3 Replies to “Cyfeiriadau gwe yn Gymraeg a rhyngwynebau dwyieithog”
Hmm, mae gwefan y Cynulliad wedi newid i gyd ers i mi ei weld ddiwethaf a mae’n dipyn o smonach. Cymysgedd o .htm/.aspx a dim arlliw o ddolenni parhaol. Dyw’r parth ddim yn newid o GymraegSaesneg chwaith.
Mae hynny yn reit ddigalon os nad yn sgandal i feddwl fod canllawiau penodol wedi eu datblygu gan Fwrdd yr Iaith. Mae rheiny yn adlewyrchu ’safon diwydiant’ ac arbenigedd wedi eu ddatblygu ers degawd.
Mae llawer o gyrff cyhoeddus lle mae’r gwefannau yn cael eu datblygu yn allanol yn dilyn y canllawiau yma. Wedyn mae’r Cynulliad (a Cyngor Caerdydd ymysg eraill) yn prynu systemau rheolau cynnwys drudfawr sydd ddim yn gallu gwneud y pethau syml hyn. Anobeithiol.
dwi’n sicr fod yna reswm llawer symlach ynglyn a diffyg gwefannau cymraeg – y codwyr sydd yn datblygu a gweinyddu’r systemau – a gan amlaf drwy gyfrwng y Saesneg maent yn gweithio. Angen prynu raspberry PI i bob plentyn yng nghymru ac efallai welen ni wahaniaeth!
Dwi ddim yn meddwl fod hynny i wneud dim a’r peth. Os yw cwmni yn dilyn canllawiau y diwydiant (a synnwyr cyffredin) sdim ots pwy sy’n codio. Dwi wedi gweithio gyda pobl uniaith saesneg sy wedi datblygu gwefannau amlieithog (5 iaith) i’r safonau cywir yn ddi-drafferth, gan gynnwys ieithoedd anoddach fel Arabeg.
Dyw e ddim byd newydd chwaith.. roedd e’n cael ei wneud yn y 90au (ddim i’r un safonau a heddiw).