Defydd yr iaith arlein 1 Safon yr iaith arlein 0

Dw i newydd wedi recordio eitem Pethau Bychain i’r rhaglen Post Cyntaf bore fory (tua 8:20AM ar BBC Radio Cymru fydd e). Gofynnodd y gyflwynwraig “beth wyt ti’n meddwl am safon yr iaith arlein?”. Atebais i “defydd yr iaith yw’r peth pwysig”.

Yng Nghymraeg dyw e ddim yn cymryd lot i fod yn “dadleuol”  (y gair defnyddiodd hi ar y diwedd yr eitem).

Dw i’n ddiolchgar iawn i BBC Radio Cymru am y cyfle i siarad am Pethau Bychain. Gobeithio bydd neb yn anfon llythyrau iddyn nhw am fy sylwadau “dadleuol”.

Dw i’n ail-darllen traethawd gan David Crystal, ieithydd o Gaergybi:

Small languages need every ounce of linguistic energy they can get. If significant amounts of that energy are devoted to quarrelling over which dialect of the small language is best, or condemning those who dare to experiment with the language, valuable opportunities are being wasted. Small languages need good publicity: they need to maintain a positive public presence; they need prestige, and prestige is closely bound up with media support. But unfortunately, so often in recent years one sees such languages repeatedly shooting themselves in the foot, as media opportunities are wasted, and what could be a positive opportunity to take the language forward turns into a piece of negative wrangling, and the experience a source of national and even international ridicule. And the effect reverberates…

Paid â defnyddio dy safon wael fel esgus i anghofio Pethau Bychain fory. Fydda i ddim!

Viva la iaith y gegin.

Darllena’r traethawd llawn gyda’r engraifft Manic Street Preachers. Mae’n wych: Towards a philosophy of language diversity gan David Crystal

YCHWANEGOL: Mae’r eitem 3 munud ar gael yma os ti ANGEN clywed e. Golygiadau a thoriadau ganddyn nhw! (Gwnaethon nhw torri’r darn gyda’r gair “dadleuol”.)

2 Ateb i “Defydd yr iaith arlein 1 Safon yr iaith arlein 0”

  1. “Beth wyt ti’n meddwl am safon yr iaith arlein?”

    Gan rhywun sy’n gweithio i Radio Cymru? Hmmm.

    Dim amser nawr i ddweud fy nweud yn llawn, ond gobeithio bod cyflwynydd y Post Prynhawn yn sylweddoli bod gwahaniaeth sylfaenol rhwng Cymraeg anffurfiol rhyw unigolyn ar ei flog, neu mewn sylwadau YouTube, Twitter ac yn y blaen, a’r broblem o “safonau’n syrthio” mae rhai yn gweld ar raglenni S4C a Radio Cymru.

    Dydy bois Cylch yr Iaith hyd yn oed ddim wedi mynd ar ôl y blogwyr eto – diolch byth, achos finnau fyddai’r cynta yn erbyn y wal ’sai hynny’n digwydd.

Mae'r sylwadau wedi cau.