10 Replies to “Tafodieithoedd melys”

  1. Diolch am y diddordeb yn y llyfr! Mae’n wir bod y llyfr allan o brint ers meitin, ond er diddordeb, bydd y cynnwys (gan gynnwys clipiau sain o dafodieithoedd) yn ymddangos ar wefan newydd o’r enw Casgliad y Werin Cymru ym mis Awst eleni.

    O.N. Wi’n lico’r syniad o’r symbolau fel melysion bach…

  2. Mae elfennau o’r llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg nawr ar wefan Casgliad y Werin, a bydd rhagor yn ymddangos gydag amser. Er mwyn mynd at gasgliad o eitemau perthnasol i’r tafodieithoedd (gan gynnwys recordiadau sain o’r darnau sydd yn y llyfr), ewch at http://www.peoplescollection.co.uk/Collection/154-the-dialects-of-welsh

    Mae’r nodiadau ar bob un o’r enghreifftiau llafar a nodweddion y tafodieithoedd o dan y pennawd Themau/Gwahanol Dafodau (http://www.peoplescollection.co.uk/Theme/2-different-voices). Mae tafodiaith Caernarfon, , Llannerch-y-medd, Rhosllannerchrugog, Carno, Pen-caer, Llansawel, Llangynwyd, a Glynogwr eisoes ar y wefan a bydd gwybodaeth am y darnau eraill sydd yn y llyfr hefyd yno maes o law.
    Gobeithio fod hyn o help!

Comments are closed.