4 Replies to “Eiddo deallusol a hawlfraint – beth yw’r problem?”

  1. Dw i’n methu bod yn wrthrychol am hyn heddi, gan fod rhywun wedi rhoi gwahoddiad “Please add this picture to our group” i un o fy hen luniau ar Flickr, a gâth ei ddefynddio gan Golwg ers talwm heb unrhyw gydnabyddiaeth, mewn erthygl “portead yr Wythnos” am fy nghariad nad oedd hithau eisiau iddyn nhw sgwennu. Ro’n i wedi anghofio amdano’n llwyr, ond ar y pryd roeddwn i mor grac, wnes i newid y trwydded dw i’n defnyddio ar Flickr i’r hen “Cedwir pob hawl”. Y dewis oedd hynny neu ddileu miloedd o luniau yn gyfan gwbl.

    Wedi dweud hynny, dw i’n chwarae fast and loose gyda rheolau hawlfraint fy hunan. Mae cynnwys fy mlog /cerddi newydd i gyd yn anghyfreithlon, siwr iawn, oni bai mod i eisiau dadlau taw “defnydd teg” yw dyfynnu cerddi ar eu hyd heb ofyn caniatâd.

    Mae’n drafodaeth werth ei gael, yn sicr.

  2. Dogisteil, dylen nhw ofyn am ddefnydd masnachol.

    Wyt ti’n meddwl fod camddealltwriaeth o’r drwydded wedi creu’r broblem? Achos maen nhw dal yn gallu camddeall neu fethu gweld “cedwir pob hawl”.

    /cerddi – O leia ti’n enwi’r ffynhonnell ar dy flog.

  3. Dwi’n cytuno bod hon yn drafodaeth bwysig, ond mae hefyd yn bwysig peidio drysu rhwng y term ‘eiddo deallusol’ a’r *cysyniad* o eiddo deallusol.

    Does dim problem gyda’r term: mae’n label sy’n disgrifio’r cysyniad i’r dim. Y broblem gyda’r cysyniad yw ei fod yn un cymhleth. Mae’n ddibynnol i raddau ar ddealltwriaeth o gysyniadau eraill, fel hawlfraint, trwyddedu a nodau masnach. Gyda rhain yn gallu amrywio o wlad i wlad neu o gyd-destun i gyd-destun, does ryfedd fod pobl yn cymysgu rhyngddynt, neu’n ansicr ynglyn â therfynnau’r cysyniadau.

    Ydi, mae’n bwysig deall y cysyniadau hyn, ond arfau i gyrraedd rhyw nod ydyn nhw. Yr hyn dylwn ni geisio’i wneud ydi ceisio deall sut y gallwn ni beri i gyfrwng a chynwys Cymraeg ffynnu, ac yna dewis modelau eiddo deallusol a thrwyddedu fydd yn ein galluogi ni i gyrraedd y nod hwnnw.

    Mae ceisio dewis modelau trwyddedu cyn penderfynu’r nod neu’r bwriad terfynol ychydig bach fel rhoi’r cart o flaen y ceffyl.

Comments are closed.