4 Replies to “Diwylliant Gaelaidd yn Yr Alban”

  1. Wnest ti yrru yno yn dy Polo, neu wyt ti nawr yn berchen ar Volvo estate (DRE: “ar y Volvo,bathodyn Tafod y Ddraig”)

    Stori wych gan Kenneth Macintosh, a dw i’n aml yn meddwl ma yr holl dermu amaethyddol a traddodiadol Cymraeg a golli’r gyda cenhedlaeth fy nhad. Un peth yw bod a geiriau newydd fel gliniadur a co’bach, ond nid ydyn’t yn dda i ddim os anghofiwn ni fyw fyth o eiriau.

    Mae’n rhyfedd cyn lleied rydym yn wybod am y sefyllfa yr Aeleg yn yr Alban a ninnau’n byw o fewn yr un wladwriaeth. Dychmygaf mai ychydig iawn o lefydd all rhywun fynd bellach a chlywed yr iaith yn cael ei siarad.

    Dw i heb weld y rhaglen, ac mae’n bosib ei fod yn pants llwyr, ond efallai gall cyfres newydd o’r enw Tocyn roi ysbrydoliaeth i ti am le i fynd ar dy wyliau a gallu clywed ieithoedd lleafrifol Celtaidd. Dyma’r blurb:


    TOCYN

    Nos Fercher
    6 Ionawr
    20:25

    Croeso i wefan Tocyn, cyfres newydd sydd yn cynnig syniadau di-ri am wyliau difyr a fforddiadwy yn y rhanbarthoedd Celtaidd. Partneriaeth gyflwyno newydd fydd wrth y llyw – Aled Samuel ac Alex Jones. Mi fydd y ddau yn edrych ar wyliau i ateb pob tast, diddordeb, oedran, a phoced yng Nghymru, Cernyw a’r Alban a hefyd dros y môr yn Llydaw, Ynys Manaw ac Iwerddon.

  2. roedd hi’n bleser dy weld unwaith yn rhagor Carl yma’n yr Alban a medru siarad yr heniaith yn Glaschu ar drothwy’r flwyddyn newydd 🙂
    Mi wnes i a’r Albanwyr fwynhau ein brecwast Abertawe (bara lawr ag wy ar dost) yn fawr iawn!
    Bydd rhaid iti fynd i’r ynysoedd heledd allanol tro nesaf – mae digon a’r iaith gaeleg i’w glywed yno gyda tua 60% yn ei siarad yn rhugl.
    cofion gorau x

Comments are closed.