Ychwanegu ‘rhestr ddu’ i gyfrif @UnigrywUnigryw

Dw i wedi bod yn joio canlyniadau fy mhrosiect arbrofol @UnigrywUnigryw, cyfrif Twitter sy’n postio erthyglau sydd ond ar gael ar y fersiwn Cymraeg o Wicipedia.

Dyma rai o’r trydariadau diddorol hyd yn hyn: Hywel Hughes Bogotá, Toni CarollEilian, Edrych am Jiwlia, Gwawdodyn byr.

Mae’r detholiad yn hollol randym (‘ffug-hap’ yw’r term) – heb unrhyw dueddiadau. Hyd yn hyn…

Yn fy marn i mae ’na ychydig bach gormod o gyfeiriadau at lyfrau Saesneg.

Felly o’n i’n meddwl y byddai hi’n hwyl a diddorol i hidlo’r canlyniadau gyda ‘rhestr ddu’:

  • Categori:Llyfrau hanes yn y Saesneg
  • Categori:Nofelau Saesneg
  • Categori:Teithlyfrau Saesneg
  • Categori:Atgofion a hunangofiannau Saesneg
  • Categori:Llyfrau hanes yn y Saesneg
  • Categori:Hanes Crefydd yn Saesneg
  • Categori:Bywgraffiadau Saesneg
  • Categori:Llyfrau Saesneg ar hamdden
  • Categori:Nofelau Saesneg i bobl ifanc
  • Categori:Barddoniaeth Gymreig yn yr iaith Saesneg
  • Categori:Llenyddiaeth plant Saesneg
  • Categori:Bywgraffiadau Saesneg
  • Categori:Llyfrau Saesneg

O hyn ymlaen mae’r ap fach sy’n rhedeg yn y cefndir yn osgoi unrhyw erthyglau yn y categoriau uchod yn llwyr.

Mae hi’n digon hawdd ffeindio tudalennau o dan y categoriau yma os ydych chi’n chwilio Wicipedia am enwau’r categoriau. Does dim byd wedi digwydd i’r categoriau na’r tudalennau ar Wicipedia ei hun, a dw i’n falch bod nhw yn bodoli (diolch i Wicibrosiect Llyfrau Gwales).

Ond dw i wedi penderfynu fy mod i eisiau rhoi mwy o bwyslais ar bethau eraill drwy’r cyfrif ar hyn o bryd.

Mae cwmnïau meddalwedd fel Google a Facebook yn gwneud y math yma o newidiad bob dydd yn ôl eu mympwy. I ba raddau? Does neb tu fas i’r cwmnïau yn hollol sicr. Fyddai’r cwmnïau ddim mor agored â fi yn hynny o beth.

Er ei bod hi’n fach iawn dyma achos prin, dw i’n credu, o algorithm hollol awtomatig ar unrhyw gyfrwng cymdeithasol ar y we sy’n ffafrio pethau yn Gymraeg ar draul pethau Saesneg (neu iaith arall)! Hynny yw, mae’r cod yn osgoi pethau Saesneg o dan gategoriau penodol ‘yn fwriadol’. Byddwn i’n croesawu enghreifftiau eraill o hyn yn y sylwadau.