Jekyll: ffordd o gynhyrchu gwefannau statig

Dw i wedi bod yn chwarae gyda Jekyll yn ddiweddar, system sy’n cynhyrchu gwefan statig.

Fel system rheoli cynnwys mae WordPress dal yn ffefryn i mi ond mae hi’n bwysig ceisio a phrofi ffyrdd eraill o weithio. Dwy fantais o greu gwefan statig trwy Jekyll ydy’r cyflymder ac y ffordd mae’n symleiddio gwarchodaeth achos does ’na ddim o reidrwydd sgript sy’n rhedeg ar y gweinydd tra bod pobl yn ymweld â’ch gwefan.

Un peth a oedd yn fy nrysu ar y dechrau oedd y ffaith bod thema yn fforc o’r system craidd. Hynny yw, roedd rhaid i mi glonio’r system a thema yn eu cyfanrwydd yn hytrach na rhoi thema mewn cyfeiriadur/ffolder yn y hen ffordd WordPressaidd o fyw. Dw i’n cymryd bod angen rheoli fersiynau trwy Git er mwyn diweddaru’r system craidd wedyn. Tybed beth yw’r manteision o weithio fel hyn?

Oes gwefannau Cymraeg sydd wedi eu creu ar Jekyll, ac os oes unrhyw themâu Cymraeg ar gael? Does dim byd perthnasol i weld ar Github. Efallai dylwn i gyfieithu un syml er mwyn ehangu byd Jekyll ychydig. 🙂