Diwygio newyddion o Lundain am faterion datganoledig: tuag at brosiect

O safbwynt Cymru mae problem amlwg o ddiffyg cywirdeb pan mae’r cyfryngau yn Llundain yn adrodd straeon am faterion datganoledig.

Er enghraifft mewn stori am addysg neu iechyd yn Lloegr mae’r papurau, teledu neu radio yn cyfeirio yn anghywir at y Deyrnas Unedig neu’n methu cyfeirio at unrhyw wlad o gwbl. Neu mae diffyg sylw i’r gwahaniaethau hynod bwysig o ran deddfwriaeth a pholisi rhwng Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Lloegr.

Wrth gwrs mae hyn yn gallu arwain ar ddryswch, a diffyg ymwybyddiaeth o le mae pwerau a phwy sy’n atebol. Er gwaethaf ymdrechion cyfryngau sy’n canolbwyntio ar faterion Cymreig mae canran sylweddol o bobl yng Nghymru sy’n derbyn newyddion camarweiniol, wrth gyfryngau Llundain gan amlaf.

Mae prosiect That’s Devolved yn tynnu sylw at enghreifftiau yn gyson. Mae rhai achosion lle mae’r newyddiadurwyr a golygyddion wedi cywiro penawdau a straeon fel canlyniad. O safbwynt datganoli mae’n gweithio’n dda. Mae’n siŵr bod llawer o ddarllenwyr wedi dysgu mwy am rymoedd Senedd Cymru, Senedd Yr Alban, a Stormont trwy ymdrechion y prosiect.

Sbel yn ôl oeddwn i’n meddwl am safbwynt y newyddiadurwyr eu hunain. Ces i ambell sgwrs gydag arbenigwyr a ffrindiau amdano fe. A oes modd creu ymgyrch neu adnodd i’w defnyddio mewn ymateb i’r newyddiadurwyr hyn, a cheisio newid agweddau?

Y canlyniad oedd gwefan a greais o’r enw Say England.

Y rhesymeg oedd i gyfleu’r broblem o safbwynt mae’r rhan fwyaf o newyddiadurwyr Lloegr yn deall – safbwynt Lloegr.

Mae hi’n anoddach cael y rhan fwyaf i fecso am Gymru na feddwl bod hi’n werth ceisio deall ’datganoli’. (Mae’r ychydig rhai sydd yn talu sylw yn arbennig iawn.)

Ar hyn o bryd un tudalen yn unig yw gwefan Say England, sydd yn cynnwys rhai pwyntiau o gyngor i newyddiadurwyr ac eraill. Mae modd postio hi mewn ymatebion ar y cyfryngau cymdeithasol trwy’r dydd bob dydd.

Mae’n enwi swyddi eraill sydd yn ran o adroddiant y cyfryngau, pobl sydd ddim yn cyfleu’r sefyllfa yn iawn – am lawer o resymau.

Yn anffodus mae’r wefan yn brosiect sydd ddim wedi’i gyflawni na lansio. Am un peth dw i’n dad bellach ac mae llawer o brosiectau ac ymrwymiadau eraill ymlaen – dydy’r un yma ddim yn ffitio’n daclus gyda’r gweddill.

Rydych chi efallai yn gweld ei botensial, o bosib i ddefnyddio’r wefan fel pwynt canolog ar gyfer cynnwys i’w rannu, ymgyrchoedd, diweddariadau ar lwyddiannau, rhestrau o dda, drwg a’r hyll, neu rywbeth arall.

Byddwn i’n ystyried rhoi’r enw parth i unrhyw un egwyddorol a brwdfrydig sydd eisiau ei gymryd ymlaen, defnyddio a datblygu.

Gadewch wybod yn y sylwadau isod neu drwy e-bost os ydych chi eisiau cymryd dros y prosiect.

Cwyn i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig am enedigaeth a hunaniaeth genedlaethol

Dyma gopi o gwyn dw i wedi anfon ddydd Iau trwy’r ffurflen ar bbc.co.uk, ac dw i hefyd wedi nodi bod eisiau ymateb.

Parthed:

Cwyno ydw i am eiriad yr eitem uchod ar y sail bod hi’n:

  1. anghywir
  2. anghyfrifol.

Rydych chi’n defnyddio’r termau ‘foreign people’ a ‘foreign workers’ er mwyn cyfeirio at gategorïau o bobl. Mae hyn yn gategorïau mor eang ac amrywiol, ond nid oes ystyriaeth gywir o hunaniaeth personol neu hyd yn oed statws cenedligrwydd yn ôl yr awdurdodau.

Y gwir yw bod nifer sylweddol o bobl sydd yn ystyried eu hunain fel dinasyddion llawn o’r wlad, ac yn cael eu hystyried yn yr un modd gan yr awdurdodau, wedi eu geni tu allan i’r Deyrnas Gyfunol. Ni ddylid defnyddio’r termau felly.

Mae cyfrifoldeb ar y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig fel darlledwr dylanwadol i fod yn eithriadol o sensitif wrth geisio sôn am hil, mewnfudo, hunaniaeth, man geni, ac ati. Mae holl fframio golygyddol yr eitem yn broblemus ac o ran y ffeithiau yn groes i’ch Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant (yn enwedig tudalen 10).

Diolch am bob ystyriaeth

Carl Morris

DIWEDDARIAD 31/12/2019:

Dyma ymateb wrth y gorfforaeth sydd yn cadarnhau bod y cwyn wedi cyrraedd ond yn osgoi trafod y mater.

Annwyl Carl Morris

Diolch am gysylltu â ni gyda’ch cwyn.

Mae’n ddrwg gennym glywed eich bod yn anhapus gyda geiriad yr adroddiad dan sylw.

Hoffwn eich sicrhau ein bod wedi dod a’r mater at sylw’r tim golygyddol a’r uwch rheolwyr perthnasol.

Rydym hefyd wedi cynnwys crynodeb o’ch cwyn yn ein hadroddiadau mewnol am ymateb y gynulleidfa sydd ar gael i gynhyrchwyr rhaglenni a phenaethiaid y BBC. Yn wir, rydym bob amser yn falch o dderbyn adborth, boed yn dda neu ddrwg, gan ei fod yn ein cynorthwyo i werthuso ein gwasanaethau.

Diolch i chi eto am gysylltu gyda’ch sylwadau.

Yn gywir

Uned Gwynion y BBC

http://www.bbc.co.uk/complaints/handle-complaint/?lang=cy

DS: Mae’r neges hon yn cael ei hanfon o gyfrif e-bost nad yw’n cael ei fonitro. Ni allwch ateb i’r cyfeiriad hwn. Os bydd angen i chi gysylltu â ni os gwelwch yn dda gwnewch hynny drwy ein ffurflen gwynion gan ddyfynnu unrhyw gyfeirnod a ddarparwyd gennym ni.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh and in English.

Mae arafwch newyddion Cymraeg yn gymaint o siom.

Mae sut gymaint o newyddion pwysig wedi torri yn y pythefnos diwethaf.

Ac mae fe bron i gyd drwy gyfrwng y Saesneg ac ieithoedd eraill.

Mae newyddion yn arafach yn Gymraeg. Ffaith.

Cywirwch fi os mae hyn yn anghywir ond dw i ddim yn credu bod ’na graffeg yn Gymraeg fel y cerdyn uchod.

Ydy llai o bethau sydd o ddiddordeb i wylwyr/ddarllenwyr Cymraeg fel ni yn digwydd yn y byd? Nac ydy.

Ydy’r newyddion yn gyffredinol yn effeithio arnom ni i raddfa lai? Nac ydy.

Oes ’na diffyg awydd ar ran penaethiaid ein sefydliadau a chwmnïau cyfryngol i fentro ac ymdrechu i adrodd newyddion ‘poeth’ yn Gymraeg tra bod e’n digwydd? Oes.

Oes ’na llai o gystadleuaeth ymhlith mentrau newyddion Cymraeg, llai o gystadlu am sylw drwy geisio adrodd yn gyflym? Oes.

Ydy hi’n symptom o diffyg adnoddau a diffyg buddsoddiad? Ydy, yn sicr.

Mae newyddion yn ddrud. Yn y Saesneg mae’r Guardian wedi dechrau adrodd rhagor o newyddion o’r UDA achos dyna le mae mwy o lygaid a mwy o farchnad hysbysebion. Mae hyn yn her fach i newyddion am wledydd Prydain, heb sôn am y Gymraeg.

Wrth gwrs mae amddiffyn y gwaith da sy’n digwydd eisoes yn Gymraeg yn digon o her drwy’r amser.

Er nad ydynt yn defnyddio’r union dermau mae plant weddol ifanc yn sylweddoli bod newyddion yn Gymraeg yn arafach.

Mae plant yn gweld pethau fel hyn mewn byd yr oedolion fel y niferoedd cymharol isel o gemau fideo, ffilmiau, cylchgronau, bwydlenni, crysau-t, hysbysebion, ac ati yn Gymraeg. Gweler hefyd: os nad yw Prif Weinidog Cymru yn defnyddio’r Gymraeg maen nhw yn sylwi.

Fydda i ddim yn hapus nes bod newyddion yn Gymraeg cystal â newyddion Saesneg – cyflym, rhyngwladol, amrywiol, amlgyfrwng, dwfn, cyfoethog. Fydda i ddim yn hapus nes bod y cyfryngau yn holliach yn Gymraeg a chystal ag unrhyw iaith arall. Dw i’n gwybod bod hyn i gyd yn hollol afrealistig ond dyna ni.

Tra ein bod ni’n ceisio meddwl am ffyrdd o ddatblygu’r maes yma (sori, dim datrysiadau heddiw!) dylen ni ystyried cefnogi cyfrifon fel @elliwsan, @owen_garry, @sianeaber sy’n ceisio torri newyddion yn Gymraeg. Oes ’na rhai eraill?

Pob bendith i’r bobl eraill yma sy’n ceisio ein cyffroi drwy ddefnydd o’r geiriad ‘newyddion yn torri‘ ar Twitter!

Down ni â rhagor ar hyn tra bod y sefyllfa yn datblygu.

Cwestiynu’r brif newyddion yn ôl BBC Cymru Fyw heddiw

Pennaeth canolfan Gymraeg yn ymddiswyddo.

Dyna’r brif stori ar wasanaeth newyddion Cymraeg y BBC ers chwe awr heddiw.

Dw i ddim yn dweud bod hi ddim yn addas fel stori fach o ddiddordeb i rai o bobl.

Ond ai dyna yw’r brif stori go iawn heddiw?

Mae ymwelwyr Cymraeg angen gwybod am yr economi, gwleidyddiaeth, trafnidiaeth, iechyd, addysg ac yn y blaen. Hefyd, ble mae’r newyddion rhyngwladol?

Dw i wedi sôn am hynny o’r blaen. Dw i’n hoff o BBC Cymru Fyw a dw i ddim yn rhoi bai ar y tîm newyddiadurol yng Nghymru o gwbl. Mae potensial i wneud rhywbeth gwell. Ai dyma yw’r peth gorau sy’n bosib yn y Gymraeg?

Mae’r sefyllfa yma yn adlewyrchu problemau sylfaenol gyda’r ffordd mae’r BBC fel corfforaeth yn ystyried y Gymraeg, iaith isradd ar gyfer materion plwyfol yn unig, iaith sydd ddim yn haeddu cael delio gydag unrhyw beth o bwys.

Ond mae dyletswydd ar y BBC i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus. ‘Hysbysu, addysgu a diddanu’ yw slogan y gorfforaeth. Yn y Gymraeg ar-lein dw i ddim yn gweld sut mae’r gorfforaeth yn llwyddo i gyrraedd y nod hynny.

Profiad cyntaf o bostio ar BuzzFeed

Dw i’n chwilfrydig am BuzzFeed ac wedi postio cofnod am eiriau Cymraeg heno. Dylai pobl fel BBC Radio Wales creu pethau fel hyn yn lle annog gwrandawyr i ymosod ar yr iaith!

Ar hyn o bryd nad yw’r dolenni allanol (rysáit y cawl ayyb) na’r fideo YouTube (Rhys Iorwerth ar y bidet, fel petai) yn gweithio felly dw i wedi gofyn i BuzzFeed am help. Gweler diweddariad isod.

Wedyn byddai fe’n hwyl i fynd yn ‘feiral’ gyda rhywbeth Cymreig – o leiaf unwaith. Pam ddim? Wedyn dw i moyn creu ambell i listicle arall (list + article). Eisoes mae Lois Gwenllian wedi creu listicle ar y 90au ac mae Nwdls yn cynnig ‘rhestryn’, ‘rhestripŵs’ i ddechrau’r sgwrs derminoleg hanfodol yma.

T.H. Parry-Williams

Gyda llaw yn y broses o bostio i BuzzFeed creuais i fy GIF wedi’i animeiddio cyntaf. Dw i’n credu bod defnydd o GIMP yn haws na beth gwnes i. Dw i’n bwriadu sgwennu canllaw ar Hedyn ar sut i greu ffeiliau GIF cyn hir i’r rhai sydd eisiau gwneud pethau fel T.H.P.W. uchod.

Y tro yma yn hytrach na GIMP gwnes i gyfres o orchmynion ImageMagick ar Lubuntu (hynny yw, Linux). Roedd y broses bach yn hirwyntog: ar ôl i mi gipio rhaglen oddi ar S4C Clic, gwnes i dynnu fframiau unigol fel llwyth o ffeiliau JPG ac wedyn tynnu nhw at eu gilydd i greu’r GIF.

DIWEDDARIAD 1/04/2013: Mae BuzzFeed wedi ymateb:

Rachel Brandt (BuzzFeed)
Apr 01 12:15 PM

Hi,

When new users make posts, embeds and links don’t work until their account has been “approved.” This is to prevent spammers from publishing posts that are links to their spammy web sites or videos, but it has the unfortunate consequence of affecting good users who are trying to use links or videos for good reasons.

Normally, we like new users to be a part of the BuzzFeed community prior to creating posts with links, so that is why you were running into issues. However, as an exception, I just went in and moderated your account for you. Since your account has now been approved, it won’t happen anymore to your posts. Please allow the cache to clear (should take about 15 minutes) and then your links should be good to go. Let me know if you need anything else.

Thanks,

Rachel

Gwendid newyddion BBC – rhan 2

Cofia’r dolen i Gymru ar brif dudalen BBC News?

Roedd dewis ‘Wales’ am newyddion yn Saesneg a ‘Cymru’ am newyddion yn Gymraeg.

Mae’r BBC newydd cael gwared â’r dolen ‘Cymru’ rhywbryd wythnos yma. Does dim cyfeiriad i Gymru ar y tudalen bellach.

Mae’r prif dudalen yn ddarn o real estate pwysig iawn ac mae’r blaenoriaethau yna yn adlewyrchu blaenoriaethau’r sefydliad. Cer i’r prif dudalen http://www.bbc.co.uk/news/. Neu hyd yn oed http://www.bbc.co.uk/news/wales/!

Mae’r adran newyddion yn Gymraeg yn cuddio rhywle. Ydyn nhw eisiau hyrwyddo’r adran felly? Faint o ymwelwyr fydd yn dod ar draws yr adran nawr? Cofia mae BBC wedi gwneud arferiad o gynnig gwasanaethau Cymraeg (fel Chwaraeon) dan y cownter cyn iddyn nhw eu lladd.

Dw i wedi trio ychwanegu Cymru fel lleoliad ar fy fersiwn personol o’r tudalen ond mae’r system yn dehongli’r gair fel ‘Chinnor, Oxfordshire’. Ydy e’n gweithio i ti? Efallai os rydyn ni i gyd yn trio bob dydd byddan nhw yn derbyn y neges?

Gyda llaw dyma rhai o’r blaenoriaethau ar y brif dudalen heno:

  • Latin America
  • BBC World Service – News and analysis in 27 languages (ieithoedd eraill)
  • Uniforms quiz – Do you know your Grange Hill badges?
  • High drama – Painted ladies and bamboo music – a guide to Chinese opera
  • Bottled bronze – When did fake tan become the new norm?

Gweler rhan 1 os ti ddim yn ddigon blin eisoes.

Gwendid newyddion BBC

O’n i’n pori y wefan BBC neithiwr. Dw i newydd creu set ar Flickr o’r tudalennau blaen Newyddion BBC yn amrywiaeth o ieithoedd gwahanol. Mae pob un yn sôn am Tripoli a Gaddafi: Saesneg, Sbaeneg, Rwsieg, Arabeg, Tsieinëg. Yr unig eithriad yw Cymraeg.

Newyddion BBCMae darpariaeth Cymraeg ar-lein gan BBC wedi cael toriadau eraill yn ddiweddar (gweler marwoliaeth BBC Chwaraeon hefyd). Mae’r straeon ‘Carchar am annog terfysg’ a ‘Carcharu aelod Cymdeithas yr Iaith’ yn bwysig a pherthnasol i ddarllenwyr Cymraeg ond ble mae’r newyddion y byd? Mae’r model Golwg360 yn dda – blaenoriaeth i straeon y byd a straeon i ddiddordeb i ddarllenwyr Cymraeg.

Hoffwn i ofyn cwestiynau eraill am y gwasanaeth Cymraeg newyddion newynog.

Ble mae’r dyluniad newydd achos mae’n edrych fel y dyluniad o 2008 neu rhywbeth (gweler hefyd: Gaeleg)? Ydy siaradwyr Cymraeg yn disgwyl llai o safon yn y dyluniad?

Ble mae’r sain a fideo newydd achos bore ’ma maen nhw yn dangos rhai o’r un fideos o straeon Dydd Llun, dau diwrnod yn ôl?

Faint o bobol sy’n siarad rhai o’r ieithoedd eraill fydd yn gweld eisiau eu gwasanaethau os fydd angen toriadau rhywle? Gwnaf i dewis enghraifft: Sbaeneg. Sori am ddewis Sbaeneg ond faint o siaradwyr Sbaeneg fydd yn sylwi toriadau yn y gwasanaeth BBC os mae iaith o Brydain angen tipyn bach mwy o bluraliaeth?

Wrth gwrs mae pobol wedi gofyn yr un cwestiynau yma am wasanaethau eraill fel radio dros y blynyddoedd. Does dim problem gyda gweithwyr BBC sydd yn wneud job dda gydag adnoddau sydd ar gael. Dw i eisiau gwybod beth mae pobol sy’n wneud y penderfyniadau cyllidebol yn meddwl.

Blogiau lleol am Cardiff, Cymru

Mae tair enghraifft o wefannau am newyddion lleol yn y brifddinas yn dechrau.

  1. Bydd y blog The Guardian gan ‘beatblogger’ lleol yn dechrau cyn hir. Roedd Guardian yn esbonio’r meddyliau a staff tu ôl y fenter. Twitter: GdnCardiff
  2. Mae yourCardiff newydd wedi cael eu lansiad gan Media Wales. Mae 16 person gwahanol yn cyfrannu ond mae un person yn unig yn gweithio fel gweithiwr i Media Wales. Mae’r cyfranwyr eraill yn sgwennu i ddweud straeon, hybu digwyddiadau a rhannu profiadau. Twitter: yourcardiff
  3. Capture Cardiff yw rhywbeth hollol annibynnol o gwmniau cyfryngau traddodiadol. Mae llawer o bobol yn cyfrannu. Twitter: capturecardiff

Mae enghreifftiau eraill yn bodoli yn barod siŵr o fod. Ond ro’n i eisiau sôn am Capture Cardiff. Mae’r wefan yn dangos sut ti’n gallu dechrau blog lleol ar dy ben dy hun. Gyda chyfeillion.

Mae yourCardiff a Capture Cardiff yn defnyddio WordPress – meddalwedd rydd ac am ddim. Prynodd rhywun yr enw parth capturecardiff.com ar y diwedd mis Ionawr a dechreuodd yn syth.

Pobol Caerdydd, ydyn ni eisiau rhywbeth fel hwn yn Gymraeg? Neu… rhywbeth gwahanol? Ble mae’r ‘cymuned Cymraeg yng Nghaerdydd’ yn bodoli? Wyt ti’n gallu siarad am y ‘gymuned Cymraeg’ yng Nghaerdydd? Mae’r papur bro’r Dinesydd gyda ni bob mis wrth gwrs. Ond mae llawer mwy o bethau eraill yn digwydd!

Dyn ni’n gallu darllen The Guardian. Bydd e’n dda, dw i’n siŵr. (Bydd e’n edrych fel y blog Leeds.) Ond ble mae’r lleisiau Cymraeg am newyddion ym mhrifddinas Cymru? (Newidiais i’r teitl i ddweud Cardiff wrth ddechrau trafodaeth.)

Ti’n gallu newid dy ardal pan ti’n tynnu pobol at ei gilydd. Mae llawer o gyfleoedd i gael lleisiau sy wedi bod yn anweledig. Mae rhywun arall yn gallu trafod ieithoedd eraill yng Nghaerdydd.

Beth am y fro Gymraeg a phapurau bro yn y cyd-destun hwn? Dyn ni’n casglu enghraifftiau eraill ledled Cymru ar y dudalen Hedyn.

Mae sgwrs newyddion lleol yn digwydd ar y wefan Hacio’r Iaith hefyd.

Gyda llaw, mae Caerdydd yn rhy fawr i ddefnyddio’r gair hyperlocal am yr enghraifftiau yma. Mae golygiad y gair yn benodol iawn. Basai hyperlocal yw rhywbeth yn ardal yn unig, neu weithiau stryd yn unig. (‘Splottify’ unrhyw un?).

Llun gan iwouldstay

Ti’n gallu newid dy ardal pan ti’n tynnu pobol at ei gilydd. Mae rhywun arall yn gallu trafod ieithoedd eraill yng Nghaerdydd.

Beth am y fro Gymraeg a phapurau bro yn y cyd-destun hwn? (Machynlleth?) Dyn ni’n casglu enghreifftiau eraill ledled Cymru ar y dudalen Hedyn.