6 Replies to “Syniadau y we Cymraeg am 2010”

  1. Hoffwn i addo i fod yn llai beirniadol a negyddol trwy’r amser, ac i ddefnyddio fy mlog i hybu pethau diddorol a gwych yn lle lladd ar bethau diflas a dwl.

    (gwegymraeg2010 amdani)

  2. Dw i wedi ficsio’r tag nawr.

    Adduned dda.

    Hefyd dw i’n meddwl am pethau/syniadau am pobol eraill! Weithiau dw i’n creu syniadau ond dw i ddim yn gallu wneud nhw. Felly dw i eisiau rhannu fy syniadau. Gallai rhywun yn cael ysbrydoliaeth. Efallai.

    Dw i eisiau… dw i’n dymuno… ayyb

    Mae syniadau yn rhad.

  3. Rhestrau. Mmm. Dwi’n bwyta nhw i frecwast.

    Adduned rhif 1. i bawb –> dod i Hacio’r Iaith a gwneud o’n wych.

    Dwi hefyd yn addunedu i wneud mwy o restrau ar Metastwnsh.

  4. Ha! Diolch am hynny. Prif nodwedd Morfablog yw fy mod i wedi bod yn sôn am roi’r ffidil yn y to ers 2005. Mae’n garedig ohonyn nhw, ond dw i’n synnu gweld fy hun ar restr fel ’na o gwbl. Pysgodyn hen ac araf mewn pwll sy dal yn rhy fach, sbo.

  5. Pingback: Hen Bysgodyn

Comments are closed.