Fel o’n i’n dweud y tro diwethaf dw i wedi bod yn creu rhaglenni bach sy’n postio pethau i Twitter yn awtomatig.
Dyma un newydd sbon: @UnigrywUnigryw
Mae @UnigrywUnigryw yn postio dolenni i erthyglau Wicipedia sydd dim ond ar gael ar y fersiwn Cymraeg o Wicipedia. Hynny yw, mae pob un erthygl yn unigryw i’n fersiwn ni o Wicipedia.
Mae pob trydariad yn syndod i mi achos mae’r system yn postio erthyglau ar hap. Ond dw i wedi cael cipolwg ar y mathau o erthyglau sy’n debygol o ymddangos.
Hyd yn hyn mae lot fawr o bethau daearyddol, pobl hanesyddol (ac enwau cyfarwydd eraill), a llyfrau.
Pam?
Pam ddilyn? Pam dalu sylw? Dyma rhai o’r rhesymau dw i’n gallu dychmygu:
- Ffordd o ddod o hyd i erthyglau diddorol ar hap
- Gweld pa fath o erthyglau mae pobl yn creu
- Nodi beth sy’n unigryw am Wicipedia Cymraeg (ac am y Gymraeg a diwylliannau cyfrwng Cymraeg o bosib?)
- Ysgogi mwy o weithgaredd ar Wicipedia Cymraeg a sbarduno rhagor o welliannau i dudalennau, a rhagor o dudalennau newydd
- Cynnig cyfle i bobl gysylltu tudalennau gyda fersiynau ohonyn nhw mewn ieithoedd eraill, os maen nhw yn bodoli (yn yr achos yma mae’r system yn camddeall bod erthyglau yn unigryw oherwydd diffyg cysylltau)
- Cynnig cyfle i bobl greu cyfieithiadau ar fersiynau eraill o Wicipedia – os maen nhw yn awyddus i wneud hynny, sbo
Yn yr achos olaf os ydych chi’n creu cyfieithiadau ayyb byddech chi’n wneud Wicipedia Cymraeg yn llai unigryw mewn ffordd. Ond mae rhesymau iawn am wneud hynny weithiau! Dw i ddim yn gallu rheoli sut mae pobl yn manteisio ar y gwybodaeth.
Datblygiad
Byddai hi’n neis postio delweddau hefyd. Dydy Wicipedia ddim yn rhannu cardiau Twitter; byddai angen i mi ychwanegu cod i gipio mân-luniau ar gyfer trydariadau hefyd. Dyna un i fy rhestr o nodweddion arfaethedig.
Gallwn i greu cyfrif arall sy’n postio’r dolenni coch er mwyn annog rhagor o fewnbwn a thwf Wicipedia Cymraeg.
I’r rhai sy’n chwilfrydig mae fy ngweinydd yn rhedeg sgript php drwy cron job. Mae’r sgript yn wneud ceisiadau am JSON drwy API Wicipedia ac yn defnyddio codebird-php i drydar.
Gweler archifau’r tag UnigrywUnigryw am ragor o ddiweddariadau.