Clic Off – bot Twitter i rannu sioeau S4C Clic sydd ar fin diflannu

Dyma Clic Off, cyfrif bot Twitter newydd sbon, sy’n trydar y sioeau S4C sydd ar fin diflannu oddi ar Clic.

Dyma enghraifft o drydariad awtomatig heddiw.

Os ydych chi fel fi yn hoffi noson gynnes o deledu ond ddim yn hoff o fethu rhaglen Gymraeg dilynwch.

Ffan S4C ydw i ond mae’r bot yn gwbl answyddogol. Mae pob dolen a rannwyd yn mynd i’r sioe berthnasol ar wefan S4C Clic. Ar hyd o bryd maen nhw yn dweud ‘Dod i ben mewn 1 diwrnod’ neu hyd yn oed ‘Dod i ben mewn 0 diwrnod’… Yn wir dyma’ch cyfle olaf.

Rhai ystyriaethau, a’r algorithm

Ni fydd pob rhaglen yn cael ei rannu yna, dim ond pigion er mwyn cael nifer da o drydariadau sydd yn teimlo fel jyst digon.

Mae algorithm sy’n dewis rhaglen ar hap o’r rhai sydd ar fin dod i ben, ac yn ceisio cael rhyw fath o gydbwysedd. Er enghraifft mae llawer iawn o raglenni Cyw/plant ar gael ac mae llawer oddeutu 5 munud, tua 10 munud o hyd. Er fy mod i’n hoff o lawer ohonyn nhw mae angen newid y canrannau yn erbyn categorïau eraill. Fel arall bydd y cyfrif yn edrych yn od.

Dw i hefyd yn ystyried lleihau ar y rhaglenni mwyaf ‘amlwg’ ac enwog achos mae’n teimlo’n rhesymol i gymryd bod pobl yn gwybod amdanyn nhw yn barod. Mae’n teimlo’n fwy gwerthfawr i rannu rhaglen ddogfen na phennod o opera sebon adnabyddus, beth ydych chi’n meddwl?

Gweithio ar algorithm dewis a dethol cynnwys Cymraeg ar gyfer ffrwd yw’r elfen mwyaf ddiddorol a chreadigol/golygyddol. Mae cyfrif UnigrywUnigryw yn enghraifft tebyg (er bod y ddau yn ffrwd o fewn ffrwd) Tybed faint o enghreifftiau eraill o algorithm dethol cynnwys Cymraeg sydd?

Datblygiadau’r dyfodol

Tybed os fydd angen cyfrif ar wahan ar gyfer chwaraeon a/neu ffeithiau a chelfyddydau? Gawn ni weld.

Ar hyn o bryd mae’r bot yn atodi delwedd y rhaglen i’r trydariad bob tro (dydy’r cardiau Twitter sy’n cael eu darparu gan y wefan ddim wastad yn gweithio). Byddai modd creu GIF o’r rhaglen yn awtomatig efallai.

Un syniad arall yw i gynnwys symbolau/emojis i nodi os oes is-deitlau, iaith arwyddion, ayyb.

Darn bach o hanes

Nid dyma’r cyfrif bot cyntaf sy’n rhannu dolenni S4C Clic. Fel mae’n digwydd cyfrif Twitter o’r enw S4CClic oedd fy mot cyntaf erioed yn ôl ym mis Tachwedd 2010.

Oedd y cyfrif yn ffrwd pur o’r holl raglenni. Bach yn ormod a dweud y gwir. O’n i wedi cysylltu’r ffrwd RSS trwy wasanaeth Twitterfeed ar y pryd i’r cyfrif Twitter heb angen gwneud unrhyw godio.

Gofynnodd rywun o’r cwmni am berchnogaeth o’r cyfrif. Gwych o’n i’n meddwl, maen nhw yn gallu rhedeg e. O’n i’n hapus i basio fe â’i ychydig cannoedd o ddilwyr ymlaen atyn nhw, wedyn caewyd y cyfrif i lawr am ryw reswm!

Y system a’r API

Mae’r bot wedi’i ysgrifennu mewn PHP ac yn rhedeg ar weinydd gwe.

Oedd rhaid i mi greu bot pan darganfyddais bod API weddol gudd sy’n rymuso gwefan S4C Clic. Mae’r API yn darparu’r holl fetadata am raglenni i’r porwr.

Dyma rai manylion am API S4C Clic os ydych chi awydd profi neu greu rhywbeth. Mae llwythi o syniadau posibl, tu hwnt i fotiau. Er enghraifft beth am dderbyn e-bost/neges/ping bob tro mae’ch hoff fand/awdur/pentref yn cael ei [ch|g]rybwyll mewn disgrifiad rhaglen. Neu wneud rhywbeth gydag is-deitlau?

Awydd cael bot/awtomeiddio?

Ydych chi eisiau trafod cael bot i’ch prosiect neu ddefnydd o ddata, cod, ac awtomeiddio fel hyn i ddatrys problemau a chymryd cyfleoedd? Cysylltwch.

4 Ateb i “Clic Off – bot Twitter i rannu sioeau S4C Clic sydd ar fin diflannu”

  1. O’n i’n hapus i basio fe â’i ychydig cannoedd o ddilwyr ymlaen atyn nhw, wedyn caewyd y cyfrif i lawr am ryw reswm!

    Classic!

    Er enghraifft beth am dderbyn e-bost/neges/ping bob tro mae’ch hoff fand/awdur/pentref yn cael ei [ch|g]rybwyll mewn disgrifiad rhaglen.

    Baswn i’n gwerthfawrogi rhywbeth o’r fath – liciwn i wybod pan bydd cyfres o Cyw Hyw yn cael ei dangos eto.

    O ran cyfrifon ar wahan ar gyfer gwahanol fathau o raglenni, mond rhai mathau o raglenni sydd gyda fi ddiddordeb ynddynt, ond petai lle, os modd dechrau pob trydariad gyda’r categori perthnasol: “Ffeithiol a’r Celfyddydau | Eryri: Pobol y Parc — Cyfres i ddathlu …” ?

  2. Diolch am adael sylw Rhys.

    Mae’r peth tracio band/awdur/geiriau ayyb yn fwy o brosiect.

    Mae’n rhywbeth sydd angen bodoli dw i’n teimlo. Dw i’n methu llawer sydd o ddiddordeb i mi. O safbwynt y sianel a chynhyrchwyr mae’n ffordd dda o gynyddu oriau gwylio, ymhlith ffyddloniaid yn enwedig.

    Dw i’n derbyn cylchlythyr e-bost S4C. Ar hyn o bryd mae’n edrych fel bod pawb yn derbyn yr un neges, does dim teilwra hyd y gwn i.

    Erbyn hyn mae llawer iawn o blatfformau o Netflix i YouTube yn deilwra wrth gwrs, ac maen nhw yn cystadlu yn erbyn S4C am sylw.

    O ran categorïau mae hyn yn syniad addawol. Mae’n bosibl ond mae enw categori llawn yn cymryd llawer o nodau yn y trydariad. O’n i’n ystyried emojis i gyfleu categori. Mae hefyd y gallu i olygu’n llun yn awtomatig, e.e. rhoi testun arno fe. Mae llawer o opsiynau.

Mae'r sylwadau wedi cau.