Pam dylet ti agor dy broffil Twitter

Twitter

Dw i wastad yn siomedig pan mae siaradwyr Cymraeg yn cau proffiliau nhw.

Dw i’n dal i gasglu cofrestr o proffiliau Cymraeg. Ewch i’r gofrestr a darllena pobol eraill sy’n rhannu pethau. Diolch iddyn nhw. Dyn ni’n adeiladu’r rhwydwaith Cymraeg person wrth berson.

Mae Twitter yn gweithio yn dda pan ti’n agor dy broffil i bobol eraill a chwilio. Ti’n gallu gofyn cwestiynau, addysgu pobol eraill, dylanwadu pobol eraill, helpu dysgwr efallai. Mae pobol yn gallu nabod dy ddiddordebau a chynnig gwaith, swyddi a phethau diddorol.

Mae’r ymgyrch yn dechrau yma! Agora dy broffil. Pam lai?

Bydd yn dipyn gofalus gyda phethau ti’n postio. Mae pawb yn gallu darllen nhw. Dyna’r pwynt. Ond fydd pawb ddim yn darllen nhw rili. Dylet ti ddeall geotagging os ti’n defnyddio ffôn.

Agora dy broffil! (Ewch i Settings, cliria “protect my tweets”. Bocs gwag. Diolch.)

Neu os ti eisiau cael proffil preifat, dechrau proffil arall agored.

Wrth gwrs, ti’n gallu penderfynu pa fath o gyfrif ti eisiau rhedeg. Dw i wedi trio opsiwn preifat yn y llun yma. Ond dw i wedi troi’r opsiwn yn ôl yn sydyn. Dw i eisiau cyfrannu i’r we agor.

Dw i’n sôn am yr iaith hefyd wrth gwrs.

Os ti’n cau dy gyfrif, byddi di’n anweledig! A bydd dy iaith Gymraeg yn anweledig hefyd.

10 Ateb i “Pam dylet ti agor dy broffil Twitter”

  1. Dwi ddim yn deall pam fod pobl yn cuddio cyfrif Twitter – mae ei weld yn eitha di-bwynt i fi. Wel, dwi yn deall pam – am fod pobl yn ei ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol iawn.

    Mae rhai yn ei ddefnyddio fel blog bach, ar gyfer sylwadau cyflym. Mae eraill yn ei ddefnyddio ar gyfer danfon ambell ddolen i’w blog go iawn neu at lefydd eraill ar y we.

    Ond mae carfan eitha mawr yn ei ddefnyddio fel rhyw grŵp trafod preifat rhwng ffrindiau.. efallai o dan ddylanwad Facebook. Dwi’n gweld y pwynt o gadw rheina yn breifat er ei fod yn ffôl iawn os yw pobl yn credu fod unrhywbeth ar y we yn breifat.

  2. Rwy’n meddwl mike i chi yn gwybod fy mod wedi cymryd i cyfieithu a darllen eich blog gan ddefnyddio Google. Dyma yw Google yn ceisio ateb i mi mewn Cymraeg.

  3. Dafydd, gallai cyfryngau cyfathrebu “preifat” bod yn ddefnyddiol (fel ebost, Facebook, sgwrs, galwad ffôn).

    Ond mae diwylliant Twitter yn agor. Mae pobol agor yn mwynhau’r fantais lawn o’r cyfrwng. Mae’r rhwydwaith cyfan yn well.

    Dw i’n cytuno, dydy Twitter preifat ddim yn breifat go iawn beth bynnag – pan mae pobol yn retweet ayyb.

  4. Hefyd, tra roedd rhaid disgwyl i’r person aral eich ‘derbyn’ ar Facebook cyn cael darllen eich ‘perlau o ddoethineb’ (gan gymryd bod chi wedi dewis cadw e’n breifat), sut mae’n gweithio gyda twitter?
    Os dwi’n cau fy mhroffil Twitter i ddilynwyr yn unig, ac mae dieithyrn (neu gwaeth fyth, cyflogwr) yn fy nilyn, ydy o/hi yn gallu gweld popeth yn syth, neu oes rhaid i mi ei dderbyn yn gyntaf?

    @Howard. Pwy ydy Mike? 🙂

  5. Yn deall dy rwystredigaeth, Carl. Debyg fy mod yn hen-ffasiwn fy agwedd yn cloi fy nghyfrif. Twyllo fy hun ei fod yn breifat; sydd wrth gwrs yn mynd yn groes i hanfod Twitter. Falle mai pobol fel fi yw’r defnyddwyr cyndyn, sydd wedi dod yn gaeth i’r cyfrwng am eu bod yn hoffi dysgu, rhannu gwybodaeth a chael clonc ffraeth. Dyw cloi fy nghyfrif heb stopio hyn, ac mae’n teimlo’n fwy diogel/llai ‘welwch chi fi.’ Ryw reddf yw e; mae’n siwr y gwna i newid wrth i’r peth ehangu/ddod yn norm.

  6. hoffi dysgu, rhannu gwybodaeth a chael clonc ffraeth.

    Tydy bod a chyfrif dan glo ddim yn dy rwystro rhag gwneud dim un o’r uchod, ond fel rwyt wedi sylwi yn y diwrnodau diwethau, allai Gwyl y Gelli, yr SNP nac Alex Salmond weld dy negeseuon di tuag atyn nhw nhw. Ti’n ddiymhongar yn meddwl nad yw hynny o bwys mawr, ond ella basen nhw’n wirioneddol gwerthfawrogi dy sylw.

    Mae Carl yn nodi Ti’n gallu gofyn cwestiynau, addysgu pobol eraill, dylanwadu pobol eraill, helpu dysgwr efallai

    Falle nad oes dim bwriad nac awydd gyda ti ‘ddylanwadu’ ar bobl, ond faswn i ddim yn gwybod am fodolaeth dy gyfrif Twitter (ni ti fel unigolyn!) oni bai mod i wedi ail-drydar ymateb un o dy ffrindiau (Elgan) oedd yn cynnwys dy enw defnyddiwr di. Gan nad o’n i’n dy ddilyn di, ldoedd dim modd i ti gysylltu a mi drwy neges preifat, na gobeithio y baswn i’n sylwi bod trydariad gennyt yn cynnwys fy enw Twitter.

    Fel mae’n digwydd pasiodd dau berson odd yn dy ddilyn di (a fi) y neges ataf ac mi ddilynais i ti, jyst er mwyn i ni allu gohebu, a fy mwriad oedd peidio dy ddilyn wedyn. Ond ti’n trydar am bynciau sy o ddiddordeb i mi (celf, natur, gwleidyddiaeth iaith) felly daliais ymlaen i dy ddilyn a dw i’n falch o hynny.

    Ti rwan yn ‘dylanwadu’ arna i os licio di, yn sicr ti’n llwyddo i rannu doleni o ddiddorde i ti gyda chynulleidfa ehangach. Gallaf ddeall bod ti ychydig yn bryderus am pwy sy’n dy ddilyn ac yn medru darllen dy sylwadau, gan nad ydyw i’n gwybod beth yw dy swydd (os ydy hynny’n berthnasol) ac o beth wela i, ti byth yn postio dim byd twp/enllibys/dadleuol, dw i’n meddwl nad wyt yn ennill dim o gael cyfrif dan glo,ac o bosib yn colli allan ar lawer o gysylltiadau posib gyda pobl o’r un anian.

    Ond mater personol i ti ydy o, ac mi wna i gau fe ngheg rwan. Diolch am gymryd yr amser i fwydro gyda fi!

  7. Diolch am y sylwadau – braf gwybod dy fod wedi aros gyda fi! Fi ofynnodd i’r ddau gyfaill i gysylltu â thi yr adeg ’ny – gan dy fod wedi aildrydar neges o sgwrs rhwng dau arall; dyna’r unig reswm ro’n i wedi mynd i’r fath drafferth i ofyn i ti ei ddileu. Fel arall, dw i ddim yn gweld problem fawr gyda chloi cyfrif Twitter – cael fy synnu o hyd y bobol ddifyr, diGymraeg sy’n dysgu, sy’n fy nilyn. @collgwynfa gyda llaw! ydw i wrth fy ngwaith. Caiff pobol ddod i wybod yn slo bach os yw e werth unrhyw beth! Diolch am ymateb, Rhys.

Mae'r sylwadau wedi cau.