2 Replies to “BBC Newyddion: amser cyhoeddi fel problem ’dan y cownter’”

  1. Ar ôl dangos ystadegau gwael o ddefnydd y gwefan Cymraeg, un o’r prif bwyntiau gwnaeth Rhodri Talfan Davies yn y ’Steddfod oedd bod y gorfforaeth am gynyddu’r ffigyrau yn sylweddol.

    Prinder gohebyddion Cymraeg eu hiaith yn y gorfforaeth yw’r broblem efallai. Cael newyddiadurwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg yw’r unig ffordd i sicrhau fod straeon ar gael yn y Gymraeg o flaen y Saesneg. Mae’n amlwg bod rhai storïau yn cael eu cyfieithu o’r Saesneg a, chwarae teg, mae’n ymddangos eu bod yn gwneud hyn ar frys achos mae ’na wallau weithiau, gan gynnwys gadael gair Saesneg yn y stori.

    Diddorol yw’r syniad fod y Gymraeg ’dan y cownter’ yn y gwefan Saesneg a bod rhaid i bobl wybod ble i edrych. Os yw pobl am gael eu newyddion yn Gymraeg, oni ddylent fod yn mynd yn uniongyrchol i’r gwefan Gymraeg (bbc.co.uk/newyddion) yn hytrach na disgwyl ei gael ‘dros y cownter’ yn y ‘siop’ Saesneg (bbc.co.uk/news)?

    Mae’n drist braidd bod rhaid i gyrff a chwmnïau hysbysebu eu gwasanaethau Cymraeg er mwyn cael pobl i’w defnyddio. Ond yn dristach fyth yw hyd yn oed pan maen nhw’n ymwybodol o’r gwasanaeth, mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn parhau i ddefnyddio’r iaith Saesneg.

    Mae’n amlwg i mi bod llawer o siaradwyr Cymraeg mewn amgylchedd uniaith Saesneg pan mae nhw ar eu cyfrifiaduron ac mae hyn yn siwr o effeithio’r ffordd mae nhw’n defnyddio’r technoleg. Dylai annog a helpu bobl i osod a defnyddio system a meddalwedd yn Gymraeg. Os ydy rhywun yn cychwyn Windows, er enghraifft, yn Gymraeg, yn agor Firefox, er enghraifft, yn Gymraeg ac yn defnyddio Google, er enghraifft, yn Gymraeg, mae’n debyg bydd yr amgylchedd hollol Gymraeg yma yn eu gwneud yn fwy tebygol i ddefnyddio’r Gymraeg wrth chwilio am wybodaeth ac i edrych ar wefannau yn Gymraeg. A dyma sydd angen – i bobl defnyddio’r iaith o’r dechrau na bod rhaid eu hysbysebu a’u harwain o’r tudalennau Saesneg i’r rhai Cymraeg.

    Ond yn ôl i brif bwynt Carl, synnwyr cyffredin yw bod rhaid cyhoeddi newyddion tra mae’n dal yn newydd os am ddenu a chadw darllenwyr. Gan fod hyn mor amlwg ac wrth gofio neges Rhodri Talfan Davies ym mis Awst, siomedig yw bod y sefyllfa fel y mae, ond dwi’n obeithiol y bydd yn gwella.

    (Angen i mi gael blog fy hun, efallai.)

  2. Mae peiriant y BBC yn gweithio mewn ffordd gwahanol i wefannau newyddion eraill.

    Be sy gen ti yw tua 200 o newyddiadurwyr (yn BBC Cymru) sy’n gweithio er mwyn hel straeon. Mae’r rheini wedyn yn ymddangos ar ryw fath o ‘news feed’ mewnol, Saesneg, sy’n cael ei fwydo i’r tim teledu, radio ac ar-lein.

    Y rheswm y mae’r straeon Cymraeg ar ei hol hi i’r rhai Saesneg o be ydw i’n ei ddeall ydi eu bod nhw’n gyfieithiadau yn seiliedig ar yr ochr Seasneg, a’u bod nhw’n eu gyrru nhw at arbenigwr ieithyddol allanol cyn eu cyhoeddi. Mae hynny’n beth da o ran safon yr iaith ond yn beth drwg o ran cyhoeddi’r straeon yn fuan.

Comments are closed.