Gwendid newyddion BBC

O’n i’n pori y wefan BBC neithiwr. Dw i newydd creu set ar Flickr o’r tudalennau blaen Newyddion BBC yn amrywiaeth o ieithoedd gwahanol. Mae pob un yn sôn am Tripoli a Gaddafi: Saesneg, Sbaeneg, Rwsieg, Arabeg, Tsieinëg. Yr unig eithriad yw Cymraeg.

Newyddion BBCMae darpariaeth Cymraeg ar-lein gan BBC wedi cael toriadau eraill yn ddiweddar (gweler marwoliaeth BBC Chwaraeon hefyd). Mae’r straeon ‘Carchar am annog terfysg’ a ‘Carcharu aelod Cymdeithas yr Iaith’ yn bwysig a pherthnasol i ddarllenwyr Cymraeg ond ble mae’r newyddion y byd? Mae’r model Golwg360 yn dda – blaenoriaeth i straeon y byd a straeon i ddiddordeb i ddarllenwyr Cymraeg.

Hoffwn i ofyn cwestiynau eraill am y gwasanaeth Cymraeg newyddion newynog.

Ble mae’r dyluniad newydd achos mae’n edrych fel y dyluniad o 2008 neu rhywbeth (gweler hefyd: Gaeleg)? Ydy siaradwyr Cymraeg yn disgwyl llai o safon yn y dyluniad?

Ble mae’r sain a fideo newydd achos bore ‘ma maen nhw yn dangos rhai o’r un fideos o straeon Dydd Llun, dau diwrnod yn ôl?

Faint o bobol sy’n siarad rhai o’r ieithoedd eraill fydd yn gweld eisiau eu gwasanaethau os fydd angen toriadau rhywle? Gwnaf i dewis enghraifft: Sbaeneg. Sori am ddewis Sbaeneg ond faint o siaradwyr Sbaeneg fydd yn sylwi toriadau yn y gwasanaeth BBC os mae iaith o Brydain angen tipyn bach mwy o bluraliaeth?

Wrth gwrs mae pobol wedi gofyn yr un cwestiynau yma am wasanaethau eraill fel radio dros y blynyddoedd. Does dim problem gyda gweithwyr BBC sydd yn wneud job dda gydag adnoddau sydd ar gael. Dw i eisiau gwybod beth mae pobol sy’n wneud y penderfyniadau cyllidebol yn meddwl.

7 Ateb i "Gwendid newyddion BBC"

  1. Erthygl ddiddorol.

    Dadl y BBC am ochel rhag newyddion rhyngwladol a chwaraeon ydi nad oes cymaint yn darllen y straeon rheini. Ac mae hynny’n wir yn achos Golwg 360 hefyd. Gallai stori am fater sy’n ymwneud gyda’r iaith neu S4C neu’r Eisteddfod neu rywbeth gael deg gwaith gymaint o views a stori ryngwladol.

    Ond dydw i ddim yn credu fod hynny’n ddadl yn erbyn gwneud straeon rhyngwladol a chwaraeon, chwaith. Mae pobol YN eu darllen nhw. Ac er bod y BBC yn wynebu toriadau, maen nhw dal efo adnoddau llawer mwy na bron i bawb arall. E.e. roedden nhw wedi fforddio anfon 238 o staff i’r Eisteddfod. (235 yn fwy na sy gan gwefan Golwg!).

    Y cwestiwn yn ei hanfod ydi a ddylid cael newyddion chwaraeon a rhyngwladol yn Gymraeg. Os ie rhaid torri’r got yn ol y brethyn a gwneud iddo ddigwydd.

  2. Cytuno, hefyd yr unig ‘uned’ o gynnwys ydy’r eitem newyddion.

    Beth am ‘features’? Beth am farn/cofnodion blog?

    Mae blog Vaughan Roderick, mae rhai fel blog Cylchgrawn yn dda ond does na ddim blogiau eraill am materion cyfoes a phŵer/dylanwad. Ond yn Saesneg mae Robert Peston, Adam Curtis, Stephanie Flanders ayyb.

    Bydd mwy o gyfranogiad BBC yn Gymraeg yn helpu Golwg360 a’r we Gymraeg yn gyffredinol dw i’n meddwl.

  3. “Beth am farn/cofnodion blog?”

    Dw i wedi bod yn meddwl am hyn a’r diffyg ‘mynd’ ar y rhithfro yn gyffredinol ac wedi dod i’r casgliad mai’r ateb fyddai rywbeth tebyg i Dale & Co yn Gymraeg – hynny yw ryw fath o flog ar y cyd gyda sawl cyfranwr sy’n trafod materion y dydd yn Gymraeg. Fydda i’n rhoi’r gorau i olygu Golwg 360 ganol mis Medi felly falle ei fod yn brosiect at y dyfodol.

  4. Dyma hanes penderfyniad y BBC i dynnu nol o gyhoeddi straeon rhyngwladol yn Gymraeg wedi ei adrodd mewn erthygl gan Grahame Davies:

    “There is one final source of information about the behaviour of the on-line Welsh
    audience – server statistics, which reveal not only which sections are most
    popular, but also how much use is made of individual stories, giving a kind of Xray vision of user behaviour. The results were revealing. In its early years, forty
    per cent of Cymru’r Byd’s on-line news index resources went on British and
    foreign stories. Many users expressed warm appreciation that British and foreign
    news was available in Welsh. However, a detailed survey of the most-used
    stories proved it was not British or foreign material that the audience wished to
    read.

    The stories which almost invariably topped the list were Welsh ones, and
    more specifically, those relating to the Welsh language, its communities and
    politics. This is not to say, of course, that Welsh speakers are not interested in
    news outside their communities, merely that they are not in the habit of using
    Welsh to access that news. However, faced with this user behaviour, in mid
    2003 it was decided to change the service priorities, reducing British and foreign
    provision to 10 per cent and replacing it with Welsh stories, a strategy which led
    to an increased number of page impressions.”

  5. Y ffaith ydy, mae’r BBC yno i gynnig gwasanaeth cyhoeddus. Weithiau mae hynny’n golygu gwneud pethau achos ei gwerth yn hytrach na’u poblogrwydd.

    Hefyd, yn fy marn i, dylai’r BBC trin y Gymraeg, cymaint a sydd yn ymarfol, yn gyfartal a’r Saesneg. Enghraifft da ydy’r darpariaeth iPlayer yn y Gymraeg. Fyddwn i ddim yn disgwyl popeth – e.e. 6 Music, Asian Network, World Service – i fod yn Gymraeg. Ond beth sy’n rhesymol? Byddai gwasanaeth newyddion ar-lein o safon yn rhesymol, yn fy marn i.

    Rhaid i fi gyfaddef, dwi’n tueddu edrych ar BBC Wales News Online yn Saesneg yn hytrach na’r un Gymraeg – jyst yn teimlo bod mwy o ddarpariaeth yno.

Mae'r sylwadau wedi cau.