@UnigrywUnigryw – erthyglau sydd ond ar Wicipedia Cymraeg

Fel o’n i’n dweud y tro diwethaf dw i wedi bod yn creu rhaglenni bach sy’n postio pethau i Twitter yn awtomatig.

Dyma un newydd sbon: @UnigrywUnigryw

Mae @UnigrywUnigryw yn postio dolenni i erthyglau Wicipedia sydd dim ond ar gael ar y fersiwn Cymraeg o Wicipedia. Hynny yw, mae pob un erthygl yn unigryw i’n fersiwn ni o Wicipedia.

Mae pob trydariad yn syndod i mi achos mae’r system yn postio erthyglau ar hap. Ond dw i wedi cael cipolwg ar y mathau o erthyglau sy’n debygol o ymddangos.

Hyd yn hyn mae lot fawr o bethau daearyddol, pobl hanesyddol (ac enwau cyfarwydd eraill), a llyfrau.

Pam?

Pam ddilyn? Pam dalu sylw? Dyma rhai o’r rhesymau dw i’n gallu dychmygu:

  • Ffordd o ddod o hyd i erthyglau diddorol ar hap
  • Gweld pa fath o erthyglau mae pobl yn creu
  • Nodi beth sy’n unigryw am Wicipedia Cymraeg (ac am y Gymraeg a diwylliannau cyfrwng Cymraeg o bosib?)
  • Ysgogi mwy o weithgaredd ar Wicipedia Cymraeg a sbarduno rhagor o welliannau i dudalennau, a rhagor o dudalennau newydd
  • Cynnig cyfle i bobl gysylltu tudalennau gyda fersiynau ohonyn nhw mewn ieithoedd eraill, os maen nhw yn bodoli (yn yr achos yma mae’r system yn camddeall bod erthyglau yn unigryw oherwydd diffyg cysylltau)
  • Cynnig cyfle i bobl greu cyfieithiadau ar fersiynau eraill o Wicipedia – os maen nhw yn awyddus i wneud hynny, sbo

Yn yr achos olaf os ydych chi’n creu cyfieithiadau ayyb byddech chi’n wneud Wicipedia Cymraeg yn llai unigryw mewn ffordd. Ond mae rhesymau iawn am wneud hynny weithiau! Dw i ddim yn gallu rheoli sut mae pobl yn manteisio ar y gwybodaeth.

Datblygiad

Byddai hi’n neis postio delweddau hefyd. Dydy Wicipedia ddim yn rhannu cardiau Twitter; byddai angen i mi ychwanegu cod i gipio mân-luniau ar gyfer trydariadau hefyd. Dyna un i fy rhestr o nodweddion arfaethedig.

Gallwn i greu cyfrif arall sy’n postio’r dolenni coch er mwyn annog rhagor o fewnbwn a thwf Wicipedia Cymraeg.

I’r rhai sy’n chwilfrydig mae fy ngweinydd yn rhedeg sgript php drwy cron job. Mae’r sgript yn wneud ceisiadau am JSON drwy API Wicipedia ac yn defnyddio codebird-php i drydar.

Gweler archifau’r tag UnigrywUnigryw am ragor o ddiweddariadau.

6 Ateb i “@UnigrywUnigryw – erthyglau sydd ond ar Wicipedia Cymraeg”

  1. Gwych iawn. Mi fydd yna *lot* o lyfrau yn dod trwyddo dwi’n meddwl. Mae’r catalog llyfrau yn beth da ar Wicipedia, ond fydd hwn yn dangos eu bod nhw’n gorlwytho’r wybodaeth yno fymryn?

    Oes modd troi categoriau mewn i hashnodau’n awtomatig? Sa hynny’n ddefnyddiol, er mwyn diamwyso (disambiguate, innit).

  2. Syniad da am hashnodau, gawn ni weld.

    Mae lot o lyfrau, yn wir. Efallai bod angen creu neu fewnforio rhagor o bethau eraill!

    Dw i’n defnyddio nodwedd erthygl randym yr API. Dw i ddim wedi edrych at yr union ffordd o ddewis erthygl ond mae e hyd yn hyn wedi cynnig erthyglau o ansawdd.

Mae'r sylwadau wedi cau.