Difyr iawn Carl. Ac yn codi cwestiynnau am economi’r Gymraeg am y ddegawd neu fwy nesaf.
Heb eisiau swnio’n wisgwr sandalau barfog sydd am fyw (a chwympo mas) gyda cyfeillion mewn comiwn, hoffwn feddwl fod angen i ni edrych ar strwythurau eraill o ariannu anturiaeth ddiwylliannol-economaidd yn y Gymraeg.
Rwy’n ceisio sefydlu’r Rhedadeg, ras yn ol traed y Korrika (Gwlad y Basg), Redadeg (Llydaw) ac An Rith (Iweddon) sy’n codi arian at yr iaith.
Mae fel petai model (uffernol) Apprentice a Dragon’s Den yn rhoi’r argraff mai pobl digon anymunol ac ariangarol sydd yn rhedeg busnesau. Dydy hynny ddim yn apelio i mi. Oes modelau eraill?
diddorol iawn, a diddorol gweld cymaint o enwau o Gilgwri, gan cynnwys un o fan hyn, West Kirby! mae’ na un cyfraniad gan ‘cyfaill o Parkfield’, hwn oedd enw capel mawr ym Mhenbedw. diolch am rhannu
Carl, allwn ni ehangu sgp Hedyn i gynnwys prosiet fel Rhedadeg? Falle bydd gan bobl syniadau.
Rhys – cer amdani.
Bydd Kickstarter Cymraeg yn hollol bosib ar wici Hedyn.
Cefais y fraint gyda 54 eraill o noddi’r llyfr hwn a gyhoeddwyd ac a argraffwyd gan Wasg y Lolfa, Awst 2012.
Os dof o hyd i’r llyfr yn y llyfrgell gallaf weld os derbyniodd y llyfr nawdd gan y Cyngor Llyfrau hefyd, ond mae’n awgrymu bod y torfoli’n dal i ddigwydd.
Byddai’n ddiddorol gwybod sut yr hysbyswyd a gan bwy er mwyn denu’r nawdd gan y 55 unigolyn (Robin Gwyndaf ei hun, Gwasg y Lolfa, rhyw gymdeithas hanes/lleenyddol lleol?)

Mae ffilmig ar youtube: http://www.youtube.com/watch?v=c3__wxkA3fg
Mae fel petai model (uffernol) Apprentice a Dragon’s Den yn rhoi’r argraff mai pobl digon anymunol ac ariangarol sydd yn rhedeg busnesau. Dydy hynny ddim yn apelio i mi. Oes modelau eraill?
diddorol iawn, a diddorol gweld cymaint o enwau o Gilgwri, gan cynnwys un o fan hyn, West Kirby! mae’ na un cyfraniad gan ‘cyfaill o Parkfield’, hwn oedd enw capel mawr ym Mhenbedw. diolch am rhannu
Carl, allwn ni ehangu sgp Hedyn i gynnwys prosiet fel Rhedadeg? Falle bydd gan bobl syniadau.
Rhys – cer amdani.
Bydd Kickstarter Cymraeg yn hollol bosib ar wici Hedyn.
Rydyn ni wedi cynnal rhestr o addewidion, enghraifft:
http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2011#Pwy_Sy.27n_Dod.3F
Difyr iawn ydi’r rhestr cyfrannwyr na. Ma genna i gynllunia bach ar y trywydd hwn…
Newydd ddarllen cofnod ar flog Llafar Bro sydd gyda brawddeg ddiddorol ynddi: