5 Replies to “Ychwanega Google Translate i dy wefan”

  1. pa mor dda y google translate yn gweithio?

    Dyma sut i wneud gyfieithu “bookmarklet”:

    arbed yn dilyn y côd i nod tudalen

    Saesneg -> Cymraeg:
    javascript:void(window.open(“http://translate.google.com/translate?u=”+window.location.href+”&sl=en&tl=cy”))

    Cymraeg -> Saesneg:
    javascript:void(window.open(“http://translate.google.com/translate?u=”+window.location.href+”&sl=cy&tl=en”))

  2. Wedi ei ychwanegu at un fi – mae’n gwneud i mi swnio fel bod gyda fi anghenion arbennig 🙁 Hefyd, mae’r dewisiadau yn ymddangos yn Gymraeg – falle dylwn esbonio beth yw’r prif ieithoedd oddi tano?

    Dyma rai cyfieithaidau annisgwyl
    English > Cymraeg (yn amlwg o ddoleni newid iaith)
    Caerdydd > Bridgend
    Draig Wen (White Dragon) > Funky Owl

    Mark, I’ve tried your suggestion above without success (although I’m not fully fluent in Googlish yet)

  3. Diolch am hyn, do’n i ddim wedi sylwi, ac mae’n edrych yn lot well na’r hen fersiwn.

    Hoff gyfieithiad Google diweddar:

    “…it as being Uncle Bryn Gavin and Stacey tells a story about night to you.”

    Gwell na’r Gymraeg wreiddiol, chware teg.

Comments are closed.