6 Replies to “Blogio fel prosiect vs. Taflu dy waith mewn twll Google+”

  1. Eiliaf. Dyna pam dw i wedi penderfynnu dod yn ôl at flogio ar fy mlog fy hun (a thithau Cael yn ddylanwad ar y penderfyniad yna) a darllen mwy o flogiau bobl eraill, yn lle treulio cymaint o amser ar Facebook ac ati.

    A dw i wir ddim yn gweld pwynt Google+ o gwbl, hyd yn hyn. “It’s like Facebook, except none of your family, and only your “online friends” are on it,” ddim yn gwerthu’r peth i fi.

  2. Mae Maes-e yn well na Facebook&Google+ o ran creu ‘work’ yn Gymraeg – o leaif dw i’n gallu googlo yn 2011 ac yn gallu ffeindio gynnwys o 2007 neu pryd bynnag. Da iawn i ti am ei chreu.

    Beth yw ‘work’ yn Gymraeg gyda llaw, sef yr enw fel y mae Dash yn ei defnyddio?

  3. Roedd maes-e dim ond mater o fod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Doedd dim cystadleuaeth (yn y Gymraeg) o gwbl, felly oedd hi’n ddigon hawdd i adeiladu momentwm yn y ddwy flynedd gyntaf.

    Wnes i sawl camgymeriad yn y dyddiau cynnar, pethau sy’n wneud i fi wingo wrth feddwl yn ôl: gosod “auto-prune” ar archifau sawl fforwm, er enghraifft; collwyd cannoedd o negeseuon am byth. Doedd sefydlu adrannau preifat ddim yn syniad arbennig o dda, chwaith. Ond ar y cyfan, dw i’n falch iawn o beth wnaethon ni ar y maes, a dw i’ gweld eisiau cael rhywle canolog, hollol Gymraeg ei naws, fel ’na erbyn hyn.

Comments are closed.