6 Replies to “Llyfr Martin Luther King a’r dull di-drais o brotestio”

  1. Diolch am rannu – wyddwn i ddim am fodolaeth y llyfr. Ac eithrio llyfrau ffeithiol trymion am rhyw feirdd am tua £50 gan Wasg Prifysgol Cymru, does yna ddim lot o sgwennu meddylgar Cymraeg i’w weld yn cael ei gyhoeddi y dyddiau hyn.

    Mae’n debyg ei fod dal mewn print, ond sylwais ddoe bod llyfr Cymraeg wedi ei gyhoeddi o waith Leopold Kohr yn 1980 gan y Lolfa.

  2. Mae llyfrau allan o brint wedi bod yn broblem ers o leiaf 50au’r ganrif ddiwethaf.
    Mae’n siwr fod hawlfraint yn un rheswm ond byddwn yn gobeithio y byddai yn haws y dyddiau hyn gyda dulliau electronig ond y gwir yw mae’r gweisg yn cael grantiau i gyhoeddi llyfrau newydd – ddim mor hawdd i gael grant i ad-argraffiad

    Gyda gwerthiant ansicr mae’n amheus a oes elw i’w wneud wrth ad-argraffu. Dyma rhywbeth y dylai y Cyngor Llyfrau ymwneud ag ef o ddifri.

    “Hoffwn i weld ehangiad yn y math o bynciau sy’n cael triniaeth yn Gymraeg ym mhob cyfrwng o lyfrau i’r we i deledu, ydw i’n cynrychioli y rhan fwyaf o bobl? Mae nifer o lyfrau sydd yn eithriadol ond dw i ddim mor siwr os fyddai’r Cyngor Llyfrau, ‘diwydiant’ llyfrau Cymraeg – a darllenwyr eraill – yn fodlon derbyn pethau o’i fath yn anffodus. Beth mae pobl yn meddwl?”

    Mae toreth o lyfrau ar gael -yr anhawster yw taw llyfrau diweddar gan mwyaf sydd yn cael cyhoeddusrwyth. Chwiliwch gatalog y Cyngor llyfrau ar wefan Gwales

Comments are closed.