3 Replies to “Y Twll: facelift a Facebook (cytundeb gyda’r ymerodraeth ddrwg)”
Dw i’n cytuno â ti ynglyn â Facebook; mae’n drueni ei fod mor boblogaidd, ond does dim modd ei anwybyddu. Dw i wedi sylwi bod cofnodion Morfablog yn cael llawer mwy o ymwelwyr os dw i’n cofio postio dolen i’r blogiad ar Facebook – mae’n siwr bod llawer iawn mwy o bobl yn dibynnu ar eu ffrydiau Facebook nag sydd yn darllen ffrydiau RSS – prin iawn bod llawer o bobl hyd yn oed yn gwybod beth yw RSS.
Felly, ie, dawnsio gyda’r diafol er mwyn normaleiddio’r iaith ar y we agored – ac atgoffa pobl bod ’na sut peth â gwe agored i gael.
O, a diolch am y “pennau i fyny” i’r ategyn Like. Dw i wedi ei osod ar y blog, i weld beth sy’n digwydd.

Ti’n rhedeg unrhyw fath o Analytics? Dw i’n defnyddio’r ategyn Ultimate Google Analytics.