2 Replies to “E-lyfrau 2011, recordiadau 2004”

  1. Un peth ti’n gadael allan ydi costau hyrwyddo unrhyw blatfform newydd. Hwn sy’n cael ei adael allan o lawer o drafodaethau am gyhoeddi sy’n mynd tu hwnt i brif ddarparwyr.

    Yn yr un ffordd ag mae gan Hollywood afael ar y farchnad ffilm oherwydd ei rym marchnata, mae Amazon yn datblygu gafael ar y farchnad e-lyfrau oherwydd ei rym marchnata. A beth yw marchnata yn y bôn ond sylw. Yn yr economi sylw, mae unrhyw brosiect Cymraeg sydd yn dechrau defnyddio platfform ei hun dan anfantais sylweddol o’r cychwyn cyntaf, hyd yn oed os yw’n cael mewn yn gynnar. Er ei fod yn fach roedd gan Warp fantais sylw. Oes gan gyhoeddwyr Cymraeg neu Gwales fantais sylw dros Amazon? Gallet ti ddwued nad oes.

    Mewn rhai ffyrdd dydi sylw ar gyfer y farchnad Gymraeg ddim yn splitio cystal ag y mae o argyfer marchnadoedd mwy chwaith, sydd yn gwneud y broblem yn waeth. Mae mwy o dueddiad i’r farchnad ddilyn un ffordd o wneud pethau gan geisio cronni’r holl sylw mewn nifer bach o lefydd.

    Dwi’n meddwl bo ti hefyd yn gor-amcan faint mor ddiog ydi pobol pan mae’n dod at gael mynediad at gynnwys. Os mae Amazon yn gwneud trosglwyddo llyfr o’r gweinydd i’r ddyfais yn haws na phlatfform sydd yn cyhoeddi ar ffurf EPub, yna mae’n bur debyg y bydd nifer fawr o bobol yn defnyddio Amazon. Er cymaint wyt ti’n meddwl bod Amazon yn gwneud pethau ofnadwy, *mae* pobol yn trystio Amazon. A fyddai pobol yn trystio Amazon yn fwy na Gwales?

Comments are closed.