Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r parth cyhoeddus

Glyn Moody:

In other words, far from helping to make knowledge freely accessible to all and sundry, the British Library is actually enclosing the knowledge commons that rightfully belongs to humankind as a whole, by claiming a new copyright term for the digitised versions.

Mae’r stori yma yn fy atgoffa o bolisi digido Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

(Oeddet ti’n gwybod bod y delweddau o lawysgrif cyfraith Hywel Dda dan eu hawlfraint nhw? Doedd dim cysyniad o gyfraith hawlfraint yn ei gyfraith e…)

Dyma gyfle i fod yn arloesol – a gwell na’r Llyfrgell Brydeinig – rhyddha ein llyfrau yn ôl i’r parth cyhoeddus nawr gan gynnwys defnydd masnachol.

Ein Caerdydd a blogiau lleol newydd ledled Cymru

Braf iawn i weld Ein Caerdydd gan Rhys Wynne (ac efallai cyfranwyr eraill?).

Trelluest, hwre!

Wrth gwrs mae lot o flogiau o Gaerdydd wedi bodoli am flynyddoedd (rhai ohonyn nhw ar Y Rhestr). Ond mae gwahaniaeth rhwng blog o Gaerdydd a blog lleol gyda ffocws ar Gaerdydd, yr ardal benodol, i bobol leol.

Mae pob blog yn dod o rywle. Ond gyda’r rhai sy’n delio gyda’r lleoliad fel y pwnc, ydyn ni’n gweld twf yn blogiau lleol o ardaloedd gwahanol o Gymru?

Mae Blog Dolgellau a BaeColwyn.com wedi bod yn tyfu yn ddiweddar hefyd.

Methu ffeindio blog lleol yn dy ardal o Gymru? Neu eisiau rhoi ffocws ar ardal penodol – dy bentref, dy maestref, dy stryd, dy ysgol. Does dim angen aros am gefnogaeth o unrhyw sefydliadau. Ti’n gallu dechrau heno. Darllena’r canllaw yma: sut i ddechrau blog lleol.

Gobeithio bydd pobol yn cyd-drefnu pethau gyda’r papurau bro hefyd.

Cymreictod – yn ôl llyfrau

Newydd gorffen hwn (o’r diwedd). O Lloyd George ymlaen roedd e’n darllenadwy iawn. Nes i joio’r peth cyfan ond bach yn “dwys” am sesiynau darllen hir iawn.

John Davies

Yn union fel cael y wlad i gyd yn dy ddwylo.

Mae fe’n wneud rhyw fath o sioe yn ystod Eisteddfod Treganna. Sy’n wych.

Rhywbryd hoffwn i ail-ddarllen yn yr iaith wreiddiol.

John Davies

Ond mae’r iaith ’chydig rhy gymhleth ar hyn o bryd. Dw i’n gallu siarad am gyfryngau digidol ond dim llawer o hanes manwl iawn – eto!

Yn y cyfamser dw i’n darllen Gwyn Alf.

“Bill Hicks hanes Cymru” yn ôl sylwebydd epilgar fan hyn.

Gwyn Alf Williams

Nes i joio’r dychan Jan Morris mas draw llynedd. Er bod gyda fe’r clawr mwyaf crap erioed.

Jan Morris

Mae’n beniog iawn iawn. Efallai dylai rhywun ei haddasu ar gyfer teledu. Efallai?

Mae fersiwn arall yn yr iaith dew, cyfieithiad gan Twm Morys. Clawr gwell hefyd ond bydd yn ofalus gyda’r swasticas ar drafnidiaeth gyhoeddus ayyb.

Twm Morys a Jan Morris

Darllenais i’r casgliad newydd o erthyglau Siôn T. Jobbins am Gymreictod wythnos yma. Cythruddol gyda barnau cryf. Hoff penodau: Radio Ceiliog (radio morladron o… Waelod y Garth), papurau bro, Abertawe… bron popeth. Mae rhai ar ei wefan (ond mae’r system darllen yn reit weird).

Siôn T. Jobbins

Cafodd yr awdur ei fagu yng Nghaerdydd, roedd y sampl isod am Gymreictod yn y ddinas, o 2005, yn enwedig yn llawn mewnwelediadau profoclyd sy’n berthnasol i fy mhrofiad:

Caerdydd looms large in Welsh-language pop, and cyfryngis… are regularly lampooned in Welsh songs. Welsh-speakers from Cardiff are still treated with suspicion by many fellow-siaradwyr… They seem too happy and content – still a suspicious habit for a language unsure of its future in a culture nursing a Methodist hangover. The community is caricatured for its perceived lack of commitment to the ‘cause’ and for making good money on the back of Wales. To go to Cardiff, our capital city, in to ‘sell-out’, a funny state of affairs, and possibly unique. This perception is not helped by the unwillingness of so many of Cardiff’s Welsh speakers themselves to take sides or create a culture independent of their wages.

Oof!

Dw i’n cynnig y gweddill heb sylw.

Cardiff Welsh-language culture is at its most exciting and challenging in the hands of people who’ve learnt the language in adult life – and without them Welsh in the capital would wither on the vine.

BONWS: Ned Thomas a Siôn T. Jobbins gyda’u gilydd o’r diwedd – ar YouTube.

BONWS 2: The Welsh Extremist gan Ned Thomas – llyfr digidol am ddim.

Pa fath o ddigwyddiad fydd Eisteddfod Treganna?

Eisteddfod TregannaRydyn ni’n cynllunio Eisteddfod yng Nghaerdydd, yn Nhreganna, gyda lot o bobol eraill, benywod a dynion. Croeso i ti gymryd rhan. Ond pa fath o ddigwyddiad fydd Eisteddfod Treganna? Sut ydyn ni gallu cydbwyso gydag elfennau traddodiadol a phethau cyfoes? Rydyn ni eisiau “cynrychioli’r gymuned” felly beth ddylen ni wneud?

Dyma rhai o’r meddyliau gan Colin a fi (darlledwyd yn wreiddiol ar Shwmae mis diwethaf).

Os oes gyda ti diddordeb, cer i’r wefan treganna.org, hoffi’r tudalen Facebook, neu dilyna’r cyfrif Twitter.

logo gan Huw Aaron

Gwefannau lleol, blodau yn tyfu ym mhob man

Tri dolen heddiw am wefannau lleol (dim trefn penodol):

1. Nodiadau gan Gareth Morlais o’r digwyddiad Talk About Local yng Nghaerdydd ar y blog Hacio’r Iaith – a thrafodaeth gan eraill. (Mae Gareth yn sgwennu BaeColwyn.com sef blog lleol ardderchog.)

Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd o fethu. Y gorau gellid ei wneud ydi trio cael rhywun i guradu aggregator o’r straeon gorau sydd yn y rhwydwaith (pe sefydlid rhwydwaith o gwbl).

2. Roedd y sylw uchod gan Rhodri ap Dyfrig. Mae fe’n adrodd meddyliau ar ôl Cymanfa Ddychmygu S4C Newydd.

Sut i ddechrau blog lleol

3. Fy nghyfraniad i’r sgwrs am lleol yng Nghymru: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr, tudalen newydd ar Hedyn

Dyw e ddim yn gyflawn eto ond os ti’n gofyn “Blogiau bach lleol di-ri? Neu uber-safle monolithig?”, dylai fy marn i fod yn glir.

Dyma pam gwnes i ddefnyddio’r enw Hedyn am y wefan wici pan gwnes i gofrestru’r enw dwy flynedd yn ôl. Nid achos o’n i’n meddwl am newyddion lleol yn enwedig ond o’n i’n meddwl: beth fydd llwyddiant ar y we Gymraeg yn gyffredinnol? Sydd yn gynnwys newyddion lleol.

Cliw arall: yr enw Pethau Bychain tu ôl ein digwyddiad llwyddiannus yn 2010. Rydyn ni’n gallu mwynhau o leiaf rhai o’r credit am yr enw. 🙂

Dyw sefydliadau Cymreig ddim yn hoffi’r athroniaeth o bethau bychain yma achos maen nhw yn licio platfformau MAWR, NEWYDD ac eisiau ordero canapés am y lansiad a bwydo’r buddsoddwyr, gwleidyddion a’r Western Mail.

Ond weithiau rydyn ni jyst angen y pethau BYCHAIN ar blatfformau sy’n bodoli EISOES – ond wrth gwrs gyda defnydd arloesol a chreadigol.

Ti’n gallu gweld y gwahaniaeth. Y “lansiad” fydd rhwydwaith cryf o bobol ar wahan – sy’n defnyddio’r we yn yr iaith Gymraeg am amcanion gwahanol nhw.

(Er enghraifft, dychmyga Casgliad y Werin heb y platfform. Efallai rhywbeth fel cyfres o weithdai Flickr a YouTube o gwmpas Cymru yn hytrach. Dyw e ddim yn swnio’n ddrwg o gwbl. Fyddan ni wedi arbed miloedd o bunnau o’r cyllideb meddalwedd (perchnogol) sy’n ailadrodd Flickr a YouTube. Rhy hwyr dw i’n gwybod. Cywira fi os fi’n rong.)

I fod yn onest dw i’n trio meddwl am rôl unrhyw uber-safle. Aggregator, mae rhai yn ddweud. Wel, pa fath? Mae Google Blog Search yn bodoli yn barod. Rhywbeth sy’n casglu’r straeon fel Umap am flogiau lleol – gyda map o Gymru falle? Wel, wyt ti rili eisiau mynd trwy newyddion lleol o ardaloedd gwahanol? Yr un cwestiwn yn geiriau gwahanol: pryd oedd y tro diwethaf wnest ti ddarllen papur bro o ardal gwahanol i fwydo diddordeb personol? Diffiniad newyddion lleol yw diddordeb lleol. Mae’n symud i newyddion genedlaethol os mae’n perthyn i bobol tu allan.

Dw i’n edmygu Glo Mân (papur bro ardal Dyffryn Aman) ond mae’r rhan fwyaf yn amherthnasol i fi yn Grangetown. Efallai yr unig aggregator posib fydd blog gan person o’r goreuon a doniol o gwmpas Cymru.

Mae Dave Winer, tad blogio ac RSS, yn cytuno:

Lately it’s dawning on people that the mass aggregators of local information aren’t achieving critical mass among the locals. Outside.in, a site that never made much sense to me, sold to AOL for $10 million. A lot less money than the VCs had invested in it.

Fy syniad gorau am yr uber-safle fydd copi o WordPress am newyddion lleol. Lawrlwytha’r cod a chynnig y peth fel darpariaeth i flogwyr lleol, e.e. ubersafle.com/llanrug ac ubersafle.com/eglwyswrw gyda blogiau ar wahan ar yr un enw parth Mae’n hollol iawn dan GPL. Ond PAM? Y peth pwysicaf fydd y hyfforddi a gweithdai – dal.

Mae gyda ni’r syniad o uber-safle trwm ac yn chwilio am reswm.

Dw i’n gallu meddwl am rôl enfawr o ran sefydliadau Cymraeg yma – yn gynnwys S4C. Sef: gweithdai, mynediad i offer, adnoddau fel lluniau a fideo (enghraifft: Eisteddfod Bae Colwyn 1947), adnoddau eraill, hyfforddi (sut i ddadfwndeli dy newyddion fel cofnodion a pheidio dibynnu ar ffeiliau PDF am bopeth!), grwpiau Flickr, blogiau bychain (fel Pethe), digwyddiadau agored fel Talk About Local a Hacio’r Iaith, tudalennau ar y we fel Sut i ddechrau blog lleol. Her yw, bydd pob un yn achosi llwyddiannau bach. Dim canapés!

Gyda llaw croeso i ti cyfrannu: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr

Rhannu lluniau Amgueddfa Cymru o Flickr

Actinia mesembryanthum

Newyddion gwych. Mae’r Amgueddfa Cymru yn aelod o’r clwb rhannu nawr gyda’u lluniau ar Flickr dan Creative Commons.

Nawr mae’r Cynulliad a’r Amgueddfa yn rhannu eu lluniau. Unrhyw sefydliadau eraill? Ychwanega dolen i’r tudalen yma ar Hedyn os ti’n gwybod.

Gyda llaw dw i ddim yn deall y statws gyda delweddau/sganiau newydd o hen luniau (enghraifft). Bydd parth cyhoeddus yn well am ailddefnydd heb newidiadau dw i’n meddwl? Hefyd efallai dylen nhw ail-feddwl y polisi am luniau gan ymwelwyr a’u rhannu. Ond mae’r drwydded yn gam pwysig.

llun Actinia mesembryanthum gan Amgueddfa Cymru

40,000 llun yn yr archif Llyfrgell Genedlaethol

“Mae’n dal i sioc i sawl un, ond mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i 40,000 o luniau” meddai cofnod newydd ar blog Llyfrgell Genedlaethol.

Dw i’n meddwl am y diffyg cynnwys ar y we Gymraeg/Cymru bob dydd felly gallwn i awgrymu dwy strategaeth efallai. Achos ddylai hwn ddim bod yn sioc.

Defnyddia TinEye, chwilio gweledol, i asesu poblogrwydd lluniau. 0 canlyniad hyd yn hyn. Dylai hwn bod yn sioc. Cf. American Gothic ar TinEye: 1235 canlyniad.

1a. Diffyg rhannu lluniau a diffyg anogaeth amlwg

Diolch i’r Llyfrgell am rhannu’r llun Harbwr Aberystwyth o 1792 isod.

Diolch hefyd iddyn nhw am rhannu’r llun yma o’r Harbwr rhwng 1880 a 1899.

Mae Siôn yn dweud

Mae’r Llyfrgell yn edrych ar drwyddedu agored ar hyn o bryd.

Rydym am gasglu rhagor o dystiolaeth ynghylch opsiynau trwyddedu cyn gwneud penderfyniad ar ba ddeunydd i’w drwyddedu a’r math o drwydded agored i’w defnyddio.

Un munud…

Blwyddyn 1792? Blwyddyn 1899? Rydyn ni’n siarad am lluniau sy’n mwy na 100 mlynedd oed. Does dim enw arlunydd i gael am y ddau lun yma. Ond mae’n debyg bod nhw yn y parth cyhoeddus. Fu farw’r arlunydd cyn 1af mis Ionawr 1941? Parth cyhoeddus.

Felly pam ydyn ni’n siarad am drwyddedau agored o gwbl yn y cyd-destun yma?

Paid camddeall – dw i’n ffan mawr o drwyddedau agored, Creative Commons yn enwedig. Dw i wedi blogio amdanyn nhw sawl gwaith. Mae unrhyw trwydded am gynnwys – o “cedwir pob hawl” i Creative Commons yn dibynnu – ar hawlfraint. Wrth gwrs mae’r Llyfrgell yn berchen ar luniau mwy newydd felly bydd trwydded agored yn wych yna.

Ond beth sy’n digwydd yma? Wel mae’n edrych fel mae’r Llyfrgell yn tynnu lluniau o’r delweddau ac yn trio perchen ar y delweddau. Dw i ddim yn siwr gyda lluniau ond maen nhw yn wneud rhywbeth debyg gyda llyfrau, dw i wedi cael sgwrs ar y flog yma gyda nhw. (Crynodeb: os ti eisiau postio lluniau o’r llyfr printiedig cyntaf yn Gymraeg, sef Yn y Lhyvyr Hwnn o 1546, maen nhw yn gofyn am £6. Anhygoel!)

Ydw i’n torri’r rheolau gan bostio’r lluniau uchod?

Pam ydw i mor obsesed gyda hawlfraint ar hyn o bryd? Achos dw i’n hoffi lluniau fel yr enghreifftiau uchod a dw i’n caru Cymru, yr iaith Gymraeg ac ein hetifeddiaeth.

Dw i’n ddiolchgar iawn am waith y Llyfrgell Genedlaethol yma ond dylen nhw rannu/dosbarthu ac annog rhannu heb gyfyngiad am lluniau yn y parth cyhoeddus. Byddan nhw yn werthu mwy o brintiau yn bendant.

rhannwch-pliz?!!

1b. Diffyg ffrydiau

Un ffordd pwerus iawn i godi defnydd ac ymwybyddiaeth yw ffrydiau o luniau. Mae archif o 40,000 yn wych mewn theori. Ond gawn ni weld un – dim ond un – llun sy’n berthnasol heddiw? Sut ydw i’n gallu bod yn ffan o luniau Cymru, Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol? Sut ydw i’n gallu dilyn?

Dw i newydd dechrau blog arall am lluniau Cymru:

http://einlluniau.tumblr.com

Wrth gwrs mae hwn yn gyflym, prawf o’r cysyniad.

Gweler hefyd: lluniau MAWR ar The Big Picture ac In Focus. Neu dilyna @big_picture a @in_focus.

Cer i chwilio am mwy o’r archif lluniau. Bydd yn ofalus gyda hawlfraint – ond os maen nhw yn fas o hawlfraint, defnyddia nhw. Cofia: newid / addasu. Dydy’r Llyfrgell Genedlaethol ddim yn gallu siwio pawb. Mewn gwirionedd, dw i’n meddwl bydd pawb, yn gynnwys Cymru a’r Llyfrgell, yn ennill trwy fwy o ddefnydd.

Cymru vs Efrog Newydd. Amgueddfeydd a ffotograffiaeth ar y we

Es i i’r Amgueddfa Genedlaethol Cymru, un o fy hoff lefydd yng Nghaerdydd, i weld arddangosfa newydd (o hen hen gelf).

O’n i eisiau dangos lluniau yma.

Ond yn anffodus dylwn i ddilyn eu polisi nhw.

Polisi Ffotograffiaeth

Plîs darllena’r termau ac amodau, yn enwedig: “…na chaniatáu iddi gael ei chyflwyno ar unrhyw wefan”.

Sori, dim llun o hen gelf Tsieniaidd heddiw (gan fy hynafiaid, uh huh). Maen nhw ar fy disc caled. Efallai gallet ti ddod rownd i’w weld.

Felly yn lle, dyma llun o tipi o’r Brooklyn Museum yn Efrog Newydd.

Tipi

Lluniau gan Brooklyn Museum dan drwydded Creative Commons.

Dilyna’r blog Tumblr. OK, maen nhw yn rhyddhau EU lluniau NHW ar Flickr, ar Tumblr, o gwmpas y we dan Creative Commons.

Beth am ymwelwyr? Ydyn nhw yn gallu “cyflwyno ar unrhyw wefan”?

Cer i’r oriel ar-lein Brooklyn Museum am lluniau gan ymwelwyr.

Mae rhai o’r ymwelwyr wedi dewis trwydded Creative Commons – fel y llun yma o Amenhotep o’r Aifft gan wallyg.

Amenhotep

Paid â gofyn lle ffeindiodd y Brooklyn Museum y cerflun. Pwnc arall!

Yn hytrach na’r wefan Brooklyn Museum yn enwedig hoffwn i roi ffocws ar y grŵp Flickr achos mae’n rhad iawn. Mae sefydliadau yng Nghymru yn meddwl bod ar-lein yn golygu platfform arbennig newydd am £20,000, £100,000 neu mwy, dyw e ddim yn wir! Dw i ddim yn siarad am blatfformau rili heddiw, dw i’n siarad am bolisi. Mae lot o bobol eisiau fy ngofyn am dechnoleg weithiau, dw i’n tuedda tuag at ofyn am bolisi cyntaf.

Termau o Flickr:

If you agree to these rules, you can join the group

Post your photos of the Brooklyn Museum, Steinberg Family Sculpture Garden, Target First Saturday events and, of course, the Museum’s fountain. Photos of friends and family visiting the museum are welcome too!

If you tag with wwwbrooklynmuseumorg we’d love to highlight your images on these page(s) of our website, with complete Flickr credit and a link back to the original photo, per the Flickr Terms of Service:

www.brooklynmuseum.org/community/photos/

brooklynmuseum.tumblr.com

Photography is allowed in the Museum so long as the images are taken using existing light only (no flash) and are for personal, non-commercial use. Photography is often restricted in special exhibition galleries; please consult with the Visitor Center upon arrival.

Thanks for shooting. We look forward to seeing your images!

Dim sôn am beidio rhannu ar y we. Mewn gwirionedd maen nhw yn ANNOG defnydd o’r grŵp a rhannu.

Nôl i’r lluniau gan Brooklyn Museum. Dwedodd Huffington Post:

Likewise, despite the common (though questionable) view that it’s more lucrative for museums to assert as much control over their “intellectual property” as copyright law allows, the Brooklyn Museum apparently understands that its mission is more effectively fulfilled, and the public better served, when the museum allows its collection to be reproduced, remixed and disseminated in as many (non-commercial) ways as possible.

Hoffi’r cyfweliad da yma gyda Brooklyn Museum am eu waith gyda thechnoleg, cynnwys a Creative Commons.

We actually just launched a big project to better identify the rights status of objects in our online collection, so now each object on the Museum’s collections pages has information on its rights status, including those that are understood to be under no known copyright. At the same time, we’ve taken another step in the ongoing direction of opening up more content and with images and text that we own the copyright to, we changed our default Creative Commons license on the site from a CC BY-NC-ND to a CC BY-NC, to allow for greater re-use of materials.

Rhannu a hyrwyddo trwy CC ers 2004…

The great thing about CC is its modular structure. We had started with that CC-BY-NC-ND back in 2004 and having had a good experience, wanted to open it up a bit more. CC allows us to change as we grow and that’s very valuable – it means we can take small steps toward larger goals and do so as the institution feels comfortable.

Rhyw ddydd efallai byddan nhw yn cael gwared o’r NC (nid-masnachol). Efallai mae rhywun eisiau gwerthu crys-t o rywbeth neu blogio gyda thipyn o hysbysebion, beth yw’r broblem? Dylai amgueddfeydd dosbarthu mwy.

Mae’r Brooklyn Museum yn dda ond dw i’n byw yng Nghymru. Dyma’r polisi’r Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Saesneg, yr unig lun arall dw i’n gallu rhannu o fy ymweliad.

Photography Policy

Gweler hefyd: polisiau llun NASA (gwych), Cynulliad Cymru (da) ac ABC Awstralia (da), Llyfrgell Genedlaethol (hmm)

DIWEDDARIAD 14/03/2011: Mae’r Amgueddfa yn rhyddhau lluniau dan Creative Commons. (Diolch Rhys am y sylw.)