E-lyfrau 2011, recordiadau 2004

Fel ateb i’r cofnod diwethaf mae Ifan wedi cyhoeddi cofnod ac yn dweud:

[…] Yn ddelfrydol, wrth gwrs, fe fyddai pawb yn defnyddio cynnyrch open source, ond fel y mae pethau mae’r rhan fwyaf o bobol yn defnyddio systemau’r cwmnïau mawr, gan gynnwys Kindle ac iTunes. Er mwyaf sicrhau bod cynnyrch Cymraeg yn cyrraedd ei gynulleidfa, onid yw’n gwneud synnwyr cyhoeddi drwy’r cyfrwng sy’n debygol o gyrraedd y mwyafrif? [..] (pwyslais fi)

Wel, na. Ble mae’r data? Does dim data gyda fi chwaith ond dw i’n anghytuno. Dw i’n teimlo fod perchnogaeth Kindle yn isel iawn ymhlith darllenwyr Cymraeg. Efallai mae’n rhy isel i atynnu Amazon i’r farchnad Cymraeg ar hyn o bryd.

Mae cyfle bob hyn a hyn i fanteisio ar y gwagle ac i ffeindio rhywbeth sy’n dda i’n cwmniau ‘cynnwys’ (cyhoeddwyr tro yma). Mae cyfle i dyfu busnes tu allan i’r dosbarthwr/storfa mwyaf yn ieithoedd/llefydd eraill. Oherwydd mae’r marchnad e-lyfrau Cymraeg yn agored iawn ym mis Tachwedd 2011.

Roedd cyfle debyg 7 neu 8 flynedd yn ôl yn y marchnad recordiadau. Dw i’n cofio achos o’n i’n rheoli cwmni recordiadau ar y pryd. Ar y pryd Bleep.com oedd y lle i brynu electronica, nid iTunes Store. Roedd electronica yn sin ar wahan i roc braidd gyda’i gigs, cyfryngau ei hun ayyb.

Roedd Bleep.com yn rhan o Warp Records ac roedden nhw yn werthu i ffans yn uniongyrchol – o gatalog nhw yn unig ar y dechrau. Roedd disgrifiadau yn manwl ac roedd y profiad yn dda ac roedd y ffeiliau yn MP3 (cyfleus), sydd ddim yn fformat hollol ‘agored’ yn union ond doedd na ddim DRM. Bleep oedd yr unig opsiwn i brynu rhai o’r artistiaid ar y dechrau. Hwyrach wnaethon nhw cadw’r cwsmeriaid dw i’n siwr. Ar y pryd roedd y catalog iTunes Store gyda chatalog anghyflawn, mewn AAC caeëdig yn hytrach na MP3 (rhydd, ish).

Hwyrach roedd stwff Warp ar iTunes hefyd wrth gwrs wrth gwrs wrth gwrs. Ac ar eMusic, Rhapsody, 7Digital, We7, Spotify a phob gwasanaeth arall yn y pen draw. Ond cafodd Bleep.com ‘first mover advantage’ yn y marchnad electronica.

Beth dw i’n trio dweud yw, y Gymraeg ydy’r electronica o lyfrau mewn ffordd. (Ifan Morgan Jones yw Autechre, Ned Thomas yw’r Aphex Twin.) Mae angen ‘Bleep.com o lyfrau Cymraeg’. Mae gyda ni ffans penodol, ‘sianeli’ ein hun sydd yn fodlon cefnogi’r opsiwn lleol. Does dim rheswm nawr pam mae rhaid i ni ystyried Amazon fel the only game in town. Mae opsiynau eraill NAWR. Ond bydd siop Cymreig yn neis iawn i bawb.

Roedd defnydd Apple o 100% DRM i adeiladu monopoli/ecosystem yn sinigaidd iawn. Y neges i’r labeli oedd scaremongering am gopïo ayyb. Roedd Apple yn sinigaidd ond o leaif roedd yr iPod yn cefnogi MP3 o’r dechrau! Mae Amazon wedi bod yn ddrwg iawn gyda Kindle sydd ddim yn derbyn ePub o gwbl ar hyn o bryd. Mwy na cheeky. Mae busnesau yn wahanol – prif busnes Apple yw’r dyfeisiau, prif busnes Amazon yw’r cynnwys. Fel y dwedais mae Amazon yn colli arian ar bob Kindle Fire. Maen nhw eisiau rheoli’r farchnad llyfrau BYD-EANG!

O ran siop annibynnol mae’r issues hawliau yn haws gyda llyfrau. Ac mae’r maint yn llai na MP3s felly mae’r costau yn llai.

Efallai bydd 3 mis neu 6 mis, efallai 12 mis o gyfle i ddechrau rhywbeth a gwerthu llyfrau yn uniongyrchol a chadw mwy o’r arian yng Nghymru.

2 Ateb i “E-lyfrau 2011, recordiadau 2004”

  1. Un peth ti’n gadael allan ydi costau hyrwyddo unrhyw blatfform newydd. Hwn sy’n cael ei adael allan o lawer o drafodaethau am gyhoeddi sy’n mynd tu hwnt i brif ddarparwyr.

    Yn yr un ffordd ag mae gan Hollywood afael ar y farchnad ffilm oherwydd ei rym marchnata, mae Amazon yn datblygu gafael ar y farchnad e-lyfrau oherwydd ei rym marchnata. A beth yw marchnata yn y bôn ond sylw. Yn yr economi sylw, mae unrhyw brosiect Cymraeg sydd yn dechrau defnyddio platfform ei hun dan anfantais sylweddol o’r cychwyn cyntaf, hyd yn oed os yw’n cael mewn yn gynnar. Er ei fod yn fach roedd gan Warp fantais sylw. Oes gan gyhoeddwyr Cymraeg neu Gwales fantais sylw dros Amazon? Gallet ti ddwued nad oes.

    Mewn rhai ffyrdd dydi sylw ar gyfer y farchnad Gymraeg ddim yn splitio cystal ag y mae o argyfer marchnadoedd mwy chwaith, sydd yn gwneud y broblem yn waeth. Mae mwy o dueddiad i’r farchnad ddilyn un ffordd o wneud pethau gan geisio cronni’r holl sylw mewn nifer bach o lefydd.

    Dwi’n meddwl bo ti hefyd yn gor-amcan faint mor ddiog ydi pobol pan mae’n dod at gael mynediad at gynnwys. Os mae Amazon yn gwneud trosglwyddo llyfr o’r gweinydd i’r ddyfais yn haws na phlatfform sydd yn cyhoeddi ar ffurf EPub, yna mae’n bur debyg y bydd nifer fawr o bobol yn defnyddio Amazon. Er cymaint wyt ti’n meddwl bod Amazon yn gwneud pethau ofnadwy, *mae* pobol yn trystio Amazon. A fyddai pobol yn trystio Amazon yn fwy na Gwales?

Mae'r sylwadau wedi cau.