One Reply to “Teledu, S4C a YouTube – meddyliau a ffigyrau”

  1. Dwi ddim yn deall pam nad ydi S4C yn gallu gwneud be mae’r sianeli eraill wedi gwneud a chreu partneriaeth gyda YouTube i rhoi cynnwys archif ar lein. Mae’n siwr y byddan nhw’n sôn am hawliau ac arian ond esgusion ydi hynny.

    Mae archif Channel 4 yn cynnwys llwyth o hen raglenni, rhai dim ond wedi eu gwylio ychydig gannoedd os hynny. Dwi ddim yn dychmygu bo nhw’n gwneud arian mawr allan ohono.

    Wedyn mae archif teledu STV – yn wahanol i HTV, fe wnaeth Sianel 3 yn yr Alban gadw ei hunaniaeth fel cwmni ar wahan. Mae ganddyn nhw pob pennod o Take The High Road erioed!

    Dwi ddim eisiau gweld pob hen bennod o Pobol y Cwm chwaith, ond mae archif Cymraeg y BBC o ddiddordeb hanesyddol a chymdeithasol (y newyddion a’r rhaglenni dogfen yn fwy na’r sebon efallai). Does dim llawer o archif BBC Cymru ar lein heblaw’r arbrawf yma o 2003. Mae technoleg wedi symud ymlaen o RealPlayer a fe fydd BBC Cymru yn 90 oed yn 2013.. beth am ddiweddariad BBC?

    O ran gwefan HITV – mae ambell i beth da yn eu harchif nhw ond mae’r rhyngwyneb yn wael a dyw e ddim wir wedi ei adeiladu ar gyfer cynnwys rhestri hir o raglenni.

    Fel wnes i sôn o’r blaen mae S4C wedi adaseinio hawliau archif nôl i’r cynhyrchwyr gwreiddiol (os ydyn nhw dal i fodoli). Felly dwi ddim yn gweld unrhyw gymhelliad i S4C wneud unrhywbeth gyda’i archif (heblaw y slot Aur sydd yn llenwi bwlch rhwng rhaglenni plant a’r prif raglenni) – ond fe ddylai fod yn un o’i dyletswyddau craidd.

Comments are closed.