14 Replies to “Denu darllenwyr i flog: arbrawf a 5 egwyddor”

  1. Diddorol. O’n i heb weld dy gofnod achos roedd y blog wedi ei restru fel ‘Blog Saesneg’ (ers tua 6 mlynedd) a dwi ddim yn darllen rheiny yn aml. Dwi wedi ychwanegu’r categori ‘Blog Cymraeg’ nawr.

    Mi fyddai’n dda gweld mwy o sylwadau gan bobl sydd ddim yr ‘usual suspects’. Ydi defnyddio pethau fel ‘Social login’ yn helpu ar WordPress?

    Dwi’n dueddol o weld popet yn fy ffrwd Twitter (ond ddim blogiau, yn amlwg), ond mae’n debygol fod pobl sy’n dilyn nifer fawr yn colli pethau. Dwi’n dueddol o anghofio hynny, ond dwi’n gweld eraill yn ail-bostio pethau. Yn bersonol dwi’n gweld hynny yn syrffedus.

  2. Rhybudd: clod i’r BBC upcoming… 😉

    Dwi’n digwydd meddwl bod y datblygiad Cymru Fyw gan y BBC yn arwyddocaol o ran gyrru traffig i ‘bethau da ar y we’. I ryw raddau, dyw cwpwl o RTs gan bobol sydd ddim efo llawer o ddilynwyr, neu sydd yn fwyaf prysur ar yr adegau anghywir (e.e. fi). Mae eisiau pobol ddylanwadol/cylchgronnau/newyddion sydd yn cyd-destunoli (check out me termz) cofnodion blog da – esbonio pam dyla pobol ddarllen rhywbeth.

    Nes i drio efo fideobobdydd, oedd yn gweithio’n dda i ddechrau, ond wrth iddo fynd yn ei flaen, ro’n i’n sylwi bod dim amser gen i i roi’r cyd-destun, i roi personoliaeth i’r wefan, ac i neud yn siwr bod mwy na’r usual suspects yn clicio drwodd drwy esbonio pam ddyla nhw, a hyrwyddo cynnwys yn well. Oherwydd amser ac adnoddau, fethish i efo hwnnw, er dwi’n meddwl gyda’r ddau beth yna gallai’r math yna o gydgasglydd weithio.

    Problem fawr o ran ecosystem sylw Gymraeg ar y we ydi does dim lot o’r sêr sylw, na ffynhonellau newyddion neu gylchgrawn gan y Gymraeg. Ma rhan fwyaf o flogiau Saesneg siwr o fod yn chygio mynd gyda grwp bychan o ddarllenwyr, tan bod nhw’n cael RT gan Stephen Fry wedyn boom. Pwy yw ein Fry ni? Fel Leia efo Obi Wan, ella dylen ni anfon droid bychan efo hologram o Carl i Huw Stephens yn gofyn am RT bob tro da ni isio cyraedd cynulleidfa ehangach…

    Felly, dwi’n croesawu unrhyw ymdrech gan wasanaeth fel y BBC i ddefnyddio peth o’u grym sylw nhw i roi sylw i beth arall sy’n mynd mlaen ar y we, chos ma na sdwff da. Sa’n wych tase Golwg yn datblygu rhywbeth tebyg, achos oedd blogiau wastad yn cael tipyn o draffig o gael dolen ar eu gwefan. Linkiwch allan a neith blogwyr linkio nol i chi – mae Twitter yn rhedeg ar narsisistiaeth felna!

    Ta waeth, mae’n bur debygol y clywch chi am ddatblygiad diddorol arall yn y maes sylw i gynnwys Cymraeg yn fuan iawn. Hwre.

  3. Dwi ddim yn gallu cofrestru ar hedyn. Roeddwn eisiau ychwanegu blog amgylchedd. Naturiaethwr.wordpress.com
    Gyda llaw, fe fydd rhai o’r erthyglau yn saesneg.

  4. OK tric yw hwn ond mae wedi gweithio imi, drwy ddenu darllenwyr sydd wedi dod yn ddilynwyr:
    defnyddia ymadroddion cyffredin, diarhebion, teitlau caneuon ayyb yn nheitlau blogbyst. Mae pobl sy’n chwilio am y peth gwreiddiol hefyd yn cael enghraifft o fy mlog i. Rwyf yn lico’r syniad o ddarganfod rhywbeth newydd wrth chwilio am rywbeth hollol wahanol.
    (o ie. menyw wyf i)

  5. Small Fry. Feri, feri, feri small Fry.

    Dwi’n anghytuno am sylwadau ar flogiau ddo. Dwi’m yn gweld pam dylai pobol adael sylw pan ma systemau sylwadau blogio yn gyffredinol mor ddifrifol o wael.

    Er mwyn cael sylwadau i dyfu rhaid i ti gael cymuned o bobol yn rhoi sylwadau dro ar ôl tro. Anodd i un blog ar ben ei hun ddatblygu cymuned fel na. Beth am greu system Disqus ar gyfer cynnwys Cymraeg? Neu rywle canolog lle mae sylwadau i gyd yn cael eu cronni? Wn im.

    Dwi’m yn meddwl bod modd cael y rhan fwyaf o bobol i danysgrifio drwy RSS chwaith. Twitter a FB ydi RSS rhan fwya o bobol.

  6. @cathi rwyt ti wedi ffeindio niche mewn SEO Cymraeg sydd yn ddiddorol.

    @Rhodri
    Byddai modd addasu Blogiadur i gynnwys sylwadau, naill ai ar dab gwahanol neu ar bwys y blogiau. Dw i’n cymryd bod e’n eithaf hawdd i gael nifer o sylwadau fesul cofnod ar y lleiaf. Mae posibiliadau…

    Dw i’n cymryd dy bwyntiau ond mae amrywiaeth o ffyrdd i rannu stwff ac mae eisiau ‘ecosystem’ amryw (sori am y term). Codi ymwybyddiaeth o RSS a’r cyfle i adael sylwadau oeddwn i. Mae’n swnio’n pitw ond mae un tanysgrifiwr brwd neu un sylw neis yn gallu gwneud gwahaniaeth i ymdrech wirfoddol. Yn sicr, does dim ‘rhaid’ uchod. Ta waeth, diolch o galon am dy sylw! (!)

  7. Fy mai i oedd camlabelu dy flog Carl! Ers marwolaeth Google Reader, dwi wedi trio gymaint o wahanol atebion fel fod popeth ar chwal.

    Dwi ddim yn cytuno gyda’r ddamcaniaeth ’ma fod “sylwadau wedi torri”. Mae pobl wedi llwyddo i ddefnyddio pob math o systemau fforwm/sylwadau ofnadwy o anghyfeillgar yn y gorffennol, pan oedd llawer llai o bobl ar y we (a nid jyst gîcs oedd yn defnyddio nhw chwaith).

    Y gwahaniaeth mawr yw fod rhai ecosystemay mawr wedi llyncu sylw pawb (Twitbook). Dwi ddim yn defnyddio Facebook ond dwi’n deall fod pob math o drafodaethau (gwamal) yn digwydd yno. Mae Twitter run fath, gyda cyfyngiadau.

    Hefyd mae gan bobl llai o amser i ymateb, a mae gwahanol nodweddion wedi gwneud pobl yn ddiog. Mae’n haws clicio botymau RT/ffefryn/ail-flogio na gwneud unrhyw gyfraniad gwreiddiol.

    Ymhob iaith erbyn hyn mae’n haws cael ymateb i gynnwys sy’n cymryd cwpl o funudau i’w ddarllen ac yn hawdd i’w dreulio (ddim angen llawer o ddeallusrwydd).

    Gyda ffurfiau hirach fel blog ysgrifennedig, mae’n anos i ddenu sylw yn y lle cynta. Ond yn ail, mae’n anos cael ymateb – heblaw fod rhywun yn troi at y tacteg tabloid o ddweud rhywbeth dadleuol. O ran blogiau, dwi’n siwr fod yna welliannau ‘botymog’ i helpu’r gwaith o gael adborth. e.g. botwm hoffi, botwm rhannu ar twitter/facebook.

    Yn amlwg mae’n haws gwneud hyn ar un gwefan ganolog aml-gyfrannog, ond yn bersonol dwi’n hoffi fod gan pawb flogiau personol gyda hunaniaeth a rheolaeth ar wahan. Y tric yw cyfuno’r ddau?

  8. Tra’n sicr mai RSS yw’r ffordd orau o ddilyn a darllen pethau newydd ar-lein, aeth fy rhestr i mor fawr fel na doedd pwynt iddo bellach, apahn aeth Bloglines ar chwal, es i didm i chwilio a wasaneth darllen RSS newydd. Fel sydd weid ei grybwyll, mae Twitter wedi dod yn rhyw fath o ddarllenydd RSS i mi a dw i wedi mynd yn ôl at y Blogiadur.

    Dwi ‘n meddwl bod gwerth ail-sianelu egni at addasu a hyrwyddo Blogiadur, neu wasanaeth tebyg. Ar un adeg roedd Aled Bartholomew (sll?) wedi mynd reit pell wrth ailwampio Blogiadur i rhyw fath o dashboard Netvibes-aidd. Oes pwynt atgyfodi rhywbeth fel hyn, gan hyrwyddo cofnodion blogiau, fideos, caneuon Soundcloud ayyb?

    Carl: Byddai modd addasu Blogiadur i gynnwys sylwadau, naill ai ar dab gwahanol neu ar bwys y blogiau. Dw i’n cymryd bod e’n eithaf hawdd i gael nifer o sylwadau fesul cofnod ar y lleiaf. Mae posibiliadau…

    Beth wyt ti’n gynnig, rhywbeth fel blog Golwg360 ble mae sylwadau diweddaraf pob cofnod yn ymddangos ar y chwith? Dan ni wedi bod yn cynhaefu RSS sylwadau ar Hedyn yn ogystal â RSS cofnodion fel y gwyddost.

    Beth am gynnal sesiwn yn Hacio’r Iaith 2014 ‘Hacio’r Blogiadur’.

  9. I raddau helaeth dwi’n dibynnu ar Blogiadur a llond dwrn o danysgrifwyr i yrru fy mwydro allan i’r byd. Does gen’ i ddim ‘mynadd o gwbl efo Trydar, ond dwi yn ddefnyddiwr achlysurol o facebook. Wedi dweud hynny, ond dwi heb fynd ati i hela ‘ffrindiau’ na derbyn ceisiadau gan ddarpar ‘ffrindiau’ oni bai eu bod yn ffrindiau neu gydnabod go iawn, felly cynulleidfa fach sydd gan fy nghyfri facebook. Mae hynny’n un rheswm pam dwi ddim yn hyrwyddo’r blog bob tro ar ffesbwc. Rheswm arall, na fedra’i egluro na chyfiawnhau yn iawn ydi rhyw swildod rhyfedd sy’n golygu fod gen’ i ofn i bobl feddwl fy mod yn canu fy nghlodydd fy hun! Pam dwi’n trafferthu i flogio ta? Cwestiwn da iawn! Wrth bwyso a mesur ar ol blwyddyn o blogio nol ym mis Ebrill, daeth gwerth derbyn sylwadau yn amlwg i mi. Y cyfnodau pan dwi’n meddwl fy mod yn siarad efo fi fy hun ydi’r cyfnodau dwi’n ystyried i be ddiawl dwi’n cyboli?!
    Dwi’n gadael sylwadau gweddol reolaidd ar nifer o flogiau am fy mod eisiau dangos gwerthfawrogiad o’r ymdrech wirfoddol i greu ysgrifau yn Gymraeg am bynciau amrywiol.
    Mae Blogiadur yn werthfawr i mi fel ffordd o ddilyn nifer o blogs. Dwi hefyd yn tanysgrifio i rai trwy RSS ar igHome, ond hefyd yn dilyn nifer trwy’r dolenni ar fy rhestr ffefrynnau i.
    Dal ati; dalia i gredu.

Comments are closed.