Dw i wedi bod yn chwarae gyda’r cysyniad o ‘bots’ yn ddiweddar. Bots o’n i’n eu galw nhw tan eithaf diweddaf ond ymddengys bot y gair wedi newid ystyr ychydig yn ddiweddar.
Mae’r bots, neu beth bynnag rydych chi’n eu galw nhw, dw i’n canolbwyntio arnynt yn ddarnau bach o god PHP sy’n trydar pethau yn awtomatig, drwy cron.
Weithau (weithiau) mae awtomeiddio’n rywbeth da.
Y celfyddyd yw i bostio stwff ddiddorol yn digon aml – ond ddim yn rhy aml.
Paradise Garage Bot oedd fy ysbrydoliaeth i.
Mewn achos @fideobobdydd, er enghraifft, mae’r cod yn tynnu testun a dolen mas o daenlen ac yn ei thrydar bob dydd am 21:05 (ar hyn o bryd).
Mae angen bwydo’r daenlen gyda rhywbeth ar gyfer bob dydd. Dyw hi ddim yn cymryd lot fawr o amser. Mae hi’n lot gyflymach na Hootsuite ta waeth.
Ar hyn o bryd dw i’n ystyried ychwanegu sgript sy’n postio fideos randym yn ogystal â’r rhai o’r amserlen er mwyn cael y gorau o’r ddwy agwedd. Hefyd gallwn i ymestyn i Facebook yn ogystal â Twitter.
Fel mae’n digwydd cyflwynodd Morlais gwpl o brosiectau bach tebyg yn Hacio’r Iaith 2016 gan gynnwys @CornishWordDay. Mae e wedi bod yn gwneud e drwy ddulliau gwahanol, sef bwydo blog WordPress gyda chyfres fawr o gofnodion randym i ddechrau.
Dyma rai o’r syniadau dw i’n ystyried:
- Caneuon pop Cymraeg, efallai pedair neu chwech ar hap bob dydd gyda dolen i YouTube neu rywbeth (Piti does dim lot o ddata ar ganeuon Cymraeg ar MusicBrainz ar hyn o bryd.)
- Englynion, hen benillion, ac ati
- Adnodau o Beibl William Morgan
- Tudalennau Wicipedia sy’n bodoli ar y fersiwn Cymraeg yn unig – byddai’r gyfres yn eithaf diddorol dw i’n meddwl
- Pethau amserol o Wicipedia fel cyfeiriadau at y dyddiad heddiw
- Geiriau anghyffredin yn Gymraeg
- Geiriau Cernyweg gyda chyfieithiad Cymraeg
- Dyfyniadau, idiomau, ayyb
- Cofnodion blog diddorol o’r Rhestr
- Prosiect i gyhoeddwyr gyda channoedd o erthyglau bytholwerdd sydd eisiau mwy o ddarllenwyr/wylwyr
- Dyfynnu trydariadau ‘clasur’, e.e. y rhai sydd wedi cael llwythi o aildrydariadau
- Erthyglau cŵl/doniol o hen bapurau newydd
Gad i mi wybod os ydych chi am drafod cael cyhoeddi’ch pethau yn awtomatig tu hwnt i bethau fel Hootsuite.
Fel arall gad i mi wybod os oes cronfeydd o ddata perthnasol fel y rhai uchod.