Mae sut gymaint o newyddion pwysig wedi torri yn y pythefnos diwethaf.
Ac mae fe bron i gyd drwy gyfrwng y Saesneg ac ieithoedd eraill.
Mae newyddion yn arafach yn Gymraeg. Ffaith.
Cywirwch fi os mae hyn yn anghywir ond dw i ddim yn credu bod ’na graffeg yn Gymraeg fel y cerdyn uchod.
Ydy llai o bethau sydd o ddiddordeb i wylwyr/ddarllenwyr Cymraeg fel ni yn digwydd yn y byd? Nac ydy.
Ydy’r newyddion yn gyffredinol yn effeithio arnom ni i raddfa lai? Nac ydy.
Oes ’na diffyg awydd ar ran penaethiaid ein sefydliadau a chwmnïau cyfryngol i fentro ac ymdrechu i adrodd newyddion ‘poeth’ yn Gymraeg tra bod e’n digwydd? Oes.
Oes ’na llai o gystadleuaeth ymhlith mentrau newyddion Cymraeg, llai o gystadlu am sylw drwy geisio adrodd yn gyflym? Oes.
Ydy hi’n symptom o diffyg adnoddau a diffyg buddsoddiad? Ydy, yn sicr.
Mae newyddion yn ddrud. Yn y Saesneg mae’r Guardian wedi dechrau adrodd rhagor o newyddion o’r UDA achos dyna le mae mwy o lygaid a mwy o farchnad hysbysebion. Mae hyn yn her fach i newyddion am wledydd Prydain, heb sôn am y Gymraeg.
Wrth gwrs mae amddiffyn y gwaith da sy’n digwydd eisoes yn Gymraeg yn digon o her drwy’r amser.
Er nad ydynt yn defnyddio’r union dermau mae plant weddol ifanc yn sylweddoli bod newyddion yn Gymraeg yn arafach.
Mae plant yn gweld pethau fel hyn mewn byd yr oedolion fel y niferoedd cymharol isel o gemau fideo, ffilmiau, cylchgronau, bwydlenni, crysau-t, hysbysebion, ac ati yn Gymraeg. Gweler hefyd: os nad yw Prif Weinidog Cymru yn defnyddio’r Gymraeg maen nhw yn sylwi.
Fydda i ddim yn hapus nes bod newyddion yn Gymraeg cystal â newyddion Saesneg – cyflym, rhyngwladol, amrywiol, amlgyfrwng, dwfn, cyfoethog. Fydda i ddim yn hapus nes bod y cyfryngau yn holliach yn Gymraeg a chystal ag unrhyw iaith arall. Dw i’n gwybod bod hyn i gyd yn hollol afrealistig ond dyna ni.
Tra ein bod ni’n ceisio meddwl am ffyrdd o ddatblygu’r maes yma (sori, dim datrysiadau heddiw!) dylen ni ystyried cefnogi cyfrifon fel @elliwsan, @owen_garry, @sianeaber sy’n ceisio torri newyddion yn Gymraeg. Oes ’na rhai eraill?
Pob bendith i’r bobl eraill yma sy’n ceisio ein cyffroi drwy ddefnydd o’r geiriad ‘newyddion yn torri‘ ar Twitter!
Down ni â rhagor ar hyn tra bod y sefyllfa yn datblygu.