad i’r sgwrs am lleol yng Nghymru: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr, tudalen newydd ar Hedyn

Dyw e ddim yn gyflawn eto ond os ti’n gofyn “Blogiau bach lleol di-ri? Neu uber-safle monolithig?”, dylai fy marn i fod yn glir.

Dyma pam gwnes i ddefnyddio’r enw Hedyn am y wefan wici pan gwnes i gofrestru’r enw dwy flynedd yn ôl. Nid achos o’n i’n meddwl am newyddion lleol yn enwedig ond o’n i’n meddwl: beth fydd llwyddiant ar y we Gymraeg yn gyffredinnol? Sydd yn gynnwys newyddion lleol.

Cliw arall: yr enw Pethau Bychain tu ôl ein digwyddiad llwyddiannus yn 2010. Rydyn ni’n gallu mwynhau o leiaf rhai o’r credit am yr enw. 🙂

Dyw sefydliadau Cymreig ddim yn hoffi’r athroniaeth o bethau bychain yma achos maen nhw yn licio platfformau MAWR, NEWYDD ac eisiau ordero canapés am y lansiad a bwydo’r buddsoddwyr, gwleidyddion a’r Western Mail.

Ond weithiau rydyn ni jyst angen y pethau BYCHAIN ar blatfformau sy’n bodoli EISOES – ond wrth gwrs gyda defnydd arloesol a chreadigol.

Ti’n gallu gweld y gwahaniaeth. Y “lansiad” fydd rhwydwaith cryf o bobol ar wahan – sy’n defnyddio’r we yn yr iaith Gymraeg am amcanion gwahanol nhw.

(Er enghraifft, dychmyga Casgliad y Werin heb y platfform. Efallai rhywbeth fel cyfres o weithdai Flickr a YouTube o gwmpas Cymru yn hytrach. Dyw e ddim yn swnio’n ddrwg o gwbl. Fyddan ni wedi arbed miloedd o bunnau o’r cyllideb meddalwedd (perchnogol) sy’n ailadrodd Flickr a YouTube. Rhy hwyr dw i’n gwybod. Cywira fi os fi’n rong.)

I fod yn onest dw i’n trio meddwl am rôl unrhyw uber-safle. Aggregator, mae rhai yn ddweud. Wel, pa fath? Mae Google Blog Search yn bodoli yn barod. Rhywbeth sy’n casglu’r straeon fel Umap am flogiau lleol – gyda map o Gymru falle? Wel, wyt ti rili eisiau mynd trwy newyddion lleol o ardaloedd gwahanol? Yr un cwestiwn yn geiriau gwahanol: pryd oedd y tro diwethaf wnest ti ddarllen papur bro o ardal gwahanol i fwydo diddordeb personol? Diffiniad newyddion lleol yw diddordeb lleol. Mae’n symud i newyddion genedlaethol os mae’n perthyn i bobol tu allan.

Dw i’n edmygu Glo Mân (papur bro ardal Dyffryn Aman) ond mae’r rhan fwyaf yn amherthnasol i fi yn Grangetown. Efallai yr unig aggregator posib fydd blog gan person o’r goreuon a doniol o gwmpas Cymru.

Mae Dave Winer, tad blogio ac RSS, yn cytuno:

Lately it’s dawning on people that the mass aggregators of local information aren’t achieving critical mass among the locals. Outside.in, a site that never made much sense to me, sold to AOL for $10 million. A lot less money than the VCs had invested in it.

Fy syniad gorau am yr uber-safle fydd copi o WordPress am newyddion lleol. Lawrlwytha’r cod a chynnig y peth fel darpariaeth i flogwyr lleol, e.e. ubersafle.com/llanrug ac ubersafle.com/eglwyswrw gyda blogiau ar wahan ar yr un enw parth Mae’n hollol iawn dan GPL. Ond PAM? Y peth pwysicaf fydd y hyfforddi a gweithdai – dal.

Mae gyda ni’r syniad o uber-safle trwm ac yn chwilio am reswm.

Dw i’n gallu meddwl am rôl enfawr o ran sefydliadau Cymraeg yma – yn gynnwys S4C. Sef: gweithdai, mynediad i offer, adnoddau fel lluniau a fideo (enghraifft: Eisteddfod Bae Colwyn 1947), adnoddau eraill, hyfforddi (sut i ddadfwndeli dy newyddion fel cofnodion a pheidio dibynnu ar ffeiliau PDF am bopeth!), grwpiau Flickr, blogiau bychain (fel Pethe), digwyddiadau agored fel Talk About Local a Hacio’r Iaith, tudalennau ar y we fel Sut i ddechrau blog lleol. Her yw, bydd pob un yn achosi llwyddiannau bach. Dim canapés!

Gyda llaw croeso i ti cyfrannu: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr

5 Ateb i “Gwefannau lleol, blodau yn tyfu ym mhob man”

  1. Post gwych. Yn sicr, fe fu gormod o bwyslais ar dydd Sadwrn am ble fyddai’r blogiau i gyd yn ymddangos, yn hytrach na phwy oedd yn nd i’w creu nhw a sut fydd ni’n gallau annog hyn. Mae’r canllawiau yn ddefnyddiol iawn. Dwi’n c ymryd bod ti wedi gweld y rhai (gan gynnwys fideos) yn adran ‘Step-by-step ar wefan Talk About Local.

  2. Rhys, ti yn llygad dy le. Creu cynnwys sy’n bwysig. Ges i sgwrs a Will Perrin dros beint ar ôl y gynhadledd ag oedd ô’n son am bwysigrwydd hyfforddiant cymunedol er mwyn galluogi pobol i greu’r cynnwys yma. Fel rhywun sy’n dipyn o “ludite” technolegol dwi’n ymwybodol o fy mhrofiad personol o fod ofn technoleg newydd, a dwi ar uffarn o “learning curve”.

    Dwi dal i gredu fod lle ar gyfer cartref canolog, nid fel uber safle on rhywle y gall dyfu’n organic wrth i ddefnyddwyr cynyddu. Man i ymgasglu yn hwylus dyla fo fod.

    Dwi yn gweld pwynt i papurau bro fod yn rhan o rhwydwaith fel oedd gan BBC lleol. Mae nifer o Gymru ddim yn ymagrtrefu yn bro eu mebyd erbyn hyn a gyda diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd ar lefel leol mewn mwy na un cymuned. Dwi’n hoffi dal fyny a newyddion Wrecsam yn y Clawdd a newyddion o Benmachno yn yr Odyn. Os basa nhw’n eistedd gyda’i gilydd mewn un lle ’sa fo’n neud bywyd yn haws!

  3. Y peth ydi dwi ddim yn meddwl bod dysgu defnydd o gyfryngau gwe yn rhywbeth sydd angen hyfforddwyr drud i ddod mewn i’w wneud. Mae’n weddol syml unwaith i rywun weithio gyda chi drwy’r camau sylfaenol a helpu i wneud rhai optimisations syml.

    Beth petai rhwydwaith o hyfforddwyr gwirfoddol yn cael ei greu allai gynnig rhoi bore o hyfforddiant i grwp sy’n gyfrifol am bapurau bro?

    Gellid defnyddio Hedyn fel canolbwynt adnoddau, gan geisio defnyddio’r un mathau o blatfformau a rhwydweithio pawb wrth iddo fynd yn ei flaen.

    Wn i ddim beth yw’r ffordd hawsaf o greu y ‘farchnad’ ar gyfer y math hyn o gyfewnid cyfalaf cymdeithasol, nac os oes angen, ond efallai byddai rhyw fath o wefan Kickstarter yn help.

  4. Y peth ydi dwi ddim yn meddwl bod dysgu defnydd o gyfryngau gwe yn rhywbeth sydd angen hyfforddwyr drud i ddod mewn i’w wneud.

    Nac oes wir, a baswn i’n hapus i fod yn rhan o rwydwaith gwirfoddol, mond ofni dw i, os oes rhywun yn mn di gael eu talu am darparu rhywbeth tebyg yn y dyfodol (‘post BBC’ ddudwn ni), dylai bod y bobl ‘iawn’ (h.y. ’dallt ei shit’) yn cael y gwaith o ddarparu’r hyfforddiant a bod hwnnw yn cael ei gynnig yn Gymraeg.

Mae'r sylwadau wedi cau.