4 categori o wefannau a blogiau yn Gymraeg

Mae lot o bobol yn gyffrous am y real-time web ar hyn o bryd.

Digon iawn. Ond hefyd mae gyda fi diddordeb yn y we BARHAUS. Yn enwedig y we Gymraeg.

Dw i wedi bod yn darllen trwy Maes-E, Morfablog, Gwenu Dan Fysiau, Daflog ac archifau o flogiau a gwefannau clasur eraill. Gwnaf i fwrw’r gwaelod cyn bo hir.

Dw i wedi ffeindio pedwar categori o wefannau ar fy siwrnai ar y ffordd. Sgen i’m bwriad bod yn sarhaus. Eisiau trafod y we barhaus.

1. “Dyma’r Ffordd i Fyw”
Blogiau a gwefannau sydd dal yn joio cofnodion newydd a diweddariadau. Dw i’n darllen nhw mewn Google Reader neu ddilyn dolenni ar Twitter. Mae’n hawsa i ffeindio nhw na gwefannau yn y categorïau isod. Dw i’n rhedeg gwefannau yn y categori hwn (Hacio’r Iaith, Y Twll, PenTalarPedia a Hedyn). Fel teclyn mae Blogiadur dal yn eitha da am ffeindio cofnodion dw i wedi colli ar y tro cyntaf.

2. “Sdim Eisiau Esgus”
Mae hwn yn grŵp mawr iawn. Dal yn fyw ar y we ond dyn nhw ddim yn cael eu diweddaru. Blog Gareth Potter yw enghraifft. Maen nhw yn “cysgu” mewn ffordd i’w blogwyr. Ond dyn ni’n gallu anghofio’r fantais o’r gwefannau yma – maen nhw yn fyw i’r darllenwyr. Felly dyn ni ddim eisiau esgus, mae’n iawn, ond paid colli dy hen blog! Dw i’n gallu gweld cyfleoedd i greu ffilteri e.e. teclynnau chwilio sy’n gynnwys y categori hwn (Google Custom Search a mwy). Dyna pam dw i eisiau casglu nhw ar Hedyn. Beth yw’r gwersi? Ystadegau hefyd. Pa fath o dyfiant ydyn ni wedi gweld? Faint o flogwyr sy wedi gadael blogiau nhw i gysgu? Syniadau am projectau ymchwil.

3. “Byw Ar Y Briwsion”
Weithiau dyw pobol ddim yn adnewyddu eu enwau parth neu gwesteia. Felly dyn ni’n colli eu gwefannau. Pwy sy’n cofio Dim Cwsg, fforwm cymuned am godi plant? Dw i ddim angen y wybodaeth nawr – ond beth am y dyfodol? Beth ddigwyddodd gyda’r wefan Adam Price eleni? Dw i’n siomedig iawn os dw i’n ffeindio sôn am rywbeth ac wedyn dyw e ddim yn bodoli. Diolch byth am Archive.org – ond dyw e ddim yn gallu cadw popeth, jyst briwsion weithiau. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw archif eu hun yn ôl pob sôn – chwarae teg – ond ble mae e? (Mae unrhyw un yn gallu copïo fy mlog am unrhyw archif. Os oes gyda ti diddordeb, dw i wedi rhoi caniatâd i bawb dan Creative Commons.)

4. “Hwyl Fawr Heulwen”
Y categori olaf yw blogiau sy ddim ar y we, ddim ar Archif, ddim yn unlle, jyst yn dev/null. Mae ddoe yn ddoe – yn anffodus. Mae pobol yn colli eu blogiau a gwefannau weithiau am lot o resymau. Neu trwy ddamwain, diffyg gofal, dileu, colli enwau parth, colli gwesteia, gwasanaethau drwg a theclynnau drwg maen nhw yn colli eu blogiau a gwefannau. Ond nid jyst nhw, dw i’n colli nhw, ti’n colli nhw a mae pawb sy’n chwilio am bethau Cymraeg yn colli nhw. Mae pob iaith yn colli blogiau. Baswn i ddim yn colli lot o gwsg am blogiau Saesneg achos mae’r iaith yn iawn. Ond yn Gymraeg mae’r sefyllfa yn ddifrifol. Wrth gwrs mae gyda unrhyw un yr hawl i ddileu ei blog hefyd. Ond mae fe dal yn siomedig.

Yr ail degawd

Mae’r cofnod yma gan Nic Dafis, Ebrill 2001 yn gategori 2 (mae fe’n blogio ar Morfablog nawr).

Dyn ni’n symud i’r ail ddegawd o flogiau Cymraeg ac eisiau datblygu “cymunedau arlein” a thrafodaeth ar y we. Sa’ i’n eisiau ailadrodd beth sy wedi digwydd yn barod. Dw i eisiau datblygu’r drafodaeth mewn ffordd gyda’r gwersi’r degawd cyntaf.

Wrth gwrs dyn ni eisiau ailymweld sgyrsiau ac erthyglau Cymraeg am wleidyddiaeth, cerddoriaeth, hanes, diwinyddiaeth, gwyddoniaeth a phob pwnc dan yr haul.

Er enghraifft, pan oedd Nic yn blogio am Maes-E mae fe wedi rhannu gwersi gyda ni yn y dyfodol am gymunedau a sgyrsiau ar y we.

(Gyda llaw, beth ddigwyddodd gyda’r archif Maes-E? Er enghraifft, dyw’r erthygl Tips ar neud Ffansin gan Mihangel Macintosh ddim ar gael trwy’r wefan – roedd rhaid i mi fynd i archive.org.) YCHWANEGOL: Ateb yn y sylwadau isod

Wrth gwrs dyw Facebook ddim yn helpu o gwbl gyda’r broblem cynnwys sy’n agored a pharhaus. Dyma pam dw i ddim yn licio Facebook llawer yn y cyd-destun hwn. Mae’n ddefnyddiol am lot o resymau wrth gwrs ond mae’n rhy breifat a rhy anodd i chwilio am bethau. Fel arfer mae’n well i blogio ar WordPress.com a rhannu dolenni ar Facebook neu gopïo’r testun i Facebook.

Mae Facebook yn cyflymu symudiad ieithyddol hefyd. Cofnod arall.

Bygythiadau

Bygythiad yw teclynnau sy’n byrhau URLs. Dw i ddim yn hoffi nhw o gwbl achos dw i eisiau URLs sy’n gweithio am flynyddoedd. Weithiau ar Twitter rhaid i mi defnyddio rhywbeth yn anffodus felly dw i’n dewis bit.ly achos mae’n poblogaidd o leia. Safety in numbers – gobeithio.

Ond mae pob gwasanaeth am ddim yn beryglus mewn ffordd, e.e. Geocities. Bydd lot o wasanaethau am ddim yn gorffen neu yn anfon ein gwaith i gategori 4. Bydd yn ofalus gyda dy waith caled.

9 Ateb i "4 categori o wefannau a blogiau yn Gymraeg"

  1. …ond doedd y drafodaeth am sut i ffansins ddim yn un ohonyn nhw.

    Cafodd llawer o edeifion eu symud i seiadau gwahanol, newydd. Dyna beth ddigwyddodd i hwn, ond yn anffodus, cafodd e ei symud i seiat preifat “Ffansîn Ynfytyn”. Roedd hyn siwr o fod yn wneud sens ar y pryd, ond dw i’n cytuno dyw e ddim yn arbennig o dda ar ran defnyddioldeb.

    Dwyt ti ddim yn cofio sut oedd maes-e nôl yn y dydd (h.y. cyn-Facebook), siwr o fod. Roedd cannoedd o negeseuon yn cael eu postio bob dydd. Sefydlwyd llawer o seiadau preifat, yn rhannol, i arbed gwaith cymedroli – roedd adeg pan o’n i’n cael fy mygythio ag achosion enllib bron bob mis. Ddim lot o hwyl.

  2. Mae’n iawn, doedd e ddim yn amlwg. Dychmyga rhywbeth heb gynnwys parhaus, mae’n ddiddorol fel arbrawf meddwl.

    Dwyt ti ddim yn cofio sut oedd maes-e nôl yn y dydd (h.y. cyn-Facebook), siwr o fod.

    Dw i’n cofio Maes-E ond dewisais i Clique am drafodaethau cerddoriaeth. Nawr dw i’n gallu darllen Maes-E. Dechreuais i Gymraeg yn 2007. Roedd y dafodiaith yn rhy anodd ar y pryd.

    Ar hyn o bryd, dw i’n ymchwilio fforymau dienw fel 4Chan. Traethawd diddorol yma.

Mae'r sylwadau wedi cau.