Yn anffodus roedd rhaid i rywun dileu dau dolen ar Wikipedia i erthyglau S4C am Santes Dwynwen achos mae’r sianel wedi torri’r dolenni (Dudley a Dechrau Canu). Ydyn ni wedi colli’r erthyglau am byth?
Dydd Santes Dwynwen 404 anhapus!
Dyw e ddim yn broblem S4C, mae’n broblem i’r diwydiant darlledu yn gyffredinol. (Gweler hefyd: cofnod gan Tom Morris am Channel 4 a BBC.)
Pryd fydd darlledwyr yn gwerthfawrogi cynnwys o safon ar y we fel mwy na jyst cyhoeddusrwydd dros dro? Pryd fyddan nhw yn caru‘r we fel cyfrwng?!
Rydyn ni’n bwriadu dathlu Santes Dwynwen am byth, dylen nhw hefyd. Rydyn ni eisiau gweld twf yn y maint o gynnwys da yn Gymraeg ar y we. Ond ar hyn o bryd rydyn ni’n ail-adeiladu’r we Gymraeg bob 10 mlynedd. Mae’n wastraff o arian ac amser. Dw i’n deall tipyn o golled cynnwys ar fentrau gan wirfoddolwyr – ond cwmnïau cyfryngau proffesiynol?
Wrth gwrs mae modd ailgyfeirio cyfeiriadau i’r erthyglau os mae’r system cyfeiriadau wedi newid.
Dydd Santes Dwynwen Hapus i chi i gyd beth bynnag.
Gobiethio caiff Matthew Glyn neu pwy bynnag yn S4C gyfle i ddarllen erthylg Tom Morris, mae’n rhoi’r dadleuon drosos yn glir iawn.
Gyda phrinder o ffynonellau i’w cyfierio atynt yn Gymraeg ar gael ar y we, er mywn eu defnyddio ar Wicipedia er enghraifft, mae’n biti bod S4C yn gwendu hyn. Sgwn oes gyda nhw’n gosod oes penodedig i gynnwys ar-lein?
Mae gwefan Croeso Cymru yr un fath am ddileu, neu o leiaf symud tudalenau heb hailgyfeirio.
Diflas. Bues i’n gosod dolenni at fideos ar bandit247.com oddi ar erthygalu Wicipedia sawl band Cymraeg, iond mae’r wefan honno wedi diflanu rwan hefyd.
Newydd weld trafodaeth arall ar Wicipedia sy’n cadarnhau bod BBC Cymru/Wales wrthi’n dileu hen wefannau.
Pwynt da Carl; diolch am godi’r mater (effemeral v tragwyddol!). Mae peth trafodaeth am hyn ar Wici: http://cy.wikipedia.org/wiki/Sgwrs_Defnyddiwr:Llywelyn2000#Gwefannau_Cymraeg_y_BBC
Gyda llaw: mae’n Ddydd Santes Dwynwen pob dydd ty ni!
Mae bot wedi bod o gwmpas Wicipedia yn amlygu rhai erthyglau gyda dolenni wedi torri ynddynt. Dyma ychydig sy’n cynnwys dolenni pydredig at wefan S4C.