3 Replies to “(Cymraeg) Tuag at fyd symudol Cymraeg – ffonau, llechennau a mwy”

  1. Hei Rich, diolch am y sylw.

    Un peth pwysig i’w ddweud: mewn rhai achosion, yn dibynnol ar ddewis unigolion, fydd ddim rhaid dibynnu’n llwyr ar fympwy Google, Apple a chorfforaethau i gael ffôn/llechen Cymraeg oherwydd yr opsiwn i ddefnyddio LineageOS a’i debyg. Dyna dw i’n gweld fel man cychwyn y daith – i wella AOSP a LineageOS Cymraeg a thynnu sylw ato fel opsiwn, a phrofi bod ffôn Cymraeg yn bosibl. Bydd yn dechrau mwy fel prototeip haciedig sy’n gwella’n raddol, a bydd hynny yn apelio at rai pobl a chyrff.

    Wrth gwrs bydd dewis Google i gefnogi a darparu lleolaeth Cymraeg yn “swyddogol” yn debygol o gael effaith fawr ar ddosbarthiad a defnydd. Y gwir yw bod y gwaith o ychwanegu lleolaeth yn eithaf hawdd i Google ac ati. Ond pan cwrddais i Google yn Llundain flynyddoedd yn ôl cyferion nhw at niferoedd cymharol isel o ddefnyddwyr/siaradwyr fel esgus i beidio cefnogi’r Gymraeg ar ryngwynebau… Ond nid yw hyn yn gyson – mae llwythi o wasanaethau Google ar gael yn Wyddeleg er enghraifft. Tybiaf fod hyn yn deillio o ddylanwad y cymuned ac mae’r ffaith bod pencadlys Google yn Nulyn siŵr o fod yn help. Noda fod pethau fel Gmail a Drive eisoes ar gael gyda rhyngwynebau Cymraeg felly teimlaf fod modd rhoi pwysau arnyn nhw.

    Mae Apple yn teimlo’n anoddach achos mae ieithoedd gyda milynau o siaradwyr (fel Catalaneg dw i’n credu) nad sy’n cael yr holl wasanaethau. Byddai angen cael clymblaid o wledydd/ieithoedd/llywodraethau i bwyso arnyn nhw. Prosiect arall fyddai hynny.

  2. Tra bod nodyn fy mod i wedi gwneud gwaith cyfieithu, dyw’r darn hwn ddim yn cydnabod y gwir ein bod ni dipyn bellach ymlaen a bod camau 1 a 2 wedi eu cwblhau bron degawd yn ôl. Fel pob ffôn gen i a fy mhlant i ers o leiaf saith neu wyth mlynedd, mae fersiynau LineageOS o Android yn gweithio’n iawn ac yn gwbl Gymraeg. Nid prototeipiau mohonynt, ond ffonau a system go iawn.

    Hyd yn oed pan dangosais y dyfeisiau a chynnig cymorth i seneddwyr a swyddogion Cymdeithas yr Iaith ac arloeswyr technoleg Cymraeg, dim ond un neu ddau oedd â digon o ddiddordeb i roi cynnig ar gael ffonau Android yn Gymraeg.

    Byddai’n wych cael cyllid, ond am fod arna’i angen uwchraddio’n fuan, dw i nôl wrthi’n gwneud y gwaith. Yn yr amser y byddai rhai’n ei dreulio’n lobïo a sicrhau cyllid, mi fydda’i wedi cwblhau’r lleoleiddio.

    Does neb gwaeth nag arweinyddiaeth ein hysgolion a’n sefydliadau cyhoeddus – yn cyfrannu miliynau i Apple a Google, ac yntau’n dweud nad oes ganddyn nhw’r adnoddau i greu a chynnal fersiynau Cymraeg. Ateb i alw y mae cwmnïau ac mae’n rhaid i’r galw dod gennym ni.

    Fel unrhyw beth arall, os na ofynnwch chi amdano, peidiwch â disgwyl ei gael.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *