Blogiau lleol am Cardiff, Cymru

Mae tair enghraifft o wefannau am newyddion lleol yn y brifddinas yn dechrau.

  1. Bydd y blog The Guardian gan ‘beatblogger’ lleol yn dechrau cyn hir. Roedd Guardian yn esbonio’r meddyliau a staff tu ôl y fenter. Twitter: GdnCardiff
  2. Mae yourCardiff newydd wedi cael eu lansiad gan Media Wales. Mae 16 person gwahanol yn cyfrannu ond mae un person yn unig yn gweithio fel gweithiwr i Media Wales. Mae’r cyfranwyr eraill yn sgwennu i ddweud straeon, hybu digwyddiadau a rhannu profiadau. Twitter: yourcardiff
  3. Capture Cardiff yw rhywbeth hollol annibynnol o gwmniau cyfryngau traddodiadol. Mae llawer o bobol yn cyfrannu. Twitter: capturecardiff

Mae enghreifftiau eraill yn bodoli yn barod siŵr o fod. Ond ro’n i eisiau sôn am Capture Cardiff. Mae’r wefan yn dangos sut ti’n gallu dechrau blog lleol ar dy ben dy hun. Gyda chyfeillion.

Mae yourCardiff a Capture Cardiff yn defnyddio WordPress – meddalwedd rydd ac am ddim. Prynodd rhywun yr enw parth capturecardiff.com ar y diwedd mis Ionawr a dechreuodd yn syth.

Pobol Caerdydd, ydyn ni eisiau rhywbeth fel hwn yn Gymraeg? Neu… rhywbeth gwahanol? Ble mae’r ‘cymuned Cymraeg yng Nghaerdydd’ yn bodoli? Wyt ti’n gallu siarad am y ‘gymuned Cymraeg’ yng Nghaerdydd? Mae’r papur bro’r Dinesydd gyda ni bob mis wrth gwrs. Ond mae llawer mwy o bethau eraill yn digwydd!

Dyn ni’n gallu darllen The Guardian. Bydd e’n dda, dw i’n siŵr. (Bydd e’n edrych fel y blog Leeds.) Ond ble mae’r lleisiau Cymraeg am newyddion ym mhrifddinas Cymru? (Newidiais i’r teitl i ddweud Cardiff wrth ddechrau trafodaeth.)

Ti’n gallu newid dy ardal pan ti’n tynnu pobol at ei gilydd. Mae llawer o gyfleoedd i gael lleisiau sy wedi bod yn anweledig. Mae rhywun arall yn gallu trafod ieithoedd eraill yng Nghaerdydd.

Beth am y fro Gymraeg a phapurau bro yn y cyd-destun hwn? Dyn ni’n casglu enghraifftiau eraill ledled Cymru ar y dudalen Hedyn.

Mae sgwrs newyddion lleol yn digwydd ar y wefan Hacio’r Iaith hefyd.

Gyda llaw, mae Caerdydd yn rhy fawr i ddefnyddio’r gair hyperlocal am yr enghraifftiau yma. Mae golygiad y gair yn benodol iawn. Basai hyperlocal yw rhywbeth yn ardal yn unig, neu weithiau stryd yn unig. (‘Splottify’ unrhyw un?).

Llun gan iwouldstay

Ti’n gallu newid dy ardal pan ti’n tynnu pobol at ei gilydd. Mae rhywun arall yn gallu trafod ieithoedd eraill yng Nghaerdydd.

Beth am y fro Gymraeg a phapurau bro yn y cyd-destun hwn? (Machynlleth?) Dyn ni’n casglu enghreifftiau eraill ledled Cymru ar y dudalen Hedyn.

haciaith.com – Enghraifft cyntaf o P2 yn Gymraeg

Wnes i ddefnyddio’r thema P2 dwywaith cynt:

  • Blog preifat “tu ôl i’r wal-tân” am blogio am brosiect mewn grŵp (well na ebost weithiau)
  • geekcluster.org (grŵp hacio, caledwedd ayyb, bob mis)

Nawr:

  • Mae Hacio’r Iaith yn digwydd penwythnos yma yn Aberystwyth. Dyn ni wedi cyfieithu’r thema yn arbennig. Dyn ni’n profi’r thema gyda 40 person ar haciaith.com am blogio byw. Gobeithio bydd y peth cyfan yn gweithio dros y penwythnos heb broblemau mawr. Awn ni weld…

Thema P2 am WordPress ar gael yn Gymraeg

Dw i’n caru’r thema P2 am WordPress. Mae’n wych am gymunedau bach, nodiadau datblygu, blogio byw, ayyb.

Dyn ni newydd wedi cyfieithu’r thema. Ti’n gallu lawrlwytho fersiwn Cymraeg yma:
cy.po
cy.mo

Diolch i Bryn Salisbury, Rhys Wynne a Rhodri ap Dyfrig am eich help gyda’r cyfieithiad. Diolch i WordPress ac Automattic hefyd.

Ti’n gallu defnyddio’r cyfieithiad gyda dy wefan dy hun. Darllena GPL.

YCHWANEGOL 02/02/10: Os ti’n chwilio am feddalwedd yn y Gymraeg (neu eisiau rhannu cyfieithiadau a stwff, dan drwydded meddalwedd rydd) efallai dylet ti ymweld a chyfrannu’r wici Hedyn. Diolch.

Pam dylet ti agor dy broffil Twitter

Twitter

Dw i wastad yn siomedig pan mae siaradwyr Cymraeg yn cau proffiliau nhw.

Dw i’n dal i gasglu cofrestr o proffiliau Cymraeg. Ewch i’r gofrestr a darllena pobol eraill sy’n rhannu pethau. Diolch iddyn nhw. Dyn ni’n adeiladu’r rhwydwaith Cymraeg person wrth berson.

Mae Twitter yn gweithio yn dda pan ti’n agor dy broffil i bobol eraill a chwilio. Ti’n gallu gofyn cwestiynau, addysgu pobol eraill, dylanwadu pobol eraill, helpu dysgwr efallai. Mae pobol yn gallu nabod dy ddiddordebau a chynnig gwaith, swyddi a phethau diddorol.

Mae’r ymgyrch yn dechrau yma! Agora dy broffil. Pam lai?

Bydd yn dipyn gofalus gyda phethau ti’n postio. Mae pawb yn gallu darllen nhw. Dyna’r pwynt. Ond fydd pawb ddim yn darllen nhw rili. Dylet ti ddeall geotagging os ti’n defnyddio ffôn.

Agora dy broffil! (Ewch i Settings, cliria “protect my tweets”. Bocs gwag. Diolch.)

Neu os ti eisiau cael proffil preifat, dechrau proffil arall agored.

Wrth gwrs, ti’n gallu penderfynu pa fath o gyfrif ti eisiau rhedeg. Dw i wedi trio opsiwn preifat yn y llun yma. Ond dw i wedi troi’r opsiwn yn ôl yn sydyn. Dw i eisiau cyfrannu i’r we agor.

Dw i’n sôn am yr iaith hefyd wrth gwrs.

Os ti’n cau dy gyfrif, byddi di’n anweledig! A bydd dy iaith Gymraeg yn anweledig hefyd.

Cofrestrau defnyddiol ar Hedyn

Dw i dal yn meddwl am y rhwydwaith Cymraeg arlein. Dw i newydd wedi creu tair cofrestr:

Mae cofrestr fwyaf ar Twitter yw carlmorris/cymraeg gyda 262 siaradwr ar hyn o bryd. Maen nhw i gyd yn rhugl ac eithrio ychydig o ddysgwyr.

Ymuna Hedyn a ychwanega unrhyw beth perthnasol. Dyn ni eisiau cadw cofrestr o hen gynnwys hefyd.

Y Geocities Nesaf

A cautionary example about who you trust with your stuff. Blog post in Welsh, use Google Translate if you want the gist in another language.

Mae Geocities wedi cau heddiw a rydyn ni wedi colli llawer o safleoedd o’r 90au.

Dw i erioed wedi dechrau safle ar Geocities ond dw i’n teimlo’r poen heddiw. Pam? Dw i’n meddwl am y cyfraniadau mawr i diwylliannau arlein, gwaith caled a breuddwydion gan pobol o gwmpas y byd.

Gofiaist ti papur, finyl ayyb? Ydyn ni’n byw yn yr unig oes pan dydy pobol ddim yn recordio eu stwff yn iawn?

Collen ni safleoedd Cymraeg ar Geocities (darllena’r post Geocities gan Dafydd). Dw i’n meddwl am y canlyniadau – am y we Cymraeg. Dw i dal yn meddwl bod Cymraeg yn rhy dawel arlein beth bynnag.

Pa safleoedd dyn ni’n colli nesaf?

Efallai fy hen cwmni meddalwedd wreiddiol pan o’n i’n ifanc, ar Angelfire! (Rhywle arall ar y hinternet).

Dw i’n clywed bod MySpace yn colli arian ar hyn o bryd a dydy Rupert Murdoch, pennaeth News Corporation, ddim yn deall e.

Ydy cwmniau mawr yn poeni am dy cynnwys? Neu Cymraeg? Nac ydy, dim llawer – yn y tymor hir, mae diddordebau gwahanol gyda nhw.

Yn cyffredin, pan rwyt ti’n defnyddio gwasanaethau am ddim, dwyt ti ddim yn rheoli cynnwys dy hun. Bydd yn ofalus os ti’n cadw dy syniadau a gwaith ar unrhyw safleoedd fel ’na. Fel arfer mae’n anodd iawn i allforio dy cynnwys.

(Facebook, dw i’n edrych at ti. Gallwn i sgwennu mwy am Facebook. Efallai tro nesaf.)

Dyma pam dw i’n defnyddio WordPress fy hun ar safle fy hun. Dw i ddim yn dibynnu ar wordpress.com – mae nhw yn gallu newid y gwasanaeth. Dw i’n newid fy safle pan dw i eisiau. Mae WordPress yn cryf ar hyn o bryd wrth gwrs ond mae’n wella i bod yn annibynnol gyda enw parth dy hun.

Gyda llaw, dw i’n rheoli fy hunaniaeth a phrofiad darllenwyr. Does dim ots gyda fi os mae fy dylunio yn ddrwg. Dyna FY dylunio!

Dydy gwasanaethau tanysgrifiad ddim yn diogel chwaith, e.g. Sidekick.

Dw i’n awgrymu dau blog am pethau pwysig fel hwn – Dave Winer a Chris Messina.

Mae nhw yn sgwrsio am ffyrdd i datblygu’r we ac amddiffyn y we agor. Hoffwn i datblygu eu syniadau yn y cyd-destun y we Cymraeg.

Cyflwyniad The Januarist (Sut i Dechrau Blog Dy Hun)

Starting a group blog about an interesting subject is easier than most people think. This post is an introduction to The Januarist, a new group blog at which I’m a co-founder and contributor. The Januarist is in English, but I thought I’d write this post in Welsh. You can use Google Translate to get a rough gist in English.

Y mis diwethaf, wnaethon ni cwrdd yn y dafarn. Trafodon ni technoleg, dylunio, hanes, celf, cerddoriaeth a pethau diddorol eraill.

Dyn ni’n gallu anghofio gwersi gorffenol pan dyn ni’n dilyn technoleg a dyluno yn y presennol. Weithiau, the future is over-rated. Ond weithiau dyn ni’n edrych yn ôl ac edrych ymlaen.

Nawr, dyn ni wedi dechrau rhywbeth arlein, The Januarist. Byddan ni archwilio a mwynhau syniadau.

Dw i wedi sgwennu i fy post cyntaf. Mae gen i albwm Metal Box gan Public Image Ltd a dw i’n meddwl mae’n enghraifft o ffurfiau cerddoriaeth gwahanol trwy’r amser, fel microcosm. Hefyd dw i’n cyflwyno fy syniad am y dyfodol y blog. Darllena Public Image Ltd’s Metal Box, Reconsidered os ti eisiau.

Oedd hi’n dechrau da – dw i ddim yn sicr beth fydda i sgwennu tro nesaf. Hoffwn i sgwennu pob post dan 30 munud. Fel parhad rhaglen teledu. A mwy hwyl na teledu, gan amlaf. Neu fel tua 10 negeseuon Twitter.

Efallai dyn ni’n codi arian trwy’r dolenni Amazon Associates. Awn ni weld. Ond dyn ni ddim yn poeni lot oherwydd byddan ni mwynhau’r prosiect beth bynnag.

Heddiw, mae’n hawdd iawn i dechrau cyfryngau dy hun. Rwyt ti’n gallu defnyddio meddalwedd am ddim.

Beth faset ti’n wneud?

Efallai rwyt ti’n weld yr enghraifft. Dychmyga syniad dy hun yn y Gymraeg. (Dw i ddim yn barod i dechrau blog fawr yn y Gymraeg, darllena fy gramadeg yma!)

Wrth gwrs, mae’n hawdd i dechrau ond mae’n hawsa i barhau prosiectau fel ’na gyda dy gyfeillion. (Dw i ddim yn nabod pob awdur ar The Januarist! Gobeithio dyn ni’n gallu cwrdd yn y dyfodol.)

Ar hyn o bryd, dw i’n gallu darllen pob blog grwp yn y Gymraeg cyn brecwast. Mae’n braf i weld newyddian a barnau Gymraeg ar Metastwnsh, er enghraifft. Ond rwyt ti’n gallu sgwennu am unrhyw beth. Basai’n braf i weld enghraifftiau eraill. Dros yr Eisteddfod eleni, darllenais i cylchgrawn bach gan Cravos gyda manylion ffansins – sut i dechrau ffansin dy hun ayyb. Dw i’n bwriadu i gymorth blogio yn y Gymraeg fel y cylchgrawn hon. Teimla’r ysbrydoliaeth!

Diolch i

  • WordPress (ewch i WordPress.org, gallet ti rhedeg côd-agor ar dy llety)

Diolch i plug-ins

Mae Matt Cutts o Google yn awgymell SEO plug-ins yma.

Mae WordPress.tv yn defnyddiol os ti’n dechrau. (Gawn ni cyfieithiad plis hefyd?)

Gyda llaw, does dim rhaid i ti bod yn geek. Os dwyt ti ddim eisiau rhedeg sefydliad WordPress dy hun, efallai gallet ti dechrau blog gyflym dy hun. Anfona ebost i post@posterous.com – anfona “helo, prawf” neu rhywbeth debyg. Gwela beth sy’n digwydd. Syndod.