Trafod technoleg? Methiant cyfryngau prif-ffrwd

Dyma eitem newyddion teledu S4C, gan BBC, gyda sylw gennyf fi:

“A fydd yr e-lyfr yn achosi tranc y llyfr papur ac inc?”

Gwnaethon nhw defnyddio cyfanswm o 15 eiliad o’r fideo gyda fi. Wrth gwrs dwedais i lot mwy ond dw i’n deall sut mae teledu yn gweithio ac o’n i’n gwybod pwyslais yr eitem o flaen llaw. Dw i’n chwarae’r rôl syml, hyrwyddwr technoleg mewn drama BBC.

Mae’r rhai o bethau isod yn amlwg, nawr dw i’n gallu eu cwestiynu achos ces i gyfle i weld y peth o safbwynt arall a chyfrannu i eitem.

Yn aml iawn mae cyfryngau prif-ffrwd Saesneg gallu bod yn euog o drafodaeth arwynebol a Ludaidd am dechnoleg. Ond dw i’n meddwl efallai bod e’n waeth yn Gymraeg.

Un problem, mae gyda ni llai o ffynonellau newyddion a barn yn y cyfryngau prif-ffrwd. Dyma pam dw i eisiau darllen barnau o safbwyntiau gwahanol, e.e. yr erthygl Angharad Mair am Twitter. (Meddyliau am yr arbrawf.) Dw i ddim yn sicr os mae “prif-ffrwd” yn addas chwaith achos maen nhw mor fach.

Mwy na hynny, mae naratif parhaus o bygythiad technoleg yn y cyfryngau, dw i’n meddwl, yn enwedig technoleg yn erbyn ein traddodiadau ac hefyd, yn aml, yn erbyn yr iaith Gymraeg. Mae unrhyw syniad am stori yn dod trwy’r un lens. Y teimlad mwyaf priodol i unrhyw dechnoleg yw ofn. Ydy e’n rhan o’n hunaniaeth?

Yn y stori am e-lyfrau, mae’r siop yn cynrychioli’r traddodiad. Ond unrhyw siop llyfrau yw cwmni technoleg i ryw raddau – llyfrau yw technoleg gwybodaeth. Hefyd mae siopau fel unrhyw busnes yn gallu newid i gymryd mantais o gyfleoedd o bob math.

Dydyn ni ddim wedi archwilio lot o gwestiynau yma. Beth yw’r perthynas rhwng e-lyfrau a llyfrau papur? Mae’r elwa o’r dau yn mynd i’r cwmnïau cyhoeddi, ddylai fe golygu unrhyw “tranc” o gwbl? Wrth gwrs mae’r cymhareb 115:100 gan un cwmni yn eitha amherthnasol i unrhyw “tranc” neu twf yn llyfrau bapur o ran ystadegau. Mae’r ffigur Amazon yn cynrychioli’r UDA, pa mor wahanol yw Cymru neu’r DU ar hyn o bryd? Faint o bobol sy’n prynu e-lyfrau yn brynu llyfrau papur hefyd (lot dw i’n dyfalu)? Beth am fathau gwahanol o lyfrau, e.e. comics? Beth am Afal Drwg Adda a llyfrau eraill sy’n anodd neu amhosib i’w ffeindio? Sut ydyn ni’n gallu tyfu’r farchnad llyfrau, beth bynnag ydy’r fformatau? Beth yw’r problemau gydag Amazon a Kindle ayyb (mae problemau) – a’r gwahaniaeth rhwng y cysyniad a’r realiti, DRM a rheolaeth gan cwmni mawr ayyb? Beth yw’r rôl siopau? Ac ati.

Roedd y sgwrs yn Bedwen Lyfrau yn bositif iawn mewn gwirionedd. O leiaf cawson ni hanner awr i drafod y peth. (Gyda llaw, dyma syniad i BBC: beth am rhannu mwy o’r cyfweliadau ar-lein yn hytrach na gwastraffu’r fideo? O’n i eisiau clywed mwy o safbwynt Siop y Felin a Siôn T. Jobbins, er enghraifft. Dw i’n deall os oes gyda chi dwy funud yn unig ar y teledu ond does dim terfyn ar-lein. Beth am lanlwytho’r stwff i YouTube heb unrhyw golygu taclus? O ddifri.)

Y prif problem yw’r agwedd cyfryngau yn Gymraeg i dechnoleg. Nes i weld yr un peth llynedd gyda BBC Radio Cymru a’r dadl am ddefnydd yr iaith gan y plebs.

Mae’r agwedd yn atal ymdrechion i brofi a datblygu defnydd da o dechnoleg. Rydyn ni’n angen gweld y cyfleoedd gyda’r bygythiadau. Mae dealltwriaeth o dechnoleg yn bwysig pan mae gwleidyddion yn trio gwerthu syniadau i ni fel hud amlblatfform a’r Cofnod gwan.

Weithiau dw i’n teimlo bod ni’n gwastraffu un o’n hadnoddau gwerthfawr – y cyfryngau prif-ffrwd – dosbarthu ofn yn hytrach na dealltwriaeth dda.

DIWEDDARIAD 25/05/2011: siomedig gyda thoriadau enfawr yn BBC Cymru.

Gwefannau lleol, blodau yn tyfu ym mhob man

Tri dolen heddiw am wefannau lleol (dim trefn penodol):

1. Nodiadau gan Gareth Morlais o’r digwyddiad Talk About Local yng Nghaerdydd ar y blog Hacio’r Iaith – a thrafodaeth gan eraill. (Mae Gareth yn sgwennu BaeColwyn.com sef blog lleol ardderchog.)

Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd o fethu. Y gorau gellid ei wneud ydi trio cael rhywun i guradu aggregator o’r straeon gorau sydd yn y rhwydwaith (pe sefydlid rhwydwaith o gwbl).

2. Roedd y sylw uchod gan Rhodri ap Dyfrig. Mae fe’n adrodd meddyliau ar ôl Cymanfa Ddychmygu S4C Newydd.

Sut i ddechrau blog lleol

3. Fy nghyfraniad i’r sgwrs am lleol yng Nghymru: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr, tudalen newydd ar Hedyn

Dyw e ddim yn gyflawn eto ond os ti’n gofyn “Blogiau bach lleol di-ri? Neu uber-safle monolithig?”, dylai fy marn i fod yn glir.

Dyma pam gwnes i ddefnyddio’r enw Hedyn am y wefan wici pan gwnes i gofrestru’r enw dwy flynedd yn ôl. Nid achos o’n i’n meddwl am newyddion lleol yn enwedig ond o’n i’n meddwl: beth fydd llwyddiant ar y we Gymraeg yn gyffredinnol? Sydd yn gynnwys newyddion lleol.

Cliw arall: yr enw Pethau Bychain tu ôl ein digwyddiad llwyddiannus yn 2010. Rydyn ni’n gallu mwynhau o leiaf rhai o’r credit am yr enw. 🙂

Dyw sefydliadau Cymreig ddim yn hoffi’r athroniaeth o bethau bychain yma achos maen nhw yn licio platfformau MAWR, NEWYDD ac eisiau ordero canapés am y lansiad a bwydo’r buddsoddwyr, gwleidyddion a’r Western Mail.

Ond weithiau rydyn ni jyst angen y pethau BYCHAIN ar blatfformau sy’n bodoli EISOES – ond wrth gwrs gyda defnydd arloesol a chreadigol.

Ti’n gallu gweld y gwahaniaeth. Y “lansiad” fydd rhwydwaith cryf o bobol ar wahan – sy’n defnyddio’r we yn yr iaith Gymraeg am amcanion gwahanol nhw.

(Er enghraifft, dychmyga Casgliad y Werin heb y platfform. Efallai rhywbeth fel cyfres o weithdai Flickr a YouTube o gwmpas Cymru yn hytrach. Dyw e ddim yn swnio’n ddrwg o gwbl. Fyddan ni wedi arbed miloedd o bunnau o’r cyllideb meddalwedd (perchnogol) sy’n ailadrodd Flickr a YouTube. Rhy hwyr dw i’n gwybod. Cywira fi os fi’n rong.)

I fod yn onest dw i’n trio meddwl am rôl unrhyw uber-safle. Aggregator, mae rhai yn ddweud. Wel, pa fath? Mae Google Blog Search yn bodoli yn barod. Rhywbeth sy’n casglu’r straeon fel Umap am flogiau lleol – gyda map o Gymru falle? Wel, wyt ti rili eisiau mynd trwy newyddion lleol o ardaloedd gwahanol? Yr un cwestiwn yn geiriau gwahanol: pryd oedd y tro diwethaf wnest ti ddarllen papur bro o ardal gwahanol i fwydo diddordeb personol? Diffiniad newyddion lleol yw diddordeb lleol. Mae’n symud i newyddion genedlaethol os mae’n perthyn i bobol tu allan.

Dw i’n edmygu Glo Mân (papur bro ardal Dyffryn Aman) ond mae’r rhan fwyaf yn amherthnasol i fi yn Grangetown. Efallai yr unig aggregator posib fydd blog gan person o’r goreuon a doniol o gwmpas Cymru.

Mae Dave Winer, tad blogio ac RSS, yn cytuno:

Lately it’s dawning on people that the mass aggregators of local information aren’t achieving critical mass among the locals. Outside.in, a site that never made much sense to me, sold to AOL for $10 million. A lot less money than the VCs had invested in it.

Fy syniad gorau am yr uber-safle fydd copi o WordPress am newyddion lleol. Lawrlwytha’r cod a chynnig y peth fel darpariaeth i flogwyr lleol, e.e. ubersafle.com/llanrug ac ubersafle.com/eglwyswrw gyda blogiau ar wahan ar yr un enw parth Mae’n hollol iawn dan GPL. Ond PAM? Y peth pwysicaf fydd y hyfforddi a gweithdai – dal.

Mae gyda ni’r syniad o uber-safle trwm ac yn chwilio am reswm.

Dw i’n gallu meddwl am rôl enfawr o ran sefydliadau Cymraeg yma – yn gynnwys S4C. Sef: gweithdai, mynediad i offer, adnoddau fel lluniau a fideo (enghraifft: Eisteddfod Bae Colwyn 1947), adnoddau eraill, hyfforddi (sut i ddadfwndeli dy newyddion fel cofnodion a pheidio dibynnu ar ffeiliau PDF am bopeth!), grwpiau Flickr, blogiau bychain (fel Pethe), digwyddiadau agored fel Talk About Local a Hacio’r Iaith, tudalennau ar y we fel Sut i ddechrau blog lleol. Her yw, bydd pob un yn achosi llwyddiannau bach. Dim canapés!

Gyda llaw croeso i ti cyfrannu: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr

Rhannu yw’r recordio newydd.

Dim ond meddyliau heddiw.

Mae’r rhan fwyaf o bethau yn Gymraeg yn anweledig. Maen nhw yn cysgu mewn archifau.

Trafodwch.

  • BBC
  • Recordiau Sain
  • Bando
  • Sidan
  • S4C
  • Fideos o Eisteddfodau
  • Llyfrau
  • Y Gasgen
  • Pethau o’r 1990au a 2000au
  • Ernest (DIWEDDARIAD 26/03/2011)

Dylen ni rhyddhau a rhannu nawr. Mae’r arian yn gallu dod hwyrach.

1960au.

Arwr yr archif: Bernie Andrews

After these sessions, instead of lodging the master tapes in the BBC library, Andrews invariably — and crucially — took them home. This was in breach of the rules, but it meant that much precious material escaped the BBC’s infamous policy of “wiping” tapes to save money.

2011.

Arwr yr archif: un person sy’n rhyddhau, rhannu ac annog rhannu gyda chaniatâd. Neu heb ganiatâd swyddogol. Maen nhw yn wneud y mwyafswm gyda thechnoleg sydd ar gael.

Rhannu yw’r recordio newydd.

Teledu + Twitter + Digwyddiad

Geiriau poblogaidd o’r dydd diwethaf o Umap Cymraeg:

Cân i Gymru ar Umap Cymraeg

Mae rhyw fath o gysylltiad i Cân i Gymru yn 8 o 10 “gair” yma.

Dw i’n meddwl bod tri ohonyn nhw yn tagiau: #cig11, #cig2011 a #cig.

Bydd un tag cryf iawn yn well na tri tag gwahanol. Dylai sianeli dangos tag “swyddogol” ar y sgrin am ddigwyddiadau. Neu ar y cyfrif Twitter am y sianel o leaif.

Pam? Mae’r sgwrs yn dameidiog, dim digon o gydsymud. Hwn yw’r rheswm pwysicaf – annog a bwydo sgwrs da ar-lein. Cyfryngau cymdeithasol pleb. Mae hwn yn tyfu’r rhwydwaith am bob math o bethau da yn y dyfodol. Ffeindiais i mwy o bobol newydd ar Twitter. Mae pobol yn dilyn pobol diddorol yn ystod pethau fel Cân i Gymru. Bydd pethau da yn bosib gyda rhwydwaith cryf. Dw i’n siarad am yr iaith wrth gwrs hefyd.

Dw i ddim yn obsessed gyda chreu trends, yn enwedig trends yn y DU neu “byd-eang” (UDA fel arfer). Ie, maen nhw yn dangos ar y gwefan Twitter ond…? Mae’r Llywodraeth Cymru yn trio nawr. OK, gwych, llwyddodd “Dydd Gŵyl Dewi Sant” wythnos diwethaf yn y DU yn y pen draw (yn hytrach na’r tagiau swyddogol dw i’n meddwl). Ond beth nawr?

Rheswm arall. Na, dw i ddim yn obsessed gyda trends ond dw i’n deall y pwysigrwydd o ratings. Mae’ch rhaglen yn cystadlu gyda rhaglennu eraill a phynciau eraill. Hefyd mae nifer o wylwyr ar teledu go iawn yn “well” na wylwyr ar-lein yn y ratings. Pfft, dw i ddim yn cytuno ond does dim ots. Yn 2011 o leiaf mae’n wir yn dudalennau y Western Mail ayyb.

Arsylliad. Mae Twitter yn newyddion da i ddarlledwyr sy’n licio’r amserlen. Anghofia’r crystal ball (Martin), dyma beth mae pobol yn wneud yn awr. Mae Twitter yn gweithio yn erbyn y shifft amserol. Rydyn ni’n mwynhau digwyddiadau ar y teledu eto gyda’n gilydd ar yr un pryd. Wrth gwrs tynnodd e rhai o gwylwyr newydd i’r rhaglen. Mae darlledwyr yn ddeall hwn am rhaglennu “dweud eich dweud” fel Question Time, Noson Gwylwyr. Dw i ddim yn siwr iawn os mae pob sianel yn ddeall am rhaglennu eraill, digwyddiadau yn enwedig.

Neithiwr yn y stafell fyw cawson ni un sgrin gyda’r rhaglen ac un sgrin gyda Twitterfall – am ymchwil ac hwyl. Mae hwn yn normal.

Dw i wedi wneud rhywbeth debyg o’r blaen gyda Rhodri yn ystod Question Time gydag ychydig o help gan Piratepad am nodiadau. Ymchwil diddorol.

Dweud eich dweud! Jolch. Gyda llaw rydyn ni eisiau siarad am eich rhaglen. Dydyn ni ddim eisiau siarad gyda chi bob tro, sianeli, ond byddan ni’n diolchgar am blatfform neu tag cyffredin.

Croeso i’r byd cyfryngau ôl-Twitter. Mae pobol yn hoffi bod yn rhwydwaith. Yn fy marn i, bydd rhai o’r egwyddorion yma yn ddefnyddiol tu allan o Twitter neu ar ôl Twitter ar y system nesaf. Rydyn ni’n siarad am gyfryngau pleb amser real.

Byw Yn Y Byd ar-lein

Braf i weld y flog newydd Byw Yn Y Byd ar gyfer y rhaglen S4C. Mae’n defnydd da o WordPress.com. Creuodd rhywun y flog yn 2 munud, am ddim. Gwych. Dw i’n meddwl bod Russell Jones, y cyflwynydd, yn flogio ei hun. Gobeithio.

Mae unrhyw un yn gallu creu blog ar WordPress.com am ddim.

Byw Yn Y Byd yw dyddiadur ond does dim rhaid i flog bod yn dyddiadur.

Strategaeth ar-lein dibynadwy: ar y cychwyn gydag unrhyw project dw i’n gofyn “ble fyddan ni blogio?”. Rydyn ni angen rheswm arbennig i beidio blogio. Dweda’r gair cyhoeddi os ti ddim yn licio’r gair blogio. Blogio yw’r ffordd gyflymaf i ychwanegu tudalen i’r we. Mae blog yn dod â newyddion am dy broject, system rheoli CYFLYM, dolenni dwfn a pharhaol – hawdd i’r rhannu ar Facebook/Twitter, ffrwd RSS a sylwadau. (Neu gofynna cwmni lan y stryd am brochure monolithig, efallai yn Flash, heb unrhyw system ar gyfer diweddaru – dy benderfyniad!)

Dyw blogiau ddim mor trendi â rhywbeth fel… apps symudol dyddiau ’ma. Sori ond dw i’n poeni am ddefnydd. Plis cer i flogio am tri neu chwech mis o leiaf, datblygu dy brofiad, cyn i ti sôn am rhyddhau app.

Darllena’r sylwadau ar y flog Pethe o fis Medi 2010. Fydd sgwrs am bethau diddorol a pherthnasol byth yn mynd mas o ffasiwn!

Mae’r cod Pethe o WordPress.org yn hytrach na .com gyda thema arbennig.

Rydyn ni’n casglu cyfeirlyfr o flogiau ar Hedyn. Dyma’r blogiau sy’n gysylltiedig â S4C hyn yn hyn. Cofia Yahoo yn y 90au? Dyddiau gynnar o’r we Saesneg. Gwersi am Gymraeg heddiw yn fy marn i. Gwnaf i archwilio cyn hir. Plis ychwanega mwy os ti’n gallu.

Dadfwndelu a chynnwys Cymraeg ar-lein

Mae Mathew Ingram yn drafod y golled mantais technoleg yn y diwidiant newyddion. Mewn geiriau eraill, mae unrhyw un yn gallu cyhoeddi/copïo newyddion ar-lein, dyw busnesau newyddion ddim yn defnyddio technoleg arbennig ac unigryw i fod yn gystadleuol yn 2011.

the media industry is in the process of being unbundled, just like the telecom business has been, and it’s even harder for media and content companies because there is no technological aspect to their business, the way there is with telephones and infrastructure and bandwidth. All the media business has is content, which can take a million different forms, and which is available to everyone as soon as you click “publish” or “send.”

Gweler hefyd: Om Malik ar yr un pwnc.

Dadfwndelu a chynnwys

Hoffwn i drafod cynnwys a dadfwndelu yn eu ystyr ehangaf – newyddion, LOLs, barn, blogiau, fideo, papurau bro arlein.

Dyn ni ddim yn trafod am fusnes cynnwys yn yr un ffordd a’r UDA ond dw i’n meddwl bod y gwersi yn debyg. Er enghraifft, dw i ddim eisiau gweld enghreifftiau fel BBC Chwaraeon eto. Mae’r broblem darpariaeth newyddion am chwaraeon yn Gymraeg yn anodd, angen bod yn gystadleuol mewn ffordd i dynnu’r ymwelwyr Cymraeg o wefannau eraill. Yn gyffredinol, sut ydyn ni’n gallu dylunio llwyddiannau ar-lein?

Teyrngarwch

Pa mor DEYRNGAR fydd ymwelwyr yn y dyfodol i wefannau Cymraeg? Mae rhai yn darllen achos mae’r cynnwys yn Gymraeg ond paid â dibynnu arnyn nhw yn unig – dylet ti cynnig rhywbeth DA yn erbyn y safon y byd/Saesneg. Fy ateb yw, paid â dibynnu ar deyrngarwch.

Oes pwynt 1. cyfieithu neu addasu pethau o gwmpas y we neu dylen ni 2. rhoi ffocws pur ar gynnwys unigryw? Mae 1 yn OK ond ti’n mynd head-to-head gyda’r fersiwn Saesneg. Problem gydag opsiwn 2 yw, angen bod yn greadigol iawn neu dyn ni’n dibynnu ar ddim ond yr un pynciau hawdd sy’n unigryw: S4C, Cymru, Cymraeg fel mae Rhodri ap Dyfrig wedi dweud. Os ti’n nabod fi byddi di wybod bod dw i eisiau gwe Gymraeg amrywiol iawn, y byd(ysawd) trwy llygaid Cymraeg.

Angen barn

Dw i’n gallu gweld cyfle mawr am wefan barn – gydag erthyglau bob dydd. Sgwennu da gyda fideo/lluniau, bob bob dydd, amrywiaeth o bynciau, amrywiaeth o gyfranwyr, uniaith Gymraeg. Gadawodd pobol 29 sylw da yn Gymraeg ar Skdadl/Angharad Mair, mae cyfleoedd am drafodaeth dda. Mae’r ymgeiswyr gorau ar hyn o bryd yn dangos elfennau da ar wahan: blog Golwg360 (barn am newyddion cyfoes), Barn arlein (amrywiaeth o gyfranwyr ond rhy anaml) a BlogMenai (yn aml, ond un awdur yn unig). Mae gyda ni dewisiadau felly, does dim rhaid i ni ofyn Click on Saesneg i ddweud ein dweud. Mae Golwg360 yn gallu mynd am y goron yma, dylen nhw gopïo’r enghraifft Huffington Post – mae’r drysau yna ar agor. Mae pobol fel George Clooney yn cyfrannu achos maen nhw yn gwybod bod gyda nhw platfform. Efallai bydd y farn yn tynnu pobol i’r cynnwys arall.

Dadfwndelu a theledu

Mae rhai o bobol eisiau neidio off y clogwyn S4C i mewn i’r môr dadfwndelu. Ydyn nhw yn deall bod dadfwndelu yn golygu marwolaeth ar hyn o bryd? Amlblatfform yw’r “lle” mwyaf cystadleuol ERIOED. Mae diffyg straeon llwyddiannus ar hyn o bryd. (Gweler: Dafydd El a Mari Beynon Owen vs. Daniel J. Boorstin. Mae gyda Martin Owen yn WalesHome rhai o bwyntiau perthnasol ond mae’r prif bwynt – lladd S4C – yn hollol rong.) Strategaeth well am y byd amlblatfform yw llawer o brojectau bach ac arbrofol, adeiladu ein CV arlein fel cenedl/iaith, tyfu ein rhwydweithiau a rhannu tips am lwyddiant gyda’n gilydd.

Y Bydysawd – trafod materion cyfoes, chwaraeon a theledu

Gofyn am help gyda phroject newydd o’r enw Y Bydysawd. Plis cer i ybydysawd.com a wedyn gadawa sylw ar erthygl. Dylai fe bod yn hawdd ond gofyn isod os ti eisiau help. Diolch.

Fel Google dw i heb wedi lansio’n swyddogol ond dw i’n profi gydag unrhyw un ar y we sydd eisiau helpu. Mae Google yn neidio o’r soffa ac yn dresio ar y ffordd i’r gig. Strategaeth dda.

Mae gyda fi lot o syniadau ond o’n i ddim eisiau atal profiad yn fyw gyda phobol yn fyw.

Y Bydysawd

Mwy o wybodaeth am Y Bydysawd.

Trafoda’r gwasanaeth ei hun ar unrhyw cofnod dan y categori Newyddion Y Bydysawd.

Syniad mapio am gyfres 100 Lle

DIWEDDARIAD 14/1/11: Eureka, mae Rhys Llwyd wedi dechrau 100lle.net. Ardderchog! Croeso i ti gadael sylw a chynnig help isod. (Gwers: rhanna dy syniadau cyn iddynt marw.)

S4C 100 Lle Aled Samuel Dr John DaviesEdrych ymlaen i’r gyfres 100 Lle ar S4C gydag Aled Samuel a’r hanesydd John Davies. Cofnod sydyn. Dylai (DYLAI!) rhyw fath o fap yn bodoli gyda’r llefydd gwahanol. Mae’r crynodeb y gyfres yn sgrechian “MAP ARLEIN!”.

Beth am:

  • map o Gymru fel canllaw i’r llefydd yn y gyfres
  • dolenni i Wicipedia, rhaglennu ar Clic, efallai cyfeiriadau i’r llyfr gan John Davies a Marian Delyth

Nodweddion bonws:

  • gaf i farcio’r llefydd dw i’n nabod, lle dw i wedi ymweld? Rhyw fath o “leaderboard”/gêm?
  • efallai rhannu straeon/profiadau (gweler hefyd map i’ch Pen-y-bont fel rhan o’n gwaith gyda National Theatre Wales a Sherman Cymru)
  • efallai rhannu lluniau a fideos
  • ffyrdd amgen o gyflwyniad/ffiltro, e.e. chwilio, llinell amser am yr hanes

Ond croeso i unrhyw un wneud y syniad gyda Google Maps, OpenStreetMap neu debyg. Efallai gwnaf i helpu ond sa’ i eisiau bod yn gyfrifol amdano fe dro yma. (Ar hyn o bryd dw i’n rhoi mwy o bwyslais ar waith i fy nghwsmeriaid yn hytrach na projectau arbrofol.)

Pwynt dw i eisiau archwilio heddiw yw, dyw “amlblatfform” ddim yn golygu dim ond Teledu Ar Y We. Mae’n naturiol i feddwl am y rhaglennu cyntaf (cofia’r dramâu teledu gynnar – fel theatr arferol ond gyda chamera). Ond mae arlein yn dod gyda chyfleoedd newydd i ddweud straeon, fel gwrthran am gyfres teledu. Neu vice-versa? (Neu ymchwilio straeon, fel PenTalarPedia.)

Gwnaf i gadw’r sylwadau ar agor am ddolenni ayyb.

Teledu, S4C a YouTube – meddyliau a ffigyrau

Mae’r BBC wedi cael “sianel” swyddogol ar YouTube ers 11fed mis Tachwedd 2005 – gyda chlipiau o bob sianel teledu, bron bob genre o rhaglennu, Comic Relief, Eurovision a digwyddiadau eraill.

Syniad “amlblatfform” a syml iawn ond da am S4C. Heddiw mae gyda BBC ar YouTube 8161 fideo ond rhaid i ni gofio bod unrhyw cyfrif yn dechrau gydag un fideo. Mae 1884 diwrnod wedi pasio ers cychwyn y cyfrif. Felly y nifer cyfartalog o fideos newydd bob dydd yw tua 4 fideo. Pedwar fideo yn unig. (Siwr o fod gyfradd o lanlwytho wedi codi ers y cychwyn.)

Mae Dafydd Tomos a fi wedi siarad am Uned 5 ar y blog yma yn y gorffennol. Weithiau mae BBC yn defnyddio cyfrifon arbennig am rhaglennu, e.e. BBC Classic Doctor Who.

Baswn i’n hoffi sianel neu cyfrif S4C, dyma’r manteision:

  • parhaus (tyfu archif achos dyn ni’n colli rhaglennu ar Clic bob dydd)
  • byd-eang
  • gwesteia am ddim felly menter rhad
  • mae pobol yn gallu mewnosod y fideos ar eu blogiau, tudalennau Facebook
  • neu rhannu dolenni
  • mwy o bresennoldeb S4C o gwmpas y we / ffonau symudol
  • hyrwyddo rhaglennu sy’n fyw ar S4C (postiodd BBC clip o The One Ronnie 5 diwrnod o flaen llaw dw i’n meddwl)
  • hyrwyddo Clic gyda dolenni
  • serendipedd – mae system YouTube yn wych am ddarganfyddiad
  • hyrwyddo DVDs (gweler enghraifft Monty Python ar YouTube a gwerthiannau DVDs)
  • arian ychwanegol?
  • sylwadau
  • ystadegau, gweler isod

Dw i’n hoffi 4, mae’n swnio fel nifer da. Beth am 1 bob dydd? Neu 7 ar diwedd yr wythnos? Bydd e’n bosib ailgylchu’r isdeitlau hefyd ond efallai paid â phoeni amdano fe ar hyn o bryd.

Gwnes i arbrofiad gyda Pen Talar llynedd. O’n i eisiau siarad am y rhaglen gyda ffrindiau arlein. Felly postiais i glipolwg ar YouTube (666 gwyliwr, 3 sylw, 5 hoff, hyd yn hyn).

Gyda llaw roedd y fideo cyntaf yn fwyaf poblogaidd gyda’r grwp 13-17 o fechgyn ifanc. Demograffig “anodd” yn ôl bob sôn! Cafodd e wylwyr yn yr UDA, Awstralia, De America ac wrth gwrs y DU. Mae’r rhan fwyaf o wylwyr yn chwilio.

Dilynodd clipolwg am bob pennawd arall. Gwnes i bostio’r llall a chreuodd pobol eraill o leia 2 playlist. Cyfanswm o wylwyr clipolygon? 1109, nawr dychmyga’r un peth gyda chefnogaeth swyddogol.

Gweler hefyd: