4 Replies to “Ffenestr rhaglenni ar BBC iPlayer”

  1. A peth arall.. erbyn hyn mae rhaglen Newyddion ar yr iPlayer (a ddim RealPlayer neu WindowsMedia). Dadl arall yw’r defnydd o Flash.

    Ta beth.. dim ond rhaglen ‘ddoe’ sydd yno. Pam ddim yr wythnos ddiwethaf o leia? Dyw e ddim fel petai newyddion yn llawn deunydd hawlfraint lle fyddai angen taliadau ychwanegol.

    Dwi’n gwybod fod llawer o storiau unigol ar gael mewn ffurf fideo (sydd yna am byth?) ond does dim ffordd hawdd o weld rhestr o rheiny.

    Un o fy hen mhrosiectau oedd creu mynegai i storiau newyddion BBC Cymru. Mae gen i fynegai chwiliadwy o bob erthygl rhwng 2000 a 2007 (a mae’r dolenni dal i weithio!). Yn anffodus wnes i roi’r gorau iddi pan wnaethon nhw ail-gynllunio’r tudalennau (o’n i’n arfer crafu’r tudalennau i gael gwybodaeth meta). Falle ddylen i ail-ddechrau’r peth.

  2. Gyda llaw mae croeso i ti ddefnyddio ybydysawd.com, efallai dylen ni ei ail-lansio gyda ffocws gwahanol ar drafod newyddion. Efallai ‘adrannau’ gwahanol? Wrth gwrs mae’r enw yn trio profocio pobol i feddwl am newyddion a sgyrsiau amgen/uchelgeisiol.

  3. Mae’n ymddangos bod ein hagwedd ni (neu o leiaf y darparwyr,y BBC ac S4C yr un fath) tuag at gynnwys Cymraeg yn debyg iawn i agweddau diweddar cymdeithas tuag at adnoddau’r blaned. Defnyddio pethau unwaith ail daflu i ffwrdd. Yn y ddwy achos, mae’n wastraff llwyr o adnoddau prin (boed yn adnoddau naturiol, arian, talent, gwybodaeth) ac mae’n ymylu ar fod yn anfoesol bron, yn bibynnu ar eich safbwyntiau personol wrth gwrs.

    Diolch byth, mae agweddau at gamddefnydd o adnoddau’r ddaear yn newid (er yn araf), ac mae’r ‘tri R’ – Reduce, Reuse, Recycle – yn ymadrodd cyffredin.

    Falle dylem greu rhywbeth tebyfg ar gyfer cynnwys Cymraeg arlein, y ‘tri A’ – Arddangos, Ailddangos, Ailgymysgu?

    …neu rhywbeth fel’na.

Comments are closed.